Telerau ac Amodau Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Rydym wedi ymrwymo i gynnal digwyddiad Covid diogel. Mae gennym eisoes fesurau penodol ar waith i sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn cael eu hamddiffyn ac yn gallu ymlacio a mwynhau awyrgylch hyfryd yr ŵyl, tra’n gwybod bod pob rhagofal wedi’i gymryd. Ar gyfer 2022 mae’r rhain yn cynnwys lleoliad llai, er mwyn sicrhau y gallwn reoli nifer yr ymwelwyr â’n safle yn ofalus, yn ogystal â gweithdrefnau hylendid gwell.

Gan fod y canllawiau ar gyfer Covid-19 yn newid yn rheolaidd, rydym yn cadw llygad barcud ar gyngor Llywodraeth Cymru ynghylch digwyddiadau mawr, a byddwn yn rhoi manylion llawn i ddeiliaid tocynnau yn nes at fis Gorffennaf. Os hoffech weld y cyngor diweddaraf ewch i: https://llyw.cymru/coronafeirws a https://www.croeso.cymru/cy/coronafeirws

Rhoddir y tocyn hwn ar ran y cyflwynydd , sef Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac mae’n ddarostyngedig i’r telerau ac amodau canlynol.

  1. Once purchased, tickets cannot be exchanged, refunded or returned, and are valid on the date/time specified only.
  2. Tickets can only be exchanged or refunded in the case of a cancelled performance.
  3. Once you have printed or received your tickets, please keep them in a safe place as we cannot accept duplicates, copies or other alternative tickets of any kind.
  4. Unlawful resale or attempted unlawful resale of a ticket is grounds for seizure or cancellation of that ticket without refund or other compensation.
  5. Ni chaniateir mynediad i neb i’r digwyddiad hwn heb docyn neu gerdyn pàs dilys.
  6. Er mwyn diogelwch y bobl yn y digwyddiad, mae rheolwyr y lleoliad ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cadw’r hawl i wrthod mynediad a chynnal chwiliadau diogelwch. Ni ddylech ddod ag alcohol neu unrhyw eitemau gyda chi nad ydynt yn hanfodol (fel cadeiriau gwersylla) gan y bydd y rhain yn cael eu hatafaelu wrth y fynedfa ac ni fyddant yn cael eu dychwelyd.
  7. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cadw’r hawl i newid neu amrywio’r cynnwys neu amseriad y cyfan neu unrhyw ran o’r digwyddiad o dan amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth resymol heb unrhyw rwymedigaeth i wneud unrhyw drefniant ar gyfer ad-dalu neu gyfnewid tocynnau.
  8. Mae mynediad i’r digwyddiad ar risg Deiliad y Tocyn ei hun. Ni fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn atebol am unrhyw golled, anaf neu ddifrod a gafwyd yn y digwyddiad, gan gynnwys difrod, lladrad neu golledion i eiddo a cherbydau modur, os yw’r achos yn ganlyniad i esgeulustod deiliad y tocyn neu weithredoedd noddwyr neu drydydd partïon eraill neu force majeure.
  9. Fel amod gwerthu, mae deiliaid tocynnau yn cytuno i gael eu ffilmio, tynnu eu llun a’u recordio ar gyfer teledu, radio, gwe-ddarllediad a darllediadau cyhoeddus eraill mewn unrhyw gyfrwng a/neu ar gyfer unrhyw fideo neu DVD fel rhan o’r gynulleidfa a/neu gan unrhyw gamerâu teledu cylch cyfyng a recordiadau a weithredir gan neu ar ran Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen at ddibenion diogelwch y cyhoedd.
  10. Mae’n amod o gael mynediad i’r sioe na allwch wneud unrhyw ddefnydd masnachol (nad yw’n breifat) o’r sioe neu unrhyw ran ohoni.
  11. Ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn canllaw, cŵn cymorth a chŵn clyw.
  12. Gwiriwch fanylion, amseriad a thaliadau meysydd parcio y digwyddiad cyn teithio gan y gall y rhain gael eu newid.
  13. Gwiriwch eich taith cyn cychwyn er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd mewn pryd. Nid yw’r trefnwyr yn gyfrifol am unrhyw oedi o ganlyniad i darfu ar drefniadau teithio.
  14. Dylai unrhyw gwynion sy’n ymwneud â’r digwyddiad gael eu gwneud i swyddfa’r trefnydd yn brydlon, cyn neu yn ystod y digwyddiad.
  15. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i dderbyn pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn ystod toriad priodol ond ni ellir gwarantu mynediad pob tro.
  16. Ni chaniateir offer recordio yn ardaloedd perfformiad y digwyddiad.
  17. Bydd rhai o’r digwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr awyr agored a bydd yn digwydd waeth beth yw’r tywydd (oni bai bod y swyddog diogelwch o’r farn nad yw hynny’n ddiogel). Nid oes unrhyw ad-daliadau ar gyfer tywydd gwael. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod gwisgo’n briodol ar gyfer digwyddiad awyr agored ar yr adeg berthnasol o’r flwyddyn.
  18. Yn unol â’r gyfraith, nid oes caniatâd i ymwelwyr o dan 18 oed brynu neu samplo diodydd alcoholig neu gyllyll.