Mae dau o ddigwyddiadau diwylliannol blaenllaw Cymru wedi cael cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu gydag effaith COVID-19.
Mae dau o ddigwyddiadau diwylliannol blaenllaw Cymru wedi cael cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu gydag effaith COVID-19.
Yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth am y Coronafeirws, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio 74ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf 2020. Rydym yn awr yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid a’n hartistiaid i aildrefnu ar gyfer Llangollen 2021.
DIWEDDARIAD 16/3/20
***Rydym wedi bod yn cadw llygad ar y Coronafeirws (COVID-19) wrth i’r sefyllfa ddatblygu ac wedi dod i’r penderfyniad i ganslo ein Cymanfa Ganu ar 27 Mawrth yn Eglwys Sant Collen. Bydd cwsmeriaid a oedd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y Cymanfa Ganu yn cael eu had-dalu.
Byddwn yn parhau i fonitro a chyfathrebu â chi ynghylch ein cynlluniau ar gyfer Llangollen 2020 ym mis Gorffennaf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.***
Yr wythnos hon mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn datgelu mwy ar ei rhaglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020) fydd yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y DU o Magnificat gan Bobbi Fischer gyda’r unawdydd Elin Manahan Thomas a pherfformiad ‘Yn Arbennig i Langollen’ gan Only Men Aloud.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Dr Edward-Rhys Harry:
“Mae’n dipyn o bluen yn ein het i gael perfformiad cyntaf y DU o Magnificat gan Bobbi Fischer yn Llangollen 2020 ynghyd â gallu croesawu’r eithriadol Elin Manahan Thomas yn ôl i’r ŵyl. Mae hefyd wedi bod yn bleser gweithio’n agos gydag Only Men Aloud i greu repertoire arbennig yn seiliedig ar ein cenhadaeth sylfaenol o heddwch a chytgord ac mae’n argoeli y bydd yn berfformiad hyfryd ac unigryw gan y côr poblogaidd hwn.”
Mae Asio (dydd Mercher 8 Gorffennaf) yn gweld elfennau cerddorol eclectig o wahanol ddiwylliannau yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd. Bydd rhan gyntaf y noson yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn y DU o Magnificat, sef gwaith y cyfansoddwr Bobbi Fischer o’r Almaen, lle mae’r gwaith corawl traddodiadol hwn wedi’i asio â rhythm a harmonïau America Ladin gyda Samba, Rhumba, Bossa Nova a Cha Cha.
Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal gweithdy ‘Diwrnod Dawns Rhyngwladol’ am ddim i bob oed a gallu yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ar ddydd Sadwrn y 1af o Chwefror, rhwng 11yb ac 1yp. (rhagor…)
Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd
Cantores Gymraeg, a brofodd fuddugoliaeth yn Llangollen, yn creu argraff yn Eisteddfod yr Arfordir Aur
Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu lansio ei raglen 2020 newydd gyda chyngerdd Nadolig Rhyngwladol yng nghwmni’r tenor Cymreig Rhys Meirion
Mae tros 4,000 o artistiaid dawns, corawl ac offerynnol o bedwar ban byd yn perfformio a chystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn.
Y rocwyr indie o’r Alban The Fratellis a cherddorion enwog Glannau Merswy The Coral yn dod ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019 i ben mewn steil.
Daeth Llanfest Llangollen, diwrnod olaf yr Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, i ben mewn dathliad mawr neithiwr (dydd Sul 7fed Gorffennaf) gyda pherfformiadau gwefreiddiol gan The Fratellis a The Coral.