Nos Fawrth Gorffennaf 3
Cyngerdd gydag Alfie Boe

Byddwn yn croesawu Alfie Boe yn ôl i Langollen i agor ein cyfres o gynherddau ar gyfer 2018. Bydd seren Broadway a’r West End yn perfformio caneuon o’i ddisgiau poblogaidd, gan arddangos ei ddawn eithriadol fel un o leisiau mwyaf poblogaidd a hoff Prydain.

Wedi’i eni yn Blackpool a’i fagu yn Fleetwood, mae taith gerddorol Alfie wedi mynd ag ef o ganu ar y llinell gynhyrchu yn y gwaith i dderbyn addysg opera yn y Coleg Cerdd Brenhinol a Rhaglen Artistiaid Ifanc yr Opera Brenhinol, cyn llwyddo yn Broadway ac ennill Gwobr Tony am ei rôl yn adfywiad Baz Luhrmann o ‘La Boheme’. Daeth rhagor o glod i ran Alfie yn y West End gyda’i bortread pwerus o Valjean yn ‘Les Miserables’ a swynodd ei holl ddilynwyr. Yn fwy diweddar, mae wedi cydweithio gyda Pete Townshend yn ‘Classic Quadrophenia’, recordio disgiau ‘Together’ a ‘Together Again’, a mynd ar daith gyda Michael Ball OBE, gan arddangos ei dalent amryddawn a gallu Alfie i ddiddanu a difyrru cynulleidfaoedd.

Bydd Alfie yn perfformio amrywiaeth o ganeuon o’i ddisgiau poblogaidd, a bydd ei gerddorfa o gerddorion talentog yn ymuno ag ef ar y noson. Mae’n addo bod yn noson i’w chofio, wrth i Alfie ein hudo gyda’i ddawn perfformio a’i gariad at gerddoriaeth.

Nos Fawrth 3 Gorffennaf 2018 – 7.30yh
Pris tocynnau: £49 / £37


Noddwyd gan