Ers y cychwyn, yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 1947, mae plant wedi cyflwyno neges o heddwch ac ewyllys da o’r llwyfan yn ystod y cyngerdd ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl.
Eleni, plant Ysgol Gynradd Mountain Lane, Bwcle, fydd yn traddodi’r Neges Heddwch Ryngwladol, yn gyntaf yng nghyngerdd Diwrnod y Plant ac yna fel rhan o Gyngerdd Calon Llangollen, y ddau ar ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.
Rhagor o fanylion i ddod yn fuan.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y cefndir i’r Neges Heddwch