YCHWANEGU CHWEDLAU CERDDORIAETH A SER BRIG Y SIARTIAU I ARTISTIAID EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Bydd Brenin Disgo Nile Rodgers & CHIC a’r seren bop Jess Glynne yn perfformio fel prif berfformwyr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf nesaf.

Cyhoeddir heddiw y bydd yr arloeswr cerddoriaeth chwedlonol Nile Rodgers yn dod ag awyrgylch parti anhygoel i Bafiliwn Llangollen ddydd Iau 11 Gorffennaf,  tra bydd seren brig y siartiau Jess Glynne yn serennu ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf.

Yn cefnogi Nile Rodgers & CHIC bydd y gantores a’r cyfansoddwr Sophie Ellis Bextor a’r band pop cyfoes o’r 80au, Deco.

Bydd tocynnau i’r ddwy sioe ar werth i’r cyhoedd yn gyffredinol am 9am ddydd Gwener, 27 Hydref, o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Wrth siarad am ddyddiad Llangollen, dywedodd Nile Rodgers: “Y DU yw fy ail gartref felly er gwaetha’r ffaith nad yw hi hyd yn oed yn aeaf eto rwy’n gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn dod ag ‘amseroedd da’ i chi yr haf hwn!”

Dywedodd Jess Glynne, sydd wedi cyhoeddi’r sioe fel rhan o’i thaith haf yn y DU: “Fedra i ddim aros i fynd yn ôl ar y llwyfan a mynd yn fyw i’m holl ddilynwyr! Bydd hi’n flwyddyn dda… I ffwrdd â ni!”

Mae Nile Rodgers wedi’I gynnwys yn y Rock & Roll Hall of Fame, wedi’i gyflwyno hefyd i Restr Enwogion y Cyfansoddwyr, mae’n gynhyrchydd, yn drefnydd a gitarydd sydd wedi ennill gwobrau Grammy lu gyda thros 200 o gynyrchiadau i’w enw.

Fel cyd-sylfaenydd CHIC, arloesodd iaith gerddorol a gynhyrchodd caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau dro ar ôl tro, caneuon fel Le Freak, Everybody Dance a Good Times a sbardunodd ddyfodiad hip-hop.

Mae ei waith gyda CHIC a’i gynyrchiadau ar gyfer artistiaid fel David Bowie, Diana Ross a Madonna wedi gwerthu mwy na 500 miliwn albwm a 75 miliwn o senglau ledled y byd. Mae ei gydweithio arloesol, gyda Daft Punk, Avicii, Sigala, Disclosure a Sam Smith yn adlewyrchu’r gorau o gerddoriaeth gyfoes.

Mae ei waith yn sefydliad CHIC gan gynnwys We Are Family gyda  Sister Sledge ac I’m Coming Out gyda Diana Ross a’i gynyrchiadau ar gyfer artistiaid fel David Bowie (Let’s Dance), Madonna (Like A Virgin) a Duran (The Reflex) wedi gwerthu mwy na 500 miliwn albwm a 100 miliwn o senglau ledled y byd, tra bod ei gydweithio arloesol gyda Daft Punk (Get Lucky Punk), Daddy Yankee (Agua), a Beyoncé (Cuff It) yn adlewyrchu’r gorau o ganeuon cyfoes.

Jess Glynne yw’r unig artist unigol benywaidd o Brydain i gael saith sengl rhif un yn y DU. Mae’r newyddion ei bod hi’n mynd i Langollen yn dilyn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf Friend of Mine ar ôl can yr haf What Do You Do?.

Mae’r ddau sengl yn nodi pennod newydd a mwy personol i’r canwr-gyfansoddwr sydd wedi ennill Grammy, sydd wedi cyflwyno rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy pop dawnsio’r degawd diwethaf.

Gan ddod i amlygrwydd cenedlaethol fel y lleisydd ar Rather Be gan Clean Bandit a enillodd wobr Grammy yn 2014, a My Love gan Route 94, mae  Jess bellach yn un o berfformwyr mwyaf y DU gyda chaneuon sy’n cynnwys I’ll Be There, Hold My Hand a Don’t Be So Hard On Yourself.

Mae ei dau albwm blaenorol wedi gwerthu platinwm a chyrraedd Rhif Un yn y siartiau, mae hi wedi casglu tri enwebiad gwobr Ivor Novello, gan ennill Grammy, ac naw enwebiad ar gyfer Gwobr Brit a 1.2 biliwn o ffrydiau.

Y prif sioeau yw’r diweddaraf i gael eu cyhoeddi fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng hyrwyddwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe and Taylor.

Gwerthwyd pob tocyn o sioe y sêr indie y Manic Street Preachers a Suede yn yr ŵyl heddwch eiconig  ar ddydd Gwener 28 Mehefin o fewn awr i fynd ar werth ac mae tocynnau ar gael yn awr ar gyfer sioe yr artist platinwm dwbl Paloma Faith sydd wedi ennill gwobrau BRIT,  a fydd yn dod i Ogledd Cymru ar ddydd Gwener 21 Mehefin.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Cuffe and Taylor, Peter Taylor:Rydym wedi cyflwyno nifer o sioeau gyda Nile Rodgers & CHIC a Jess Glynne. Mae’r ddau yn berfformwyr anhygoel a fydd yn dod â’u harddull unigryw eu hunain i Langollen gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn mwynhau cerddoriaeth fyw anhygoel.

“Bydd Nile Rodgers & CHIC yn perfformio eu caneuon enwog yn gwneud noson allan hollol wych, tra bod Jess Glynne yn artist benywaidd gwirioneddol eithriadol o Brydain.”

Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Sarah Ecob: “Pan ddatgelwyd ein partneriaeth â Cuffe and Taylor, mi wnaethon ni ddweud y byddem yn gwneud cyhoeddiadau enfawr, ac mae’r rhain yn enfawr.  Mae Jess Glynne a Nile Rodgers a CHIC yn sêr rhyngwladol o’r radd flaenaf.  Fedrwn ni ddim aros iddyn nhw ddod i Langollen ar gyfer ein gŵyl heddwch wych.”

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Datganiad ar y sefyllfa yn y Dwyrain Canol

Ers 1947, ethos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fu hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth trwy gerddoriaeth a dawns, yn ei hwythnos flynyddol ym mis Gorffennaf a thrwy gyflwyno prosiectau allgymorth cynhwysol trwy gydol y flwyddyn i gymunedau lleol yng Nghymru a ledled y byd.

Nid yw amcanion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, sef hybu heddwch yn ein byd, byth yn bwysicach nag ar adegau o wrthdaro.

Mae’r gwrthdaro cynyddol ofnadwy rhwng Israel a Thiriogaethau Palestina yn peri gofid mawr ac rydym yn condemnio’r diystyrwch sy’n cael ei ddangos i hawliau dynol sylfaenol sifiliaid.

