Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn cynnwys stori bob diwrnod gan wirfoddolwr, lle maen nhw’n rhannu eu profiadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Pam fy mod i’n gwirfoddoli
Mae fy mhartner a minnau wedi bod yn gwirfoddoli fel stiwardiaid ers 10 mlynedd bellach (dw i’n credu).
Y peth sy’n ein galw ni nôl flwyddyn ar ôl blwyddyn yw’r cyfeillgarwch, y brwdfrydedd, y cyffro, yr heddwch, y llonyddwch a’r ewyllys da rhwng pawb; cynulleidfa, cystadleuwyr, gwirfoddolwyr, staff safle a stondinwyr.
Mae bod yn stiward yn golygu bod yn rhan o dîm go iawn, neu yn Saesneg TEAM (Together Everyone Achieves More)
Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd trwy e-bost gyda llawer o stiwardiaid trwy gydol y flwyddyn, mae rhai ohonynt yn y llun isod.
Gan fy mod i’n rhywun reit allblyg rydw i wrth fy modd yn ymwneud efo‘r cyhoedd, ac maen nhw hefyd yn hoffi ychydig o dynnu coes a chwerthin.
Rwyf wedi bod yn gwisgo fy het drawiadol ers 9 mlynedd bellach, mae’n cadw’r haul oddi ar fy mhen moel ac rydw i bellach yn cael fy adnabod ar y safle gan yr enw “Pat yr Hat” mae hyd yn oed Syr Terry yn fy ngalw i wrth yr enw yna...
Rwy’n credu mai fy eiliad mwyaf cofiadwy oedd pan oeddwn ar ddyletswydd y tu mewn i’r babell yn ystod perfformiad gyda’r nos, ac yn eistedd yn y cefn yr oedd teulu gyda gynnwys merch ifanc (18-24 oed) â Syndrom Down’s ac roedd hi’n siglo o gwmpas yn ei sedd yn ysu i ddawnsio. Gyda chaniatâd ei rhieni, mi wnes i fynd â hi i’r cefn ac mi wnaethon ni ddawnsio’n frwd drwy’r noson. Roedd hi wrth ei bodd. Ac roedd y gwenau a gefais gan y gynulleidfa o gwmpas yn dangos cymaint o bleser roedden nhw’n ei gael o weld rhywun mor hapus.
Diolch am y cyfle rydych chi’n ei roi i mi wella fy mywyd.
Pat yr Hat
Patrick Beaumont, Gwirfoddolwr
Stiwardiaid
Oeddech chi’n gwybod fod angen 800 o wirfoddolwyr i lwyfannu Eisteddfod lwyddiannus?
Yn gytûn yn eu hymroddiad i’r ŵyl a’r pethau da y mae’n eu cynrychioli, mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a’u doniau yn ystod y flwyddyn ac mae llawer yn teithio o bell er mwyn rhoi help llaw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. A hoffech chi ymuno â nhw?