Jools Holland Yn Agor Eisteddfod Llangollen 2019

Cafodd cynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ei diddanu gyda pherfformiad egnïol gan y perfformiwr a ffrind oes i’r Eisteddfod, Jools Holland ar noson agoriadol yr ŵyl.

Am y 73ain flwyddyn yn olynol, mae’r ŵyl yn addo wythnos o gerddoriaeth safonol gan berfformwyr fel y tenor clasurol Rolando Villazón, Gipsy Kings, a’r grŵp indie The Fratellis – ond priodol iawn oedd mai Is-lywydd yr Eisteddfod, Jools Holland, oedd y perfformiwr cyntaf ar y rhaglen.

Fel un o ffefrynnau’r ŵyl ryngwladol a chefnogwr balch ohoni, bu i Jools Holland gamu ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol nos Lun i gynnal perfformiad egnïol i gyfeiliant ei Gerddorfa Rhythm a Blues. Fe agorodd y noson trwy ddweud pa mor falch ydoedd i fod yn noddwr i’r ŵyl a sut mae canu ar y llwyfan gyda’i fand i greu un sain yn adlewyrchu ethos yr ŵyl – sef i ddathlu a chynnwys holl ddiwylliannau’r byd.

Cyn y prif gyngerdd, cafwyd perfformiadau gan y gitaryddion Mark Flanagan a Skeet Williams yn ogystal â band reggae jazz The Herbert Spliffington Allstars.

Fe wnaeth pianydd fwyaf poblogaidd Prydain lansio ei set hir ddisgwyliedig trwy chwarae jazz cyfareddol ar y piano cyn i’w frawd iau, Christopher Holland, ymuno ag o ar y piano, gan ysgogi’r gynulleidfa i glapio. Roedd gwesteion eraill Jools Holland yn cynnwys Louise Marshall a Mabel Ray.  Hefyd, bu i’r gantores R&B a Soul enwog, Ruby Turner, ddychwelyd i lwyfan Eisteddfod Llangollen gan greu argraff ar y gynulleidfa gyda’i llais pwerus a’i dehongliad o ganeuon enwog.

Fel rhywun sy’n adnabyddus am ei ddawn unigryw i ddiddanu, fe wnaeth Holland gyflwyno amrywiaeth eang o glasuron jazz a blues, gan ddod i derfyn gyda’r enwog ‘Enjoy Yourself’.

Yn dilyn llwyddiant cyngerdd cyntaf wythnos yr Eisteddfod yn nhref brydferth Llangollen, fe all ymwelwyr ddisgwyl dathliad llawn dop o gerddoriaeth ryngwladol. Daw’r ŵyl i ben ar ddydd Sul 7fed Gorffennaf gyda Llanfest, fydd yn cynnwys perfformiadau gan fandiau The Fratellis a The Coral.