Galw am gantorion i ymuno â chôr o 200

Mae ymgyrch wedi’i lansio i chwilio am gantorion o bob rhan o ogledd Cymru i ymuno â chôr torfol o 200 o leisiau i alw am heddwch byd-eang. 

Bydd y perfformiad yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn talu teyrnged i’r miloedd o ddynion, merched a phlant a gafodd eu lladd mewn cyflafan yn rhyfel Bosnia yn y 1990au ac yn taflu goleuni ar gyflwr enbyd y rhai sy’n dioddef ar hyn o bryd yn Wcrain sydd wedi’i rhwygo gan ryfel. 

Bydd y cyngerdd, o’r enw Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, yn cael ei chynnal am 8pm nos Fercher, Gorffennaf 5, ychydig ddyddiau cyn Diwrnod Coffa Srebrenica ar Orffennaf 11 i gofio’r 8,372 o Fwslimiaid Bosniaidd a gafodd eu lladd yn 1995. 

Mae motiff y Blodau Gwyn wedi’i fabwysiadu fel symbol o goffâd yn Srebrenica ac mae 11 petal y blodyn yn cynrychioli’r diwrnod y dechreuodd yr hil-laddiad. 

Dewiswyd thema’r cyngerdd i adlewyrchu pwrpas sefydlu’r Eisteddfod, digwyddiad eiconig a sefydlwyd yn 1947 i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. 

Canolbwynt y rhaglen fydd detholiadau o offeren heddwch ingol, The Armed Man, gan y cyfansoddwr Cymreig enwog Karl Jenkins. 

Mae angen gwirfoddolwyr i ymuno â’r côr enfawr, sydd wedi’i ffurfio’n arbennig, un o’r corau mwyaf a welwyd erioed yng ngogledd Cymru. 

Bydd cerddorfa nodedig NEW Sinfonia yn cyfeilio iddynt gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Eisteddfod Llangollen. 

Mae arweinydd NEW Sinfonia, Robert Guy, wedi cyhoeddi galwad ar gantorion o bob oed i gofrestru ar gyfer y côr, gydag ymarferion i gychwyn ar Fai 13. 

Dywedodd na fydd unrhyw rwystrau i gymryd rhan yn yr achlysur cyffrous hwn, gan ychwanegu: “Nid yw wedi’i gyfyngu i’r rhai sydd â phrofiad blaenorol o ganu cyngherddau. Mae’n agored i bawb, y cyfan sydd ei angen arnyn nhw yw cariad at ganu.” 

Wrth galon y côr bydd criw o gantorion amatur brwd sy’n perthyn i’r prosiect hynod lwyddiannus NEW Lleisiau a sefydlwyd eisoes gan NEW Sinfonia. 

Meddai Robert: “Diolch i lwyddiant ysgubol ein prosiect NEW Lleisiau mae gennym eisoes grŵp craidd o gantorion amatur brwdfrydig yn barod i gamu i fyny a chanu yn Llangollen. Ond mae angen llawer mwy o gantorion, yn enwedig tenoriaid a baswyr. 

“Bydd angen 200 o leisiau i gyd felly rydym yn annog unrhyw un sydd ag angerdd am ganu ac awydd i gymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn i gofrestru’n gyflym.” 

Mae NEW Lleisiau yn cynnwys ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru yn dilyn gwrthdaro neu erledigaeth yn eu gwledydd eu hunain. Maent wedi cael cysur o ganu gyda’i gilydd ac wedi gwneud ffrindiau newydd trwy iaith gyffredin cerddoriaeth. 

Yn eu plith mae arweinydd ifanc o Wcrain, Polina Horelova, a orfodwyd gyda’i theulu ifanc i ffoi o’i dinas enedigol, Mariupol ar ôl i’r Rwsiaid oresgyn y ddinas a’i difrodi. 

Y gobaith yw y bydd Polina yn arwain y darn gwerin traddodiadol o Wcrain, Cân yr Afon yn ystod y cyngerdd coffa. 