Rydym wedi croesawu cystadleuwyr o’r rhanbarth i Langollen mewn blynyddoedd blaenorol, mae ein meddyliau gyda’r bobl ddiniwed yn Gaza ac Israel ac ymunwn â’r gymuned ryngwladol i alw am ddad-ddwysáu’r trais ar unwaith.

Perfformio yn Llangollen 2024 – Ceisiadau i Gystadlu yn awr ar agor!

Llangollen 2024: 2-7 Gorffennaf

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi manylion am sut i gystadlu neu gymryd rhan yn Llangollen 2024. Ar draws 29 o gategorïau, gan gynnwys naw cystadleuaeth newydd, bydd rhai o dalentau cerddoriaeth a dawns gorau’r byd yn teithio i’r ŵyl heddwch eiconig yng ngogledd Cymru; lle mae Cymru’n croesawu’r byd.

Mae gwefan benodol ar gyfer Cyfranogwyr, a rhestr cystadlaethau, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ar sut i wneud cais, categorïau cystadlu, trefnu llety a mwy…
https://eisteddfodcompetitions.co.uk/

Mae’r cystadlaethau yn parhau i fod yn rhan ganolog o Eisteddfod Llangollen. Byddant yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod o Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf tan Ddydd Sul 7 Gorffennaf 2024. Mae cyfleoedd a gwobrau gwych ar gael i gystadleuwyr yn y dathliad gwirioneddol ryngwladol hwn o bopeth o fyd dawns a cherddoriaeth. Y cyntaf i agor ar gyfer ceisiadau cystadlu yw’r categorïau grŵp, gyda’r categorïau unigol i ddilyn yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen Sarah Ecob,
“Rydym yn falch iawn o agor ceisiadau ar gyfer rhai o’r cystadlaethau diwylliannol mwyaf uchel eu parch ac enwocaf y byd. Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys neb llai na Pavarotti.  Yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen rydym yn dathlu rhagoriaeth gerddorol a bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn parhau â’r traddodiad hwnnw. Eleni, rydym wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod yr Eisteddfod nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Fodd bynnag, mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod ein gŵyl arferol yn parhau gan sicrhau bod cefnogwyr yn dal i allu mwynhau rhan draddodiadol, gystadleuol Eisteddfod Llangollen.”

Fel ffordd o ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc,  bwriedir cyflwyno cystadleuaeth newydd Côr Ifanc y Byd. Ar gyfer 2024 bydd y côr buddugol yn ymddangos ar y prif lwyfan yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn ystod cyngerdd nos Fercher 3 Gorffennaf.

Bydd cantorion unigol hefyd yn cael cyfle gwych i berfformio mewn cyngerdd gyda’r nos.  Bydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn rhan o’r cyngerdd ar nos Sadwrn 6 Gorffennaf ac, am y tro cyntaf erioed, bydd rownd derfynol Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn perfformio gyda band byw yn y cyngerdd ar nos Iau 4 Gorffennaf (digwyddiad na ddylid ei golli!).

Mae ychwanegiadau newydd eraill yn cynnwys  categori Dawns Agored (Unawd, Deuawd a Thrio) ar gyfer plant dan 11 oed, 12-17 oed, a 18 oed a throsodd, categori Corau Plant Agored, a Corau Cân Werin Oedolion a Chorau Siambr, Ensemble Offerynnol, Unawd Gwerin Lleisiol ac Offerynnol.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi’i lleoli yn nhref hardd Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cynhelir y prif gystadlaethau ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol sydd â lle gynulleidfa o 4000. Yn 2024, y naill ochr i wythnos yr Eisteddfod (2-7 Gorffennaf), llwyfennir sioeau ychwanegol – gan gynnwys cyngerdd gyda’r Manic Street Preachers a Suede (Dydd Gwener 28 Mehefin), a Paloma Faith (Dydd Gwener 21 Mehefin).

Llyfryn cystadlaethau y gellir ei lawrlwytho, ffurflenni cais a gwybodaeth arall i gystadleuwyr ar gael ar wefan bwrpasol: https://eisteddfodcompetitions.co.uk/

Paloma Faith yn Llangollen 2024

Mae’r artist platinwm dwbl ac enillydd gwobr BRIT, Paloma Faith, yn teithio i ogledd Cymru yr haf nesaf fel rhan o’i thaith The Glorification Of Sadness 2024.

Bydd y daith 26 dyddiad yn gweld un o brif artistiaid Prydain yn perfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Gwener Mehefin 21.

Bydd tocynnau cyffredinol ar werth am 10yb dydd Gwener Hydref 20 o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Daw’r cyhoeddiad wrth i Paloma ryddhau ei sengl gyntaf mewn tair blynedd, How You Leave A Man, ac wrth iddi ddatgelu y bydd ei chweched albwm The Glorification of Sadness yn cael ei ryddhau ar Chwefror 16 – ei cherddoriaeth newydd gyntaf ers rhyddhau ei phumed albwm Infinite Things ym mis Tachwedd 2020.

Bydd y cyngerdd yn Llangollen yn gweld Paloma yn perfformio amrywiaeth o ganeuon o’i repertoire helaeth gyda chyfle i’w dilynwyr gyd-ganu i glasuron fel Only Love Can Hurt Like This a Lullaby yn ogystal â chaneuon newydd o The Glorification of Sadness.

Cyflwynir y brif sioe mewn partneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation Cuffe & Taylor ac mae’n nodi’r ail gyhoeddiad ar gyfer 2024.

Yr wythnos diwethaf datgelwyd y bydd y sêr indie Manic Street Preachers a Suede yn chwarae prif sioe yn yr ŵyl heddwch eiconig ar ddydd Gwener Mehefin 28. Bydd tocynnau ar gyfer y sioe honno ar werth ddydd Gwener yma (Hydref 13) am 9am.

Dywedodd Peter Taylor, cyd-sylfaenydd Cuffe & Taylor: Am ail gyhoeddiad anhygoel i’w wneud ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Heb os, mae Paloma Faith yn seren sy’n cynnal cyngherddau syfrdanol ac ni allwn aros i ddod â hi i Langollen. Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm yn yr ŵyl heddwch anhygoel hon ac edrychwn ymlaen at wneud mwy o gyhoeddiadau yn fuan.”

Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Sarah Ecob: “Fe wnaethon ni addo estyn am y sêr gyda’n partneriaeth newydd wych gyda Cuffe & Taylor ac rydyn ni wrth ein boddau y bydd seren enfawr arall, Paloma Faith yn ymuno â ni yn 2024. Gyda’i cherddoriaeth bop llawn enaid, dan ddylanwad jazz a’i harddull anhygoel, rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n boblogaidd iawn gyda’n cynulleidfaoedd.”

