Côr o fri o’r America yn dewis croeso Cymreig go iawn yn Llangollen

Mae côr rhyngwladol o fri o’r America yn edrych ymlaen at gael blas go iawn o letygarwch Cymreig.

Mae Cantorion Siambr Prifysgol Azusa Pacific o Galiffornia yn mynd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf lle byddant yn aros gyda theuluoedd lleol yn hytrach nag archebu llety mewn gwestai. Mae’r côr 37 aelod ymhlith cantorion corawl gorau’r byd ac mae eu hanes yn cynnwys ennill y Gystadleuaeth Corau Rhyngwladol yn Awstria yn 2013, yn ogystal â chanu mewn llu o leoliadau eiconig, gan gynnwys Tŷ Opera Sydney a’r Fatican.

Yn nyddiau cynnar yr Eisteddfod, sydd bellach bron yn 70 oed, roedd hyn yn ddigwyddiad cyffredin mewn oes lle’r oedd llety masnachol lleol yn fwy prin, ond mewn blynyddoedd diweddar mae wedi dod yn arferiad llai aml.

Ond mae’r criw dawnus o Galiffornia yn benderfynol o gael y profiad Eisteddfodol traddodiadol cyflawn ac wedi gofyn i’r cantorion gael aros gyda theuluoedd lleol.
Meddai Michelle Jensen, arweinydd yr Cantorion Siambr Prifysgol Azusa Pacific: “Roeddem yn meddwl y byddai’n wych pe bai modd i ni ddod o hyd i deuluoedd fyddai’n barod i roi llety i’n myfyrwyr yn ystod eu harhosiad yn Llangollen.
“Roeddem yn teimlo y byddai’n rhoi cyfle ychwanegol i’n myfyrwyr drochi eu hunain mewn diwylliant gwahanol a phrofi bywyd yng Ngogledd Cymru.
“Rwy’n sylweddoli y gallai fod yn anodd dod o hyd i 37 o deuluoedd fyddai’n barod i roi llety i’n chwech o fyfywyr graddedig a’n 31 o fyfyrwyr israddedig fydd yn Llangollen, ond byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw un sy’n barod i groesawu unrhyw un o’n myfyrwyr neu helpu gyda phrydau bwyd.”
Ac roedd yna newyddion da i’r côr yr wythnos hon wrth i Alwenna Hughes o Wrecsam, trefnydd llety yr Eisteddfod, gadarnhau y byddai hi’n gallu dod o hyd i leoedd iddynt aros yn ardal Wrecsam a oedd hefyd o fewn cyrraedd hwylus i’w gilydd.
Dywedodd: “Nid ydym yn rhoi cymaint o lety i bobl gyda theuluoedd lleol ag yn y gorffennol. Ar un adeg byddai tua dwy fil a hanner o bobl yn aros gyda theuluoedd lleol, ond mae digon o ddarparwyr ffyddlon gennym o hyd ac mae’n braf cadw’r traddodiad i fynd.
“Byddant yn sicr o gael croeso cynnes ac rwy’n siŵr y byddan nhw a’r teuluoedd y maent yn aros gyda hwynt yn mwynhau profiad arbennig wythnos yr Eisteddfod.”
Ychwanegodd Michelle: “Ar ôl ein llwyddiant yn y Gystadleuaeth Corau Rhyngwladol, cawsom sawl gwahoddiad cyffrous i gyfleoedd cystadlu a pherfformio ar gyfer ein taith nesaf.
“Er mwyn gwneud y penderfyniad gorau ar gyfer yr ensemble, penderfynais fod angen i mi wneud ymchwil helaeth a oedd yn golygu teithio i Iwerddon a Chymru, yn benodol i gael profiad llygad y ffynnon o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
“Ac wrth i’r gystadleuaeth ddatblygu roedd y cyfuniad o gydweithredu rhyngwladol a lefel uchel o ragoriaeth artistig yn apelio’n fawr. Erbyn i ni adael Gogledd Cymru, roeddem yn gwybod bod cymryd rhan yn Eisteddfod Llangollen yn nod ar gyfer ein taith yn 2015.
“Rydym wedi cael ein derbyn i gystadlu mewn chwe chategori: Côr Cymysg, Côr Ieuenctid, a’r Is-adran Agored, sydd i gyd yn gategorïau Côr y Byd, yn ogystal â Chanu Gwerin i Oedolion, Arddangosiad Diwylliannol a bydd grŵp bychan o 12 o’r ensemble yn cystadlu yn y categori Ensemble Lleisiol.
“Rydym yn edrych ymlaen at gystadlu yn Llangollen a chael croeso Cymreig arbennig.”
Yn y gorffenol mae’r côr wedi teithio yn Awstralia, Awstria, y Weriniaeth Tsiec, yr Almaen, a’r Eidal ac wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig, gan gynnwys Tŷ Opera Sydney a’r Fatican.
Dywedodd Gethin Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod: “Rydym bob tro wrth ein bodd i gael corau o safon uchel yn cymryd rhan yn ein digwyddiadau corawl ac felly bydd croeso cynnes yn disgwyl cantorion Prifysgol Azusa Pacific.
“Mae’n hyfryd eu bod am fynd yn ôl i draddodiadau cychwynnol yr Eisteddfod, ac aros gyda theuluoedd lleol, yn union fel corau’r gorffennol fel Côr Modena gyda’r Luciano Pavarotti ifanc, Côr Obernkirchen a chymaint o gorau eraill dros y blynyddoedd.
“Rwy’n siŵr y byddant yn gweld bod y croeso yma mor gynnes ag erioed ac y byddant yn mwynhau eu hamser yn Llangollen.”