Cronfa Bwrsariaeth

 

 

 

Mae tua 4,000 o berfformwyr yn ymweld ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn i ganu a dawnsio mewn cyfuniad unigryw o gystadlu, perfformio, a heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol. I lawer mae’r daith i Langollen yn golygu cost sylweddol ac mae’r Gronfa Fwrsariaeth yn ffordd o ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol i grwpiau, a’u cefnogi yn ystod eu hymweliad.

Mae’r gronfa bwrsariaeth yn agored i bob cystadleuydd a phenderfynir ar geisiadau yn ôl angen, teilyngdod artistig a’n dymuniad i wneud yr Eisteddfod mor amrywiol a hygyrch â phosibl. Gall dyfarniad o’r Gronfa Fwrsariaeth wneud gwahaniaeth sylweddol i allu grŵp i fynychu’r Eisteddfod. Dyma beth mae wedi’i olygu i gystadleuwyr diweddar:

“Teuluoedd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth sy’n talu am y daith er mwyn rhoi cyfle i’r cantorion ifanc hyn hyrwyddo cerddoriaeth gorawl Estonia dramor. Oherwydd y costau teithio uchel mae’ cymryd rhan yn costio’n eithaf drud. Roedd ein côr mor hapus i dderbyn arian gan y Fwrsariaeth. Diolch yn fawr! ” Côr Ysgol Gorawl Musamari, Estonia

 “Byddwn wir yn gwerthfawrogi eich help!” Côr Ysgol Economeg Warsaw

“Nid yw’r rhan fwyaf o’n haelodau yn annibynnol yn ariannol, oherwydd bod hanner ohonynt yn dal i fod yn fyfyrwyr a’r 20 y cant arall newydd adael ysgol. Pe bai’n rhaid i fyfyrwyr coleg brynu eu tocynnau awyren eu hunain, mi fyddai’n cymryd tua wyth mis iddyn nhw gynilo arian i allu gwneud hynny. Diolch i chi am eich cefnogaeth i’n galluogi i gyflawni ein gweledigaeth i wneud byd celfyddyd gorawl mwy rhydd, amrywiol a ffrwythlon.” Côr Ching-Yun, Taiwan

“Mae’r rhan fwyaf o’n dysgwyr ysgol yn dod o gymunedau difreintiedig tlawd. Prin fod ganddyn nhw ddigon i gael bwyd ar eu bwrdd. Ond mae ganddyn nhw gariad at gerddoriaeth… diolch i’r Cyllid Bwrsariaeth gallwn ddangos a’u hysgogi bod modd iddyn nhw fynd yn bell gyda cherddoriaeth gorawl.” Commtech C/S, De Affrica

Rydym yn croesawu rhoddion i’r Gronfa Fwrsariaeth a bydd yr holl gyfraniadau o fudd uniongyrchol i’r cystadleuwyr sydd wrth galon yr Eisteddfod.

Sut mae’ch arian chi’n gallu gwneud gwahaniaeth:

  • Mae £25 yn prynu tri phryd i gystadleuydd ar faes yr Eisteddfod
  • Mae £45 yn talu i gystadleuwyr ddod ar fws o’r maes awyr i Langollen
  • Mae £150 yn prynu visa i’r DU i un cystadleuydd
  • Mae £220 yn prynu tlws i enillydd cystadleuaeth