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

CYSYLLTU Â PALOMA FAITH:

INSTAGRAM | TWITTER | FACEBOOK | YOUTUBE

Manic Street Preachers a Suede i Serennu yn Eisteddfod  Llangollen 2024

DYDD GWENER MEHEFIN 28  

Bydd Manic Street Preachers a Suede yn serennu mewn cyngerdd arbennig iawn yng ngogledd Cymru yr haf nesaf.

Bydd taith y ddau fand indie chwedlonol yn cyrraedd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Gwener Mehefin 28.

Mae’r dyddiad ym mis Mehefin yn nodi dychweliad ysgubol y Manic Street Preachers i Langollen ar ôl iddynt serennu ddiwethaf yn yr ŵyl yn 2017.

Tocynnau yn mynd ar werth cyffredinol am 9am ddydd Gwener Hydref 13 o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Mae’r Manic Street Preachers yn un o’r bandiau roc mwyaf dylanwadol ac eiconig i ddod allan o Gymru erioed. Maent wedi rhyddhau 14 albwm ac wedi arwain gwyliau di-ri gan gynnwys Glastonbury, T in the Park, V Festival, Reading a Leeds. Maent wedi ennill un ar ddeg o Wobrau’r NME, wyth Gwobr Q a phedair Gwobr BRIT ac mae’r band hefyd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Mercury a Gwobrau Cerddoriaeth MTV Europe.

Ar hyn o bryd mae Manics yn y stiwdio yn gweithio ar eu 15fed albwm, sy’n ddilyniant i ‘The Ultra Vivid Lament’ a aeth syn syth i Rif 1 yn siartiau’r DU pan gafodd ei ryddhau ym mis Medi 2021. Y tro diwethaf i’r band berfformio yn y DU oedd yr haf hwn pan gawson nhw ganmoliaeth uchel am eu  perfformiadau yng ngwyliau Ynys Wyth a Glastonbury.

Mae newyddion am y daith yn ateb y galw mawr yn dilyn llwyddiant nawfed albwm Suede, Autofiction, a gwerthwyd pob tocyn i’w prif daith yn y DU yn gynharach eleni. Gan fynd yn syth i Rif 2 yn Siart Albymau’r DU ar ôl cael ei ryddhau, safle siartiau albwm gorau Suede ers Head Music yn 1999. Barn dilynwyr a beirniaid fel ei gilydd oedd bod yr albwm newydd yn cynrychioli uchafbwynt gyrfa i’r band.

Mae 2023 wedi gweld rhyddhau Suede30 – atgof amserol o sut y cafodd albwm cyntaf y band effaith mor bwerus a thrawsnewidiol ar gerddoriaeth Brydeinig. Saethodd albwm cyntaf Suede i rif 1 yn Siartiau Albymau’r DU pan gafodd ei rhyddhau, gan werthu dros 100,000 o gopïau yn ei wythnos gyntaf, a mynd ymlaen i ennill Gwobr Gerddoriaeth Mercury a dod yr albwm gyntaf a werthodd gyflymaf erioed yn y DU ar y pryd.

Mae cyngerdd Suede a’r Manic Street Preachers yn Llangollen yn rhan o daith o’r DU ac Iwerddon sy’n dilyn taith lwyddiannus y ddau fand yn yr Unol Daleithiau yn 2022 a gafodd dderbyniad gwych.

Cyflwynir y brif sioe mewn partneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe a Taylor.

Mae Cuffe and Taylor, un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, theatr a digwyddiadau’r DU, yn partneru â’r Eisteddfod Ryngwladol i hyrwyddo cyfres o gyngherddau byw ar y cyd â’r ŵyl heddwch fyd-enwog.

Dywedodd Peter Taylor, cyd-sylfaenydd Cuffe and Taylor: “Rydym wedi cyflwyno sioeau di-ri yng Nghymru dros y blynyddoedd felly mae’n wych cael ffurfio perthynas newydd a chyffrous iawn gyda thîm Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddod â sêr rhyngwladol yma ac yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â phawb yn Llangollen er mwyn helpu i sicrhau dyfodol y digwyddiad hanesyddol hwn.

“Rwy’n falch iawn mai ein cyhoeddiad cyntaf yw ein bod yn dod â’r Manic Street Preachers a Suede i Langollen a byddwn yn datgelu hyd yn oed mwy o artistiaid ac enwau mawr yn fuan iawn.”

Mae Cuffe and Taylor yn cyflwyno teithiau syfrdanol, gwyliau a sioeau ledled y DU gan lenwi stadiymau pêl-droed, arenâu, theatrau a safleoedd hanesyddol mawr gan weithio gyda rhestr o artistiaid yn amrywio o Diana Ross, Lionel Richie, Britney Spears a Stereophonics i Syr Tom Jones, Rod Stewart, Sam Fender, The Strokes a Kylie.

Dywedodd Sarah Ecob, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym mor falch o fod yn gweithio gyda Cuffe and Taylor, sydd ag enw rhagorol yn y diwydiant. Drwy weithio mewn partneriaeth â nhw, rydym wedi sicrhau bod ein gŵyl heddwch a sefydlwyd yn 1947 nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu. Rydym mor gyffrous i groesawu’r Manic Street Preachers yn ôl ac yn edrych ymlaen at wneud mwy o gyhoeddiadau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Manic Street Preachers Gwefan | Facebook | Twitter | Instagram

Suede Gwefan | Facebook | Instagram | Twitter | YouTube

Eisteddfod Llangollen yn croesawu chwe ymddiriedolwr newydd!

Mae caplan sydd hefyd yn Arweinydd Sgwadron yn yr Awyrlu, canwr a rannodd y llwyfan yn annisgwyl gydag Alfie Boe a dynes a symudodd 6000 o filltiroedd i fod yn nes at yr ŵyl y mae hi’n ei charu yn ddim ond rhai o ymddiriedolwyr newydd gŵyl byd enwog Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd Sarah Ecob, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, “Rydym yn falch iawn o groesawu ein Haelodau Bwrdd newydd sy’n dod ag ystod o ddoniau newydd a gwybodaeth ddofn o’r Eisteddfod i’n Bwrdd. Bydd hyn yn amhrisiadwy wrth i ni barhau â’n rhaglen adferiad a hoffwn ddiolch i’r Aelodau Bwrdd sy’n gadael, ac rwy’n siŵr y bydd pob un ohonynt yn parhau i fod yn weithgar o fewn strwythurau’r Eisteddfod.”

Mae’r ymddiriedolwyr wedi ymuno â’r tîm wrth i’r Eisteddfod, a ddechreuodd yn 1947 i hybu heddwch, wynebu heriau ariannol enfawr. Cafodd yr ymddiriedolwyr newydd eu hethol yn uniongyrchol gan aelodau’r cwmni ac mae pob un ohonynt yn dod ag arbenigeddau gwahanol. Gyda’i gilydd, byddant yn camu i fyny i lenwi’r bwlch a adawyd ar ôl y penderfyniad ariannol anodd i ddiswyddo rôl y Cynhyrchydd Gweithredol, a ddaliwyd yn flaenorol gan Camilla King.

