Dydd Sul 7 Gorffennaf
Diwrnod Hwyl i’r Teulu

family-fun-day2

Bydd Eisteddfod Gerddol Ryngwladol Llangollen yn agor ar gyfer Diwrnod Hwyl i’r Teulu Dydd Sul 7 Gorffennaf, gyda’r cyflwynydd Teledu plant Andy Day.

Bydd Andy yn cyflwyno cyngerdd amser cinio yn y pafiliwn, sy’n cael ei gynhyrchu gyda Music for Youth, a bydd yn cynnwys cerddorion ifanc o bob rhan o’r DU, yn ogystal â rhai o grwpiau dramor yr Eisteddfod.

Naill ochr i’r cyngerdd amser cinio bydd perfformiadau llwyfan y tu allan, yn cynnwys cystadleuwyr rhyngwladol, cerddorion ifanc, bandiau lleol, ac ymddangosiad arall gan Andy, wrth iddo gyflwyno ei Raps Deinosor!

Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau eraill i’r teulu cyfan fwynhau, gan gynnwys gweithdai rhyngweithiol, ynghyd a masnachwyr manwerthu, ac amrywiaeth o fannau gwerthu bwyd a diod.

Mae pob tocyn yn caniatau mynediad i faes yr Eisteddfod o 10yb – 4yp, a chyngerdd amser cinio tu fewn i’r pafiliwn am 12:30yp heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae tocyn teulu ar gyfer 1 oedolyn a 2 blentyn yn costio £21 yn unig, gydag oedolion ychwanegol yn £18, plant ychwanegol yn £3, a phlant o dan 5 am ddim.

Dydd Sul 7 Gorffennaf 2024 10yb – 4yp