Bu i Rolando Villazón adael y gynulleidfa mewn edmygedd llwyr yn dilyn ei berfformiad cyntaf yng ngwledydd Prydain eleni. Fe wnaeth y tenor byd enwog berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn gala glasurol gyfareddol nos Fawrth.
Mewn wythnos sy’n addo cyfres o berfformiadau cyffrous, roedd Villazón yn dilyn noson agoriadol wefreiddiol gyda Jools Holland nos Lun.
Mae perfformiadau grymus ac unigryw Villazón mewn tai opera ledled y byd wedi ei sefydlu fel un o denoriaid fwyaf blaenllaw a nodedig y byd clasurol.
Agorwyd y gyngerdd gyda chyflwyniad cerddorfaol trawiadol, wnaeth adeiladu’r cyffro ynghylch ymddangosiad cyntad Villazon yn yr Eisteddfod. Yna, fe gychwynodd ei berfformiad gyda deholngiad cofiadwy o L’esule gan Giuseppe Verdi (tr. Berio) i gyfeiliant Sinfonietta Prydain a dan arweinyddiaeth y meistro ifanc, James Hendry. Gan ddilyn yn olion traed mawrion eraill o’r byd operatig sydd eisoes wedi perfformio yn yr ŵyl – gan gynnwys Luciano Pavarotti and Bryn Terfel – roedd perfformiad angerddol Villazón yn un wnaeth gyfareddu’r gynulleidfa o’r dechrau i’r diwedd. Roedd ei arddull celfydd a’i ddehongliad emosiynol yn cynnig noson gofiadwy i bob un o’r gwylwyr oedd yn mynychu’r ail noson yn rhaglen wythnos o hyd yr Eisteddfod.
Yn ymuno â Villazón oedd y soprano delynegol ddisglair, Rhian Lois, sy’n gyn-aelod o gwmni Opera Cenedlaethol Lloegr. Roedd y ddau berfformiwr yn edrych yn gwbl gyffyrddus ar y llwyfan, wrth i’w lleisiau asio mewn sawl deuawd gofiadwy. Bu i’r par gloi eu perfformiad gyda chyflwyniad chwareus o Papageno-Papagena o ‘The Magic Flute’ gan Mozart.
Y soprano ifanc addawol, Charlotte Hoather, wnaeth agor y gyngerdd ac fe wnaeth hi ymuno â’r tenor o Fecsico mewn casgliad o ganeuon clasurol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry: “Waw, dydw i erioed o’r blaen wedi teimlo cymaint o egni yn dod o’r llwyfan! Roedd partneriaeth Villazón â Hendry yn ysbrydoledig. Roedd y llwyfan ar dân gyda pherfformiadau gwefreiddiol gan bob un o’r perfformwyr, ac roedd hi’n fraint i bawb sydd yma heno gael gweld hyn.”