Ychwanegodd Robert: “Rydym yn falch bod NEW Lleisiau yn cynnwys cymysgedd mor eang o alluoedd cerddorol ac amrywiaeth o genhedloedd. Rydym yn cynnwys cantorion o Gymru, Wcráin, Irac, Iran, Algeria ac El Salvador, ymhlith gwledydd eraill. 

“Ar gyfer ein rhaglen Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, mae angen sopranos, altos, tenoriaid, baswyr a lleisiau ifanc hefyd; rydym yn annog pawb i ddod ymlaen. 

“Bydd ymarferion rheolaidd felly does dim angen i bobl ofni nad ydyn nhw’n ddigon da neu ddiffyg hyder. Rydym yma i’w harwain trwy’r holl broses arbennig.” 

Bydd ymarferion mewn dwy ganolfan, un yng nghanolfan celfyddydau cymunedol Tŷ Pawb, Wrecsam, a’r llall yn Eglwys y Plwyf Llanelwy. Maent yn cyfarfod ar foreau Sadwrn rhwng 10am a 12 canol dydd. Mae yna hefyd gyfleuster i bobl ymuno ag ymarferion trwy dechnoleg fideo-gynadledda Zoom. 

Dywedodd Cynhyrchydd Gweithredol Eisteddfod Llangollen, Camilla King: “Rydym wedi bod yn meddwl am wneud rhywbeth ar y thema a’r raddfa hon ers peth amser ond dim ond eleni y mae’r gwahanol linynnau wedi dod at ei gilydd i greu’r hyn sy’n argoeli i fod yn noson hudolus. 

“Mae’n dorcalonnus edrych yn ôl ar ryfel Bosnia a sylweddoli bod hunaniaeth ddiwylliannol gyfan dan ymosodiad. 

“Yn ogystal â llofruddio’r boblogaeth, targedwyd ei threftadaeth gyfan, dinistriwyd gweithiau celf a dymchwelwyd eiconau diwylliannol. Ac yn awr dim ond dau ddegawd yn ddiweddarach mae erchyllterau tebyg iawn yn digwydd yn Wcrain ar hyn o bryd. 

“Roedden ni eisiau cynnal cyngerdd i dynnu sylw at y ffaith bod y ddynoliaeth yn gallu bod yn gymaint yn well na hyn. Roeddem am adlewyrchu’r ethos o heddwch, cyfeillgarwch ac amrywiaeth ddiwylliannol sydd wrth wraidd yr Eisteddfod Ryngwladol a dyna’r rheswm pam y cafodd ei sefydlu yn y lle cyntaf yr holl flynyddoedd yn ôl yn 1947. 

“Bydd hi’n noson fyfyrgar sy’n procio’r meddwl ond bydd hefyd yn codi calon gan ei bod yn amlygu themâu pwysig o obaith, undod a goresgyn rhaniadau.” 

Ychwanegodd Camilla: “Rwy’n disgwyl y bydd y galw mawr am docynnau gan nad oes amheuaeth yn fy meddwl y bydd hon yn noson fythgofiadwy. Rydym yn gwahodd pawb i ddod draw i fwynhau.” 

Am fwy o fanylion am y gyngerdd am 8pm nos Fercher, Gorffennaf 5, ewch i: https://international-eisteddfod.co.uk/events/wednesday-evening/ ac i gofrestru ar gyfer y côr neu i gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch lleisiau@newsinfonia .org.uk a robert@newsinfonia.org.uk neu ffoniwch Robert Guy ar 07725 050510. 

Gwedd newydd ar gyfer Llangollen 2023

Os ydych chi’n darllen y stori hon efallai eich bod wedi sylwi bod ein gwefan wedi cael adfywiad lliwgar! Mae’r wedd newydd hon yn cynrychioli ein brand newydd, a ddyluniwyd gan yr asiantaeth ddylunio o ogledd Cymru View Creative.