Nid yw’r parchedig di-lol Rebeca Canon yn ddieithr i’r celfyddydau. Mae’r Caplan yn yr Awyrlu Brenhinol sy’n gyrru’r ‘tuk tuk’ wedi hyfforddi fel Actor a Chyfarwyddwr Theatr proffesiynol. Gweithiodd yn rhyngwladol yng Ngwlad Thai, Bali a Rwsia ar berfformiadau a digwyddiadau amlddisgyblaethol ar raddfa fawr. Mae hi bellach yn Gaplan (Anglicanaidd) gyda’r Awyrlu gan ymgartrefu yn Llangollen gyda’i phartner Gerallt.

Dywedodd Rebekah, sydd wrth ei bodd yn garddio ac yn neidio allan o awyrennau am hwyl, “Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o gyfrannu at ddyfodol yr Eisteddfod Ryngwladol. Mae’n ddigwyddiad unigryw sydd wedi cyfrannu’n uniongyrchol at wneud Llangollen yn lle mor arbennig. Mae curiad calon ein tref yn gyfystyr ag amrywiaeth, cynwysoldeb a chelfyddyd yr Eisteddfod ac rwyf am ganolbwyntio ar weld hynny’n parhau am genedlaethau i ddod. Mae chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu ein gŵyl heddwch sy’n croesawu’r byd i Langollen bob blwyddyn yn fraint anhygoel.”

Mae Shea Ferron, 20 oed, eisoes yn ffigwr adnabyddus yn Llangollen. Ym mis Mai, roedd yn aelod o Gorws John’s Boys a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent. Mae’r myfyriwr drama yn gyn-enillydd Côr y Byd ac ymunodd ag Alfie Boe ar y llwyfan ym mis Gorffennaf i gymeradwyaeth afieithus. Shea yw’r Ymddiriedolwr ieuengaf erioed yn hanes yr Ŵyl ac mae wedi bod yn ymwneud â’r Eisteddfod mewn sawl modd ers ei blentyndod. Mae Shea yn cyfuno ei waith fel ymddiriedolwr ag astudio yn ei flwyddyn olaf yn The Institute for Contemporary Theatre ym Manceinion.

Meddai Shea, “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, fel y celfyddydau, yn fy ngwaed. Ers pan oeddwn i’n ifanc, mae wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd. Mae rhai o fy atgofion cyntaf yn deillio o’r ŵyl ysbrydoledig hon. Mae’n anrhydedd i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn, i gael ymuno â bwrdd yr ymddiriedolwyr ar adeg mor dyngedfennol yn hanes 76 mlynedd yr Eisteddfod, er mwyn sicrhau y bydd yr ŵyl yma am genedlaethau i ddod.”

Mae’r bwrdd cryfach eisoes wedi cynnal noson agored enfawr, gan ddod â’r pwyllgorau a’r gwirfoddolwyr ynghyd (llawer ohonynt yn newydd i’r Eisteddfod); gwelodd hynny ddwsinau o gefnogwyr yn trafod syniadau i ddiogelu dyfodol yr ŵyl. Mae’r bwrdd hefyd eisoes wedi cyfarfod sawl gwaith wrth iddynt roi cynlluniau ar waith ar gyfer gŵyl y flwyddyn nesaf. Mae cynlluniau codi arian yn cael eu cwblhau wrth i’r tîm weithio i sicrhau dyfodol yr ŵyl.

Wyneb cyfarwydd arall sy’n ymuno â’r bwrdd yw Selana Kong, oedd yn caru Eisteddfod Llangollen gymaint nes iddi hi, ei gŵr Bill a’i mab Daniel symud 6000 o filltiroedd dim ond i fod yn nes ati. Am flynyddoedd, bu Selena a Bill yn teithio draw o Hong Kong i wirfoddoli. Bellach maent yn byw o fewn pellter cerdded i Bafiliwn Brenhinol Rhyngwladol Llangollen ac mae Selana eisiau estyn allan ar draws y byd i barhau â thraddodiad heddwch yr Eisteddfod.

Meddai Selana, sy’n hyfforddwr proffesiynol, cyfryngwr ac ymgynghorydd, “Mae Eisteddfod Llangollen yn ŵyl ryfeddol ac mewn byd sydd wedi’i begynnu, mae ein neges o heddwch ac undod yr un mor hanfodol heddiw ag yr oedd yn 1947. Rwyf am barhau â thraddodiad ein gŵyl o ymestyn allan i’r byd. Syrthiodd Bill a fi mewn cariad ag Eisteddfod Llangollen a theithio’n ôl yn aml i wirfoddoli. Yn 2019, mi wnaethon ni benderfynu beidio teithio yn ôl a blaen a symud yma i fyw. Pan ofynnwyd i mi sefyll etholiad i Fwrdd yr Eisteddfod, neidiais ar y cyfle. Mae’n gyfle anhygoel i roi rhywbeth yn ôl i’r ŵyl a newidiodd ein bywydau a sicrhau y gall barhau i newid bywydau pobl eraill.”

Mae aelodau newydd eraill y bwrdd yn cynnwys Allison Davies, cyn-athrawes yn Ysgol Dinas Brân sydd wedi bod yn ymwneud llawer â’r ŵyl ers degawdau, a Karen Price; sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl ar hyd ei hoes – yn gyntaf yn helpu gyda’r arddangosiadau blodau enwog ac yn fwy diweddar fel Cadeirydd Pwyllgor y Cystadleuwyr a Swyddog Cyswllt Cystadleuwyr y DU. Mae’r gweithiwr cyfathrebu proffesiynol David Hennigan hefyd wedi’i ethol ar y bwrdd. Canodd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Llangollen yn 1985, cyfarfu â’i wraig yn yr ŵyl ac mae bellach wedi symud i fyw i’r dref hardd.

DATGANIAD ODDIWRTH CADEIRYDD EISTEDDFOR RYNGWLADOL GERDDOROL LLANGOLLEN

Y mae Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen wedi cymeryd y penderfyniad anodd o diswyddo Camilla King. Y mae Camilla yn gadael gyda diolch holl Aelodau Bwrdd a Chadeiryddion y Pwyllgorau. Bu’n Gynhyrchydd Gweithredol ers Medi 2021, a llywiodd yr ŵyl ers pandemig Covid-19.

