Dw i’n caru’r lle yma a buaswn yn ei argymell i unrhyw un

Gwerth da am eich arian. Tocynnau yn caniatáu chi i weld ‘y maes’ gyda’i amrywiaeth o gynigion arbennig, llwyfannau allanol, a’r cyfle i weld arddangosfeydd al fresco o ddawnswyr, corau a cherddorion. Dros y deuddydd roeddem ni yno, mi wnaethon ni weld dawnsiwr a chantorion o Estonia, Slofenia, Canada, America, Zimbabwe, Singapore, a llawer mwy. Ac wrth gwrs y Cymry a’r Albanwyr, gan gynnwys rhai corau meibion rhyfeddol. Rydych hefyd yn medru mynd mewn i’r brif babell, lle gallwch fynd mewn ac allan fel y mynnoch i weld y cystadlaethau. Mae’r sefyllfa yn anffurfiol a chyfeillgar. Rwyf wastad yn cael fy syfrdanu nad oes mwy o bobl yn gwybod am y digwyddiad gwych yma. Rwy’n caru’r lle a buaswn yn ei argymell i unrhyw un sy’n mwynhau gweld a chlywed cerddoriaeth o ddiwylliannau arall.

Sue Adolygiad Trip Advisor ()