Wedi’i lansio ym mis Mai 2023, mae’r ailfrandio wedi bod yn un rhan o broses adolygu strategol sydd wedi mynd rhagddi ers 2019, gan sicrhau ein bod yn diweddaru pob maes o’n busnes i fod yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi bod yn gweithio ar yr ail-frandio ers mis Medi 2022 ac mae nifer o staff, aelodau bwrdd, gwirfoddolwyr, cyllidwyr a llu o ffrindiau a chydweithwyr eraill wedi ymwneud â’r gwaith yma.

Fel gyda phob maes o’n gwaith, rydym yn parhau’n ymrwymedig i’n hegwyddorion sylfaenol: defnyddio’r traddodiad eisteddfodol, cystadlaethau cyfeillgar a rhoi llwyfan i’r celfyddydau a diwylliant, fel modd o hybu heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol. Gobeithiwn y bydd ein gwedd newydd ffres yn ein helpu i gyflawni hyn wrth ddenu cynulleidfaoedd a chefnogwyr newydd, a’n cydweddu â gwyliau rhyngwladol blaenllaw eraill.

Gobeithio mai un o’r pethau cyntaf y bydd pobl yn sylwi arno am y brandio newydd yw’r palet lliw bywiog. Mae hyn wedi’i gyfosod drwy adolygu ein harchif ffotograffig, a’i ysbrydoli gan liwiau gwisgoedd, baneri a gorymdeithiau rhyngwladol dros y 76 mlynedd diwethaf. Mae ein hymwelwyr yn dweud wrthym yn aml fod bywiogrwydd gweledol a chynlluniau lliw beiddgar ein digwyddiadau yn aros yn eu cof.

Tynnwyd ysbrydoliaeth hefyd o’n tref anhygoel a’r cyffiniau, gan edrych ar siapiau a sut y gellir trosi’r rhain yn deipograffeg a graffeg. Mae siapiau wedi’u hysbrydoli gan nodweddion naturiol eiconig a gwaith pobl Llangollen, y logo gwreiddiol a’r arddangosfeydd blodau godidog sy’n agwedd mor unigryw o’r Eisteddfod. Yn ogystal, mae’n bwysig hefyd bod y brand yn gweithio mewn dwy iaith, gan amlygu ein lle yng Nghymru a’r byd ehangach.

Mae’r brand newydd yn gwneud defnydd o’r llythyren Gymraeg LL sydd yn gwneud i lawer feddwl am y Gymraeg a llefydd yng Nghymru. Deugraff yw Ll (fersiwn priflythyren: LL) (dau symbol sy’n cyfrif fel un llythyren), hon yw 16eg llythyren yr wyddor Gymraeg, ac mae’n llythyren gyntaf dros 400 o enwau lleoedd ledled y wlad, gan gynnwys wrth gwrs y dref ddihafal sy’n gartref i’n gŵyl.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad blynyddol gwirioneddol unigryw ac anhygoel. Cynhelir gŵyl 2023 o ddydd Mawrth y 4ydd o Orffennaf tan ddydd Sul y 9fed o Orffennaf ac mae’n cynnwys safle awyr agored bywiog, cyfres o gyngherddau gyda’r nos o’r radd flaenaf, a chymysgedd amrywiol o gystadlaethau cerddoriaeth a dawns traddodiadol a chyfoes. Gallwch ddarganfod mwy a gweld yr holl ddigwyddiadau yma.

Canwch gyda ni!

Sing with us! / Canwch gyda ni!

Dewch i ymuno Lleisiau Llan, y côr cyfunedig o leisiau Cymraeg a rhyngwladol, yn canu gyda’i gilydd ar gyfer The White Flower: Into the Light, Mercher 5ed Mehefin, 8yp, ym Mhafiliwn Brenhinol Llangollen.