 

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen, Sarah Ecob, “Mae canlyniad difrifol o’r pandemig Covid wedi effeithio Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Langollen yn arw ynghyd ag argyfwng costiau byw presennol.  Fel llawer mudiad diwylliannol, mae’r Eisteddfod yn gwynebu dyfodol heriol tu hwnt oherwydd ein sefyllfa ariannol.   Mae’r Bwrdd a Chadeiryddion y Pwyllgorau wedi cwrdd i drin gweithredoedd argyfyngus i geisio sefydlogi ein mudiad.  Yr ydym wedi cymryd y penderfyniad trist iawn i ddiswyddo ein Cynhyrchydd Gweithredol, ac yn fuan, byddwn yn lansio ymgyrch holl bwysig i godi arian er mwyn sicrhau dyfodol yr Eisteddfod.

 

“Hoffwn roi diolch i Camilla am ei gwaith rhagorol  yn ein gŵyl, a dymynwn yn dda iddi yn y dyfodol.  Hoffwn ddiolch ein cwsmeriaid, gwirfoddolwyr, staff, cystadleuwyr, perfformwyr, cefnogwyr ariannol sy’n gwneud yr Eisteddfod yn achlysur mor arbennig bob blwyddyn.  Gyda’u cymorth hwy medrwn sicrhau fod yr Eisteddfod yn dal i fod yn canolog I fywyd diwylliannol yng Nghymru ac I gadw”

Ail-greu campwaith radio Dylan Thomas 70 mlynedd yn ddiweddarach

Mae darlleniad radio enwog gan y bardd Dylan Thomas am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei ail-greu i nodi 70 mlynedd ers y darllediad gwreiddiol. 

Bydd darlleniad yr actor, yr awdur a’r cyfarwyddwr Celyn Jones yn ganolbwynt i raglen gryno o ddigwyddiadau i ddathlu campwaith 15 munud y consuriwr llenyddol ar Wasanaeth Cartref y BBC pan ymwelodd ym 1953. 

Roedd y delweddau llafar bywiog yn creu darlun hudolus a bythgofiadwy o’r digwyddiad unigryw ac fe’i traddodwyd yn ei lais dwfn, soniarus. 

Ond fe ddatgelwyd na fu bron iawn i’r darllediad hanesyddol ddigwydd o gwbl oherwydd collodd Thomas ei nodiadau ar y ffordd yn ôl i stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd. 

Yr un flwyddyn roedd y diweddar Frenhines Elizabeth hefyd yn bresennol yn yr Eisteddfod yn fuan ar ôl ei Choroni. 

Roedd yr ŵyl wedi ei sefydlu chwe blynedd ynghynt o dan gysgod tywyll yr Ail Ryfel Byd fel ffordd o hybu heddwch trwy harmoni cerddorol a dawns. 

Ers hynny mae cannoedd o filoedd o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd wedi ymweld â Llangollen. 

Mae’r dref hardd yn Nyffryn Dyfrdwy lle mae “Cymru’n cwrdd â’r byd” bellach yn paratoi ar gyfer yr ŵyl lawn gyntaf ers pandemig Covid-19. 

Mae’r cyfan yn cychwyn ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 4, ac mae’r cystadlaethau a’r cyngherddau’n parhau tan ddydd Sul, Gorffennaf 9, gyda miloedd o gantorion a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan. 

Mae pob diwrnod yn cynnwys rhaglen lawn o gystadlaethau yn y Pafiliwn a rhestr o stondinau ac arddangosfeydd ar y maes ynghyd â chystadleuwyr o bedwar ban byd, nifer ohonynt mewn gwisg liwgar tra bod tri llwyfan awyr agored yn cynnal llif cyson o berfformiadau byw. 

Mae adloniant ar y safle allanol yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosiadau rhyngwladol, perfformiadau theatr awyr agored, sgiliau syrcas, sesiynau bath sain, yoga, dawnsio bol, Cymraeg i ddechreuwyr a salsa. 

Bydd Llwyfan y Byd yn cynnwys perfformiadau cerddorol sy’n rhychwantu cerddoriaeth gwerin, jazz, byd ac indie. 

Bydd blas rhyngwladol hefyd i’r bwyd sydd ar gael yn ardal newydd Bwyd y Byd. 

Bydd ymwelwyr yn gallu “mynd o amgylch y byd mewn 80 munud” gyda stondinau yn gweini bwyd o wahanol wledydd gan gynnwys India, Gwlad Groeg, Jamaica, Mecsico, yr Almaen a’r Eidal. 

Yn ôl cynhyrchydd gweithredol yr Eisteddfod, Camilla King, roedden nhw’n arbennig o awyddus i ddathlu pen-blwydd darllediad cofiadwy Dylan Thomas. 

Meddai: “Er yn drist iawn bu farw Dylan Thomas yn Efrog Newydd ychydig fisoedd ar ôl ei ymweliad â Llangollen, bydd ei etifeddiaeth werthfawr yn parhau oherwydd mae’n cael ei ystyried fel un o’r mawrion llenyddol. 

“Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n arbennig o briodol cofio nid yn unig ei ddarllediad gwych ond hefyd canon ehangach ei waith a’i wnaeth yn fardd o fri.” 

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Chris Adams, is-gadeirydd yr Eisteddfod ac aelod o’i Phwyllgor Archifau, a ddatgelodd fod y bardd wedi cael y swm hael o 20 gini am ei ymdrechion. 

Dywedodd yr Athro Adams fod Thomas, a aned yn Abertawe, wedi “cynhyrchu delweddau llafar o’r Eisteddfod gynnar y mae eu grym yn atseinio hyd heddiw”. 

Roedd yn fwy rhyfeddol fyth, meddai, gan fod pobl leol yn cofio ei fod wedi treulio llawer o’i amser yn Llangollen yn y dafarn, gyda Gwesty’r Wynnstay (The Three Eagles bellach) yn un o’i hoff lefydd am ddiod. 

Ategwyd hynny gan y diweddar Aneirin Talfan Davies, cynhyrchydd y BBC a anfonwyd i Langollen i gadw llygad ar Thomas, a oedd yn yr Eisteddfod yng nghwmni ei wraig, Aeronwy a’u merch, Caitlin. 

Adroddodd Talfan Davies, a oedd yn fardd dawnus ei hun, sut yr oedd Thomas wedi treulio’r wythnos yn “crwydro’n ddiamcan trwy strydoedd Llangollen, gan dreulio  hanner awr hwnt ac yma ym mhabell yr eisteddfod ac oriau lawer ym mariau tafarndai’r dref.” 

Disgrifiodd hefyd ffordd y bardd o weithio oedd yn golygu “ysgrifennu nodiadau ar bacedi sigaréts, a phanig Thomas ar y ffordd yn ôl i Gaerdydd pan ofnai ei fod wedi colli’r nodiadau”. 

Diolch byth, daeth y nodiadau i’r amlwg ymhen dim o dro ac mae’r darn gorffenedig, cryno wedi’i ddisgrifio fel enghraifft glasurol o’i athrylith gyda geiriau. 

