Fe ddaeth llwyfan Eisteddfod Llangollen yn fyw gyda melodïau gwerin fyrlymus nos Iau, diolch i fand Jamie Smith, Mabon, a’u steil chwareus wrth gyflwyno casgliad egnïol o gerddoriaeth werin Gymraeg traddodiadol.
Cerddoriaeth Cymru wrth galon dathliadau Llangollen
Nos Fercher, fe gynhaliwyd noson gyfareddol o gerddoriaeth Gymreig yn Eisteddfod Llangollen yng nghwmni’r soprano Shân Cothi a’r tenor Rhodri Prys Jones.
Roedd y ddau unawdydd yn canu i gyfeiliant cerddorfa Sinffonieta Prydain, wnaeth hefyd berfformio gyda’r tenor byd enwog, Rolando Villazón, mewn gala glasurol nos Fawrth.
Cystadlaethau D1: Ensemble Offerynnol

Beirniadaeth C3: Dawnsio Gwerin i blant

Cystadleuaeth B1: Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine (Prelim)

Cystadleuaeth B6: Unawd Lleisiol oedran 12-15

Cystadleuaeth A6: Cȏr Plant Iau

Cystadleuaeth A8: Corau Câneuon Gwerin i Blant

Rolando Villazón yn Cyfareddu Cynulleidfa Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Bu i Rolando Villazón adael y gynulleidfa mewn edmygedd llwyr yn dilyn ei berfformiad cyntaf yng ngwledydd Prydain eleni. Fe wnaeth y tenor byd enwog berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn gala glasurol gyfareddol nos Fawrth.
Mewn wythnos sy’n addo cyfres o berfformiadau cyffrous, roedd Villazón yn dilyn noson agoriadol wefreiddiol gyda Jools Holland nos Lun.
Jools Holland Yn Agor Eisteddfod Llangollen 2019
Cafodd cynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ei diddanu gyda pherfformiad egnïol gan y perfformiwr a ffrind oes i’r Eisteddfod, Jools Holland ar noson agoriadol yr ŵyl.
Am y 73ain flwyddyn yn olynol, mae’r ŵyl yn addo wythnos o gerddoriaeth safonol gan berfformwyr fel y tenor clasurol Rolando Villazón, Gipsy Kings, a’r grŵp indie The Fratellis – ond priodol iawn oedd mai Is-lywydd yr Eisteddfod, Jools Holland, oedd y perfformiwr cyntaf ar y rhaglen.