Wedi’i chynhyrchu gan NEW Sinfonia mewn partneriaeth gyda Llangollen 2023 a gyda chydweithrediad Remembering Srebrenica, mae The White Flower yn gyngerdd o goffadwriaeth a gobaith, yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia, unawdwyr o Bosnia, Cymru ac Wcrain, gyda rhaglen yn cynnwys detholiadau o The Armed Man gan Karl Jenkins.

Arwyddo i fynnu e-bostiwch voices@newsinfonia.org.uk

Mae croeso i bawb, a chaiff y gerddoriaeth ei darparu o fewn ymarferion wedi’u chynnal ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru ym mis Mai a Mehefin.

Peidiwch â cholli allan!

Mae tocynnau £16-£40 ar gyfer y cyngerdd ar gael yma – https://international-eisteddfod.co.uk/events/wednesday-evening/

Adolygiad o Ddefnydd Arwyddair

Yn dilyn cryn ystyriaeth o ymateb y cyhoedd, mae’r Bwrdd wedi pleidleisio i barhau i ddefnyddio arwyddair T. Gwynn Jones. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i drafodaeth gyhoeddus yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod arwyddair yr Eisteddfod yn adlewyrchu’r byd rydym yn byw ynddo heddiw a’r byd rydym am fyw ynddo yfory.

Wrth drafod ein hagwedd at iaith fel sefydliad, ac wrth i ni ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg newydd (fydd yn cael ei rannu’n fuan), credwn fod angen ystyried llawer o leisiau gwahanol, a chwestiynu sut mae iaith yn parhau i esblygu.

Hoffem ddiolch i’r rhai sydd wedi cyfrannu’n adeiladol at y drafodaeth ystyrlon hon; mae’r dadleuon wedi’u gwneud yn rymus iawn, ar y naill ochr, i gadw arwyddair presennol yr Eisteddfod, ac ar yr ochr arall, i gomisiynu barddoniaeth newydd. Er mwyn sicrhau fod y neges yn glir i’n cynulleidfaoedd ar draws y byd, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yr arwyddair yn ymddangos ochr yn ochr â’u gilydd lle bynnag y bo modd.

Ein ffocws nawr yw cynnal Eisteddfod a fydd yn dod â chymunedau o bedwar ban byd ynghyd, mewn dathliad llawen o rym cerddoriaeth a dawns i greu dealltwriaeth a harmoni.

Adolygiad o Ddefnydd Arwyddair

Byd gwyn fydd byd a gano. Gwaraidd fydd ei gerddi fo
Blessed is a world that sings. Gentle are its Songs

Y geiriau uchod yw arwyddair Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Fe’u hysgrifennwyd gan T. Gwynn Jones yn 1946, ac fe’u comisiynwyd fel disgrifiad barddonol o’n pwrpas ac maent wedi gwasanaethu’r sefydliad yn rhagorol ers 75 mlynedd. Mae’r geiriau’n rhan arwyddocaol o’n hanes ac mae’r arwyddair i’w weld yn addurno ein gwaith celf, tlysau ein cystadlaethau a’n cartref, y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein sefydliad cyfan i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gan y Comisiwn Elusennau, ein cyrff ariannu cyhoeddus a’n cynulleidfaoedd. Mae rhan o’r broses hon yn cynnwys ystyried pwy ydym ni heddiw, pwy ydym am fod yn y dyfodol, a sut ydym yn cyfathrebu hyn. Ar ôl rhannu esiamplau o ‘ddelwedd newydd’ gyda nifer o randdeiliaid yn ystod proses adborth, ac fel rhan o’n gwaith adnewyddu parhaus cawsom gyngor gan bartneriaid allanol dibynadwy sy’n gweithio’n rheolaidd yn y Gymraeg, y dylem fod yn ymwybodol o gamddehongli posibl wrth gyfieithu ein harwyddair o’r Gymraeg i ieithoedd eraill.