Ar wahân i’r cystadlaethau a chofio Dylan Thomas, mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cyngerdd gyda Alfie Boe a’r grŵp theatr gerdd Welsh of the West End ar noson gyntaf yr Eisteddfod ar nos Fawrth, Gorffennaf 4. 

Ddydd Mercher bydd Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, cyngerdd i goffau’r rhai a fu farw yn Sarajevo ac Wcráin, yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia gydag unawdwyr o Bosnia, Cymru ac Wcráin, gyda gwaith enwog Karl Jenkins, The Armed Man yn ganolbwynt i’r noson. 

Mae’r orymdaith boblogaidd o gyfranogwyr rhyngwladol a dathlu heddwch yn digwydd ddydd Iau, ac yna Hedfan, gwaith cyfrwng cymysg newydd, sy’n cynnwys dawns, cerddoriaeth a gwaith theatr gan yr artistiaid gweledol ysbrydoledig y Propellor Ensemble, wedi’u hysgogi gan batrymau mudol ym myd natur a byd pobl. 

Ar y nos Wener bydd Band Mawr Guy Barker yn cymryd y llwyfan ynghyd â chanwr Strictly Come Dancing, Tommy Blaize. 

Mae’r dydd Sadwrn yn cynnwys y digwyddiad rhuban glas, cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, a hefyd cystadlaethau Pencampwyr Dawns a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2023. 

Mae gwedd newydd ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ddydd Sul gyda rownd derfynol fyw newydd sbon lle bydd sêr lleisiol yn brwydro i hawlio’r teitl Llais Theatr Gerdd, a Cân i Llan, cystadleuaeth cyfansoddi caneuon newydd i’r rhai sydd heb gytundeb proffesiynol rhwng 14-22 oed, gan ddarparu llwyfan ar gyfer lleisiau sy’n dod i’r amlwg mewn cerddoriaeth boblogaidd gyfoes. 

Ychwanegodd Camilla King: “Mae adloniant ar y safle allanol yn ymestyn ar draws tri phrif lwyfan gyda mwy o ddigwyddiadau ‘pop-yp’ dyddiol ac yn cynnwys gweithdai yn yr Amffitheatr gyda Chwmni Theatr Byd Bychan yn gwahodd ymwelwyr i greu eu cerflun blodau gwyn eu hunain ac Ensemble Propellor yn adeiladu offeryn anferth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.  

“Bydd hefyd adeiladu Lego dyddiol, celf a chrefft, sesiynau blodau gan drefnwyr enwog yr Eisteddfod, sgiliau syrcas gyda Jester Jack, Xplore Science, ioga, bath sain, dawnsio bol a chyfle i ddysgu sgiliau newydd gan y cystadleuwyr gwadd amrywiol.  

“Mae Sgyrsiau ar Lwyfan y Gromen yn cynnwys Bethan Rhiannon o Calan yn trafod ‘O ddawns y glocsen i gomedi’, y bardd Mererid Hopwood yn arwain panel ar y Ddarlith Heddwch flynyddol, gan fyfyrio ar hanes anhygoel Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru. 

“Bydd perfformwyr rhyngwladol yn ymddangos ar Lwyfan y Byd gan gynnwys y Mynachod Tashi Lhunpo o Dibet, cerddoriaeth werin Siapaneaidd SOAS Min’yo, perfformwyr o Bosnia ac Wcráin, a cherddoriaeth gan Filkin’s Drift, Seprona, Kilbride Brothers, Triawd Billy Thompson, The Bartells, y Chester Big Band a Lilly Boughey a llawer mwy.” 

Tocynnau & Beth sy’ ymlaen: www.international-eisteddfod.co.uk/cy/whats-on/ 

Chwedl Jazz a seren Strictly i oleuo Eisteddfod Llangollen

Bydd seren jazz a chwaraeodd gyda’r chwedlonol Frank Sinatra yn ymuno â llais Strictly Come Dancing am noson i’w chofio yng ngogledd Cymru. 

Bydd y canwr, Tommy Blaize, yn ymuno â Guy Barker a’i Fand Mawr ar gyfer “perfformiad pwerus” mewn cyngerdd llawn sêr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am 8pm nos Wener, Gorffennaf 7. 

Dyma’r trydydd ymweliad â Llangollen i Guy, sydd hefyd wedi rhannu’r llwyfan gyda sêr eraill gan gynnwys George Michael, Sting, Van Morrison, Elvis Costello, Phil Collins, Sammy Davis Jr a Liza Minnelli ymhlith llawer o rai eraill. 

Roedd y cyntaf o ddau ymddangosiad blaenorol Guy yn Eisteddfod Llangollen yn 2003, yn cefnogi’r ddeuawd gŵr a gwraig eiconig Johnny Dankworth a Cleo Laine, ac yna dychwelodd i chwarae gyda’r bas-bariton Syr Willard White yn 2009. 

Y tro hwn bydd yn arwain ei fand 15 darn ei hun ynghyd â phrif leisydd Strictly Come Dancing, Tommy Blaize, yn ogystal â’r cantorion Clare Teal a Vanessa Haynes a’r chwaraewr sacs Giacomo Smith. 

Mae gan Guy, 65 oed, atgofion melys o berfformio yn Llangollen ac meddai: “Chwaraeais gyda Willard White pan roddodd deyrnged i Paul Robeson a chyn hynny roeddwn yno gyda John Dankworth a Cleo Laine. 

“Rwy’n cofio’r llwyfan a’r ardal gefn llwyfan yn dda ac roedd y gynulleidfa mor frwd. Mae’n lle gwych i chwarae.” 

Cafodd Guy ei fagu ym myd adloniant a pherfformio. Ei fam yw’r actores Barbara Barker, sydd bellach yn 95 oed, a ymddangosodd yn saith pennod gyntaf Coronation Street ac yn ddiweddarach yn Z Cars ac Emmerdale Farm ac roedd ei ddiweddar dad, Ken, yn actor ac yn ddyn styntiau. 

“Yn olygfa agoriadol The Fall and Rise of Reginald Perrin, fy nhad yw’r un sy’n rhedeg yn noeth i’r môr ar y traeth,” meddai Guy: “Roedd hi’n chwech o’r gloch y bore ac roedd hi’n rhewi. 

“Roedd fy nhad wrth ei fodd â’r cyfnod Swing a dysgodd chwarae’r clarinet ac fe wnaeth fy annog i chwarae’r trwmped er mwyn i ni allu gwneud deuawdau ac ef hefyd wnaeth brynu fy nwy albwm cyntaf erioed i mi, un gan y trwmpedwr Louis Armstrong. 

“Cerddoriaeth oedd popeth roeddwn i’n ei wybod a dydw i erioed wedi gwneud dim byd arall.” 

