Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn cynnwys stori bob diwrnod gan wirfoddolwr, lle maen nhw’n rhannu eu profiadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Fy Mlwyddyn Gyntaf gyda’r Eisteddfod Ryngwladol
Yn 2016, cefais fy nghyflwyno i fyd cyfareddol a chyffrous yr Eisteddfod Ryngwladol gan fy ffrind, Chris, gan ei bod hi a’i gŵr wedi bod yn wirfoddolwyr ers blynyddoedd. Roedden nhw’n gweithio fel rhan o’r criw cefn llwyfan ac roedd hyn o ddiddordeb mawr i mi gan fy mod wedi bod yn ymwneud â chymdeithasau cerddoriaeth a chwmnïau drama amatur lleol ers blynyddoedd lawer. Roeddwn i’n teimlo ychydig yn bryderus yn cyfarfod â’r criw am y tro cyntaf ond mi wnaethon nhw fy ngwneud i deimlo’n gartrefol ar unwaith a chefais groeso mawr. Roeddwn ond yn gallu cynnig ychydig ddyddiau o help oherwydd ymrwymiadau blaenorol ond nid oedd hynny’n broblem gan eu bod yn falch o gael help llaw ychwanegol.
Mae’r criw cefn llwyfan yn griw gwych o wirfoddolwyr ac mi wnaeth eu hagwedd broffesiynol a threfnus y tu ôl i’r llenni argraff fawr arnaf ond er hynny roedden nhw’n dal i gael hwyl a mwynhau popeth oedd yn digwydd o’u cwmpas. Dim ond ychydig o ddyddiau oedd hi cyn i mi wirioni ar y gwaith felly y flwyddyn ganlynol mi wnes i’n siŵr fy mod i ar gael am yr wythnos gyfan – yn ystod y dydd a gyda’r nos. Dydw i ddim yn dweud nad oedd yn flinedig ond roedd o mor werth chweil, ac mae cael cyfarfod efo pobl o bob cwr o’r byd a gwylio a gweld eu llawenydd a’u cyffro wrth gystadlu yn rhoi hwb anhygoel i chi.
Yr unig beth rwy’n ei ddifaru yw peidio gwirfoddoli flynyddoedd yn ôl ac mi fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried rhoi cynnig arni i wneud hynny, mae yna lawer o wahanol feysydd a rolau i weithio ynddyn nhw. Ydy, mae’n waith gwirfoddol ond mae’r llawenydd o fod yn rhan o gymuned fendigedig, sy’n rhoi profiad amlddiwylliannol mor gyfoethog, yn amhrisiadwy.
Cefais y fraint o weithio gyda grŵp gwych o wirfoddolwyr cefn llwyfan ac rwy’n diolch iddyn nhw am roi cymaint o groeso i mi a gwneud i mi deimlo’n rhan o’r tîm arbennig hwn.
Sue
Sue Griffiths, Gwirfoddolwr
Tȋm Cydlynedd
Oeddech chi’n gwybod fod angen 800 o wirfoddolwyr i lwyfannu Eisteddfod lwyddiannus?
Yn gytûn yn eu hymroddiad i’r ŵyl a’r pethau da y mae’n eu cynrychioli, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a’u doniau yn ystod y flwyddyn ac mae llawer yn teithio o bell er mwyn rhoi help llaw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. A hoffech chi ymuno â nhw?