Bydd llawer o Gymry Cymraeg yn gwybod mai yng nghyd-destun cwpled T. Gwynn Jones, bod y geiriau ‘byd gwyn’ yn golygu ‘blessed’ yn Saesneg, ac yn dod o ‘Gwyn eu byd’, geiriau agoriadol y Gwynfydau yn Efengyl Sant Mathew yn y Beibl. Fodd bynnag, cyfieithiad llythrennol (gan gynnwys y rhai a ddarperir gan offer cyfieithu ar-lein ac apiau) i’r Saesneg yw ‘white world’. Ar ôl i hyn gael ei ddwyn i’n sylw, roeddem yn teimlo ei fod yn gyfrifoldeb i ni ymchwilio ac ymgynghori ymhellach i gael eglurder ar y mater hwn ac ystyried ffyrdd posibl ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys siarad â nifer o siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, arbenigwyr ac ymgynghorwyr ar y Gymraeg, o fewn a thu allan i’n sefydliad, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, a’n cyllidwyr. Eu cyngor unfrydol oedd bod yr arwyddair yn brydferth o’i ddarllen gyda dealltwriaeth o’r Gymraeg, ond i’r di-Gymraeg a chenedlaethau newydd o gynulleidfaoedd ac yn wir rhai Cymry Cymraeg, nid yw’r ystyr a fwriadwyd yn ddigon clir.

Mae geiriau T. Gwynn Jones wedi teithio o Langollen o amgylch y byd, gan ledaenu’r neges Gymreig o heddwch, ac mae ein harwyddair wedi ein gwasanaethu’n aruthrol o dda ers 75 mlynedd; rydym yn gwbl falch ohono yn ei ystyr a’i gyfieithiad gwreiddiol. Wrth i Eisteddfod Llangollen barhau ar lwybr pwysig o adnewyddu ein pwrpas mewn byd modern, mae’r Bwrdd wedi cytuno bod hyn yn rhoi cyfle creadigol cyfoethog i ystyried y Gymraeg fel iaith fyw ac esblygol.

Bydd ein harwyddair presennol a’n tarian boblogaidd yn parhau’n rhan o hunaniaeth weledol yr Eisteddfod yn 2023, a bydd y Bwrdd yn treulio’r 5 mis nesaf mewn ymgynghoriad â’n rhanddeiliaid ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer 2024 a thu hwnt.

Mewn ymateb i’r adolygiad hwn sydd wedi cael sylw gan y cyfryngau ac unigolion ar gyfryngau cymdeithasol, rydym am ddarparu rhywfaint o gyd-destun ychwanegol sydd wedi’i gamddeall neu wedi’i gamliwio. Rydym am ddatgan yn glir nad ydym wedi awgrymu unrhyw hiliaeth ar unrhyw adeg. Mae’r Eisteddfod wedi bod erioed, yn batrwm ar gyfer undod, ac mae’n parhau i fod felly. Dymunwn bwysleisio hefyd ein bod yn deall yn iawn nad yw mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn darllen y geiriau ‘byd gwyn’ yng nghyd-destun yr arwyddair fel unrhyw beth heblaw ‘blessed’. Mater o gyfieithu yw hyn drwy’r dull sydd fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio gan gynulleidfaoedd di-Gymraeg ledled y byd. Ac yn olaf, ni allwn ddatgan digon ein bod yn parhau i arddel teimlad y geiriau fel y’u bwriadwyd gan T. Gwynn Jones.