Mae’r bobl y mae Guy wedi chwarae gyda nhw yn darllen fel pwy yw pwy o fyd cerdd ac un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd cefnogi Sinatra o flaen 45,000 o’i ddilynwyr yn yr Eidal. 

Mae hefyd wedi recordio wyth albwm unigol, dau ohonynt wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury, ac ers 2008 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd ac yn drefnydd cyngerdd blynyddol Jazz Voice yn y Barbican, sy’n agor Gŵyl Jazz Llundain a bu ganddo gysylltiad agos ers blynyddoedd gyda Gŵyl Jazz Cheltenham. 

Guy wnaeth drefnu’r gerddoriaeth ar gyfer ffilmiau The Talented Mr Ripley a The No 1 Ladies’ Detective Agency gan y cyfarwyddwr ffilm Anthony Minghella a ddywedodd amdano: “Guy Barker yw’r peth prin hwnnw – unawdydd disglair, arweinydd naturiol a chyfeilydd hael. Mae e’n medru chwarae i dorri dy galon neu i wnedu dy ben i droi.” 

Dywedodd cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Llangollen, Camilla King: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu denu Guy Barker yn ôl i Langollen ar gyfer yr hyn a fydd yn noson wirioneddol gofiadwy. 

“Gall y gynulleidfa ddisgwyl sain pres bachog, enaid New Orleans a thaith drwy hanes canu jazz, yn cynnwys y clasuron a threfniannau newydd annisgwyl, gan gynnwys un o ganeuon Tom Waits wedi’i hail-ddychmygu. 

“Mae’n mynd i fod yn set wych, bythgofiadwy, wedi’i thynnu ynghyd gan ddawn ddihafal Guy o adrodd straeon trwy gerddoriaeth.” 

Bydd Band Mawr Guy Barker yn camu i’r llwyfan yn Llangollen fel rhan o gyfres o gyngherddau o safon uchel sy’n cychwyn ar y nos Fawrth, Gorffennaf 4, gyda ffefryn yr Eisteddfod, Alfie Boe fydd yn ymuno â’r grŵp theatr gerdd, Welsh of the West End. 

Ddydd Mercher bydd Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, cyngerdd i goffau’r rhai a fu farw yn Sarajevo ac Wcráin, yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia gydag unawdwyr o Bosnia, Cymru ac Wcráin, gyda gweithiau’n cynnwys detholiadau o The Armed Man gan Karl Jenkins gan ddiweddu gyda neges draddodiadol yr Eisteddfod o heddwch a gobaith ar gyfer dyfodol yr holl genhedloedd. 

Bydd yr orymdaith boblogaidd o gyfranogwyr rhyngwladol a dathliad o heddwch yn digwydd ar y dydd Iau, ac yna Hedfan, gwaith theatrig newydd gan artistiaid gweledigaethol Propellor Ensemble, wedi’i ysbrydoli gan batrymau mudo o fyd natur a dynoliaeth. 

Mae dydd Sadwrn yn cynnwys y digwyddiad rhuban glas, cystadleuaeth nodedig Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, a hefyd Pencampwyr Dawns a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2023. 

Mae gwedd newydd i ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ar y dydd Sul gyda rownd derfynol fyw newydd sbon lle bydd sêr lleisiol yn brwydro i hawlio’r teitl Llais Theatr Gerdd, a chystadleuaeth ysgrifennu caneuon newydd ar gyfer lleisiau sy’n dod i’r amlwg yn y byd cerddoriaeth poblogaidd cyfoes. 

Ar y Maes, bydd bandiau pres, arian a chwythbrennau a bandiau cymunedol yn cystadlu, a gall cynulleidfaoedd ddewis eu henillydd ar gyfer Ymryson Dawns newydd yr Eisteddfod. 

Yn ogystal â’r cyngherddau, mae pob dydd yn cynnwys rhaglen lawn o gystadlaethau yn y Pafiliwn a rhestr o stondinau ac arddangosfeydd ar y Maes ynghyd â chystadleuwyr o bedwar ban byd, nifer ohonynt mewn gwisgoedd lliwgar tra bod tri llwyfan awyr agored a nifer o berfformiadau byw cyffrous. 

Bob blwyddyn mae tua 4,000 o gyfranogwyr yn cymryd rhan gyda thua 25,000 o ymwelwyr yn mynychu’r Eisteddfod Ryngwladol. 

Bydd llawer o adloniant hefyd ar y Maes gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosiadau rhyngwladol, perfformiadau theatr awyr agored a sgiliau syrcas. 

Tocynnau & Llangollen 2023: www.international-eisteddfod.co.uk/cy/whats-on/ 

Alfie Boe yn ‘yn methu aros’ am ddychwelyd i ogledd Cymru ochr yn ochr â sêr Cymry’r West End 

Mae’r tenor enwog Alfie Boe yn dweud ei fod “yn methu aros” i ddychwelyd i ogledd Cymru wrth iddo baratoi i fod yn un o brif sȇr yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn. Bydd y canwr a’r actor enwog o Loegr yn agor y digwyddiad ochr yn ochr â pherfformwyr dawnus Welsh of the West End, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent, mewn cyngerdd gyda’r nos mawreddog ar nos Fawrth, Gorffennaf 4. 

Dywedodd Alfie, sydd wedi ymddangos yn yr ŵyl ddiwylliannol ar sawl achlysur, y bydd y gynulleidfa yn cael “cerddoriaeth uffernol o wych” gyda rhaglen wedi’i dewis yn bwrpasol ar gyfer Llangollen. 

Wedi’i gefnogi gan Welsh of the West End – sy’n cynnwys rhai o dalentau gorau Cymru – dywedodd Alfie y dylai’r gynulleidfa fod yn barod am noson wych. 

Wrth siarad am ddychwelyd i’r dref, dywedodd: “Mae perfformio yn Llangollen yn gyffrous iawn oherwydd mae’n wefr wirioneddol. Mae yna awyrgylch cerddorol gwych – mae pawb yna o bob rhan o’r byd yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant ac mae’n beth gwych i fod yn rhan ohono. Yr ychydig droeon diwethaf rydw i wedi bod yno, rydw i wedi caru pob munud. A phan fyddwch chi’n cael perfformio ar y prif lwyfan ac os oes gennych ddiwrnod i’ch hun, mae’n well byth, fedra i ddim aros.” 

Dywedodd Alfie, sydd wedi cydweithio â nifer o gorau yn ystod ei yrfa, ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â Welsh of the West End – y grŵp theatr gerdd a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent. 

Wrth sôn am yr hyn y gall y gynulleidfa ei ddisgwyl, dywedodd Alfie: “Cerddoriaeth uffernol o wych – cyngerdd da, llawer o hwyl a chwerthin. Fy nod yw cyflwyno sioe dda gyda llawer o gerddoriaeth wahanol. Mae bob amser yn braf rhoi cynnig ar ganeuon newydd gyda thorf yr ŵyl.” 

