Roedd yn faint cael profi’r ŵyl wych hon. Doeddwn i ddim yn gallu credu’r gwerth am arian anhygoel gefais i gan fy nhocyn dydd a chyda seddau cadw hefyd!!!!
Gwerth am arian anhygoel
Roedd yn faint cael profi’r ŵyl wych hon. Doeddwn i ddim yn gallu credu’r gwerth am arian anhygoel gefais i gan fy nhocyn dydd a chyda seddau cadw hefyd!!!!
Diwrnod hollol wych o’r dechrau i’r diwedd, roedd y doniau yn y cyngerdd gyda’r nos yn anhygoel.
Cwbl anhygoel! Heb fod yma o’r blaen ond fedra i ddim credu mor anhygoel yw’r ŵyl.
Os oes yna unrhyw ddilynwyr cerddoriaeth neu ddawns allan yno sydd heb brofi’r Eisteddfod, EWCH YNO ar bob cyfri, gan fod yna rywbeth i bawb.
Bonws braf oedd gweld grwpiau bach o gantorion yn ymarfer yn yr awyr agored o amgylch y dref cyn ymddangos yn yr ŵyl. Amgylchedd rhyngwladol mor braf!
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu’n hynod o dda. Mae’r prif bafiliwn yn odidog, gydag arddangosfeydd blodau hyfryd yn addurno’r llwyfan. Roedd y cyngerdd yn hollol anhygoel.
Fel ymwelydd am y tro cyntaf cefais argraff ffafriol dros ben o’r Eisteddfod. Mae’n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono sydd wedi bod yn gyfle cyntaf ac yn sbardun i lawer, gan gynnwys yr anfarwol Pavarotti.
Mae’n ddigwyddiad rhyngwladol go iawn gyda chorau a dawnswyr yn dod yno o bob cwr o’r byd. Mae’r Eisteddfod yn dathlu dod â gwledydd a chymunedau at ei gilydd trwy eu diddordeb cyffredin mewn cerddoriaeth a diwylliant sy’n goresgyn unrhyw rwystrau iaith, gan wneud ffrindiau ar draws y cenhedloedd a’r gwledydd.
Diwrnod allan rhagorol i glywed detholiad rhyngwladol o gerddoriaeth. Cymaint o bethau gwahanol yn digwydd, yn ogystal â’r prif bafiliwn. Ble arall y gallech chi glywed cerddorion o Albania, Estonia, yr Unol Daleithiau, Cymru neu Zimbabwe (a llawer o wledydd eraill) yn chwarae mewn lleoliad gwych? Mae gan Langollen ddigon i’w gynnig hefyd, mwynhewch y… Darllen rhagor »
Lle ffantastig. Digwyddiad wedi’i drefnu’n dda iawn. Awyrgylch hapus tu hwnt. Wrth fy modd yn cerdded o amgylch y safle. Edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.