O ran eglurder ynghylch rhai o’r pwyntiau yn llythyr yr Athro Gruffydd Aled Williams i’r Western Mail ar 22 Mawrth 2023, hoffem ei gwneud yn glir na chynghorodd Cyngor Celfyddydau Cymru yr Eisteddfod i roi’r gorau i ddefnyddio ein harwyddair presennol. Roedd y cyngor a gynigiwyd ar y pwnc hwn yng nghyd-destun sgwrs anffurfiol am yr ymgynghoriad ar frand newydd. Roeddent yn cytuno â ni fod trafod yr arwyddair, a naws ac effaith geiriau ac iaith mewn cyd-destun rhyngwladol, yn rhan o broses archwilio hunaniaeth brand newydd. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn annibynnol ar Gyngor Celfyddydau Cymru ac nid ydym yn un o’r sefydliadau sy’n derbyn cyllid refeniw gan Gyngor y Celfyddydau. Rydym wedi derbyn dau grant diweddar gan Gyngor y Celfyddydau: ‘Adeiladu pontydd ar draws y byd’ – i gefnogi man cyfarfod yn Llangollen 2023 i berfformwyr o bedwar ban byd brofi traddodiadau gwyliau Cymreig, a ‘Lleisiau Newydd Cymru’, prosiect newydd sy’n archwilio natur amlddiwylliannol ac amlieithog y Gymru fodern.

Bydd ein tîm bychan o staff a’n grŵp amhrisiadwy o wirfoddolwyr yn awr yn canolbwyntio ar gyflwyno Eisteddfod eithriadol 2023 y mae ein cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.

Ar ran Bwrdd Ymddiriedolwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, 15.03.23 (diweddarwyd 28.03.23)

 

Bariton ifanc a ddisgrifiwyd fel y Bryn Terfel newydd ar ben y byd

Mae bariton 25 oed o’r Bontnewydd sydd wedi cael ei ddisgrifio fel y Bryn Terfel newydd wedi’i goroni’n ganwr ifanc gorau’r byd.

Rhoddodd Emyr Lloyd Jones, 25 oed, berfformiad cyffrous i gipio teitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn 75ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

(rhagor…)

Syr Bryn a Phrif Weinidog Cymru yn anfon negeseuon pen-blwydd hapus yn 75 oed i ŵyl heddwch eiconig

Mae’r seren opera Syr Bryn Terfel a’r Prif Weinidog Mark Drakeford ymysg llu o bobl sydd wedi llongyfarch gŵyl eiconig ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 75 oed.
Hefyd ymhlith y rhai sydd wedi anfon eu dymuniadau gorau i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y mae’r canwr a’r cyflwynydd teledu poblogaidd, Aled Jones, a fydd yn perfformio yn y digwyddiad eleni. (rhagor…)

Y sêr roc indie Amber Run yn ymuno â jamborî llawen i ddathlu 100 mlynedd o gerddoriaeth

Bydd y sȇr roc indie byd-enwog Amber Run a’r pwerdy blues Elles Bailey ymhlith y perfformwyr wrth i ogledd Cymru baratoi ar gyfer un o’i gwyliau gorau erioed.

Byddant yn camu ar lwyfan enwog y pafiliwn ar gyfer “jamborî llawen, hwyliog i’r teulu cyfan” wrth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddychwelyd fel digwyddiad byw am y tro cyntaf ers 2019. (rhagor…)

Ardal BIWS yr Eisteddfod Ryngwladol yr un gyntaf o’i bath yng Nghymru

Gŵyl ryngwladol o fri fydd y digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru i ddarparu gofod ymlacio diogel arbennig i bobl ag anghenion arbennig ac ychwanegol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni yn ôl yn fyw eto i ddathlu ei 75 mlwyddiant dros bedwar diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, a bydd yn cynnwys ardal dawel bwrpasol yng nghanol Maes yr Eisteddfod. (rhagor…)

Seren y Sitar Anouskha Shankar yn cyd-fynd â neges heddwch yr ŵyl

Bydd sŵn cyfareddol y sitar yn creu cyffro mewn gŵyl ryngwladol pan fydd Anoushka Shankar, sydd wedi cael ei enwebu am saith gwobr Grammy, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Bydd Shankar yn cymryd rhan yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am 8pm nos Wener, Gorffennaf 8, ac mae tocynnau ar werth yn awr wrth i’r digwyddiad baratoi i ddathlu ei 75 mlwyddiant. (rhagor…)