Archebwch docynnau yma

Dywedodd Alfie, sy’n paratoi ar gyfer ei daith ar hyd y DU ym mis Medi eleni, fod ganddo lawer ar y gweill i’w gefnogwyr ffyddlon gan gynnwys llyfr ac albwm newydd. “Rydw i eisiau parhau i feddwl am syniadau, parhau i weithio a gwneud y gorau y gallaf. Rwy’n ceisio troi fy llaw ar rai caneuon gwreiddiol hefyd felly byddaf yn eu cyflwyno’n raddol i’r cyhoedd.” 

Dywedodd y Cymro sy’n seren yn y West End, Steffan Hughes o Langwyfan ger Dinbych, sydd wedi bod yn Llysgennad Ieuenctid i Eisteddfod Llangollen ac sydd hefyd wedi cyflwyno darllediadau S4C o’r ŵyl yn 2019, fod ymddangos yn yr ŵyl gydag Alfie yn “foment cwblhau’r cylch” go iawn gan iddo gystadlu yn y digwyddiad am flynyddoedd lawer pan oedd yn iau. 

Meddai: “Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dal lle annwyl yn fy nghalon. Gŵyl hollol unigryw, y cefais y fraint o’i chynrychioli fel llysgennad ieuenctid yn fy arddegau. Treuliais nifer o flynyddoedd yn cystadlu ar y llwyfan gwych hwn a mwynhau’r cyngherddau mwyaf amrywiol ac o safon uchel hefyd. Rydw i mor gyffrous i ddod â Welsh of the West End i Langollen. Fe wnaethon ni gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol trwy ein hymddangosiad ar Britain’s Got Talent, ond does unman yn debyg i gartref mewn gwirionedd – ac fel bachgen o Sir Ddinbych fy hun, rydw i wrth fy modd i fod yn canu fy hoff ganeuon o fyd y theatr gerdd a ffilm yn fy milltir sgwâr.” 

 Ychwanegodd Steffan: “Rhannu’r llwyfan gyda’r bendigedig Alfie Boe yw’r eisin ar y gacen. Roedden ni’n berfformwyr gwadd ar ei daith o amgylch y DU gyda Michael Ball y llynedd, felly rydyn ni’n gyffrous iawn i ailymuno efo fo unwaith eto.” 

Dywedodd ei gyd-aelodau, Jade Davies o Ddinbych, chwaer enillydd Love Island Amber Davies, a Mared Williams o Lanefydd, a fynychodd yr un ysgol â Steffan i Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy eu bod hefyd yn gyffrous am y digwyddiad. 

Dywedodd Jade, sydd wedi perfformio mewn sioeau fel Les Miserables a Phantom of the Opera: “Gwireddu breuddwyd yw rhannu’r llwyfan gydag Alfie Boe – rhywun rydw i’n ei edmygu’n fawr. Bydd yn bleser perfformio ar lwyfan eiconig Llangollen.” 

Dywedodd Mared, sy’n gyn-enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol Theatr Gerddorol yn Eisteddfod Llangollen: “Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i ganu yn yr Eisteddfod Ryngwladol unwaith eto. Wedi tyfu i fyny yn cystadlu ac ymweld â’r Eisteddfod, mae’n deimlad hyfryd dod yn ôl i berfformio gyda phrofiad theatr gerdd proffesiynol y tu ôl i mi.” 

Archebwch docynnau yma

Bydd yr Eisteddfod yn ôl am ei 76ain blwyddyn yr haf hwn – yr ŵyl lawn gyntaf i’w chynnal ers y pandemig coronafeirws. Ac eleni, bydd Gorymdaith y Cenhedloedd yn ôl am y tro cyntaf ers 2019. 

Dywedodd cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Llangollen, Camilla King: “Roedd llawer o gyffro y llynedd pan ddaethon ni’n ôl am y tro cyntaf ers 2019 ond roedd pobl bryd hynny’n dal yn wyliadwrus ynglŷn â chovid a theithio, ond eleni, mae pawb yn barod i ddod yn ôl at ei gilydd i ddathlu. 

“Gall pobl ddisgwyl gweld llawer o’r pethau y mae’r ŵyl wedi ennill enw da amdanynt – artistiaid byd enwog gwych, cystadlaethau sy’n rhoi llwyfan i berfformwyr o bedwar ban byd, rowndiau terfynol byw cyffrous fel Côr y Byd, Pencampwyr Dawns a Llais y Dyfodol – lle ceir cyfle i weld rhai o’r corau, grwpiau dawns ac unawdwyr operatig gorau. 

“Bydd yna hefyd gyngherddau rhyngwladol rhagorol sy’n dod â llawer o berfformwyr gwahanol ynghyd gan gynnwys Blodau Gwyn sy’n gweld llu o berfformwyr o Gymru, Bosnia ac Wcráin. Rydym hefyd wrth ein bodd bod enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2022, Emyr Lloyd Jones, yn ymuno â ni ar y llwyfan fel unawdydd ar gyfer y cyngerdd hwn. 

Yn ogystal, fel rhan o arlwy’r Eisteddfod bydd y perfformiwr a’r arweinydd jazz adnabyddus, Guy Barker gyda’i Fand Mawr, yn cydweithio ag unawdwyr o fri fel Tommy Blaze, prif leisydd Strictly Come Dancing, gyda cherddorion soul a jazz, Clare Teal, Giacomo Smith a Vanessa Haynes hefyd yn perfformio setiau arbennig. 

“Mae’n mynd i fod yn barti hirddydd haf go iawn – os ydych chi’n hoff o jazz ac yn hoffi sŵn band mawr Sinatra yna, dyma’r noson allan i chi,” meddai Camilla. Wrth sôn am ddychweliad Alfie Boe i Langollen, ychwanegodd Camilla: “Mae rhai blynyddoedd ers i Alfie fod yn yr Eisteddfod ond mae’n ffefryn go iawn gyda’n cynulleidfa. Mae hefyd yn arddangosfa wych i Gymry’r West End – sêr ifanc dawnus theatr gerdd Cymru.” 

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 4 a 9, ac yn cynnwys cyfuniad o gystadlu a pherfformiad gyda chorau yn cystadlu am deitl nodedig Côr y Byd a Thlws Pavarotti. Bob blwyddyn mae tua 4,000 o gyfranogwyr yn cymryd rhan gyda thua 25,000 o ymwelwyr yn mynychu. Bydd llawer o adloniant hefyd ar y Maes gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosiadau rhyngwladol, perfformiadau theatr awyr agored a sgiliau syrcas. Bydd yr Eisteddfod hefyd yn coroni pencampwyr dawns 2023 gyda Thlws Lucille Armstrong, yn ogystal â digwyddiad Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine. 

Archebwch docynnau yma neu drwy ffonio 01978 862001.