Gŵyl ryngwladol o fri fydd y digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru i ddarparu gofod ymlacio diogel arbennig i bobl ag anghenion arbennig ac ychwanegol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni yn ôl yn fyw eto i ddathlu ei 75 mlwyddiant dros bedwar diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, a bydd yn cynnwys ardal dawel bwrpasol yng nghanol Maes yr Eisteddfod.
Mae’r cam arloesol hwn wedi’i gymryd diolch i reolwr marchnata’r digwyddiad, Davina Carey-Evans, a sefydlodd PIWS – sy’n ceisio annog busnesau a digwyddiadau i wella hygyrchedd i deuluoedd ag anableddau cudd.
Mae Davina, sydd hefyd yn Uchel Siryf Gwynedd, yn fam i dri o fechgyn, ac mae gan un ohonynt, Benjamin, 27 oed, awtistiaeth ddifrifol ac mae hi wedi cael oes o brofiad o ymdrin â’r trafferthion sy’n wynebu teuluoedd tebyg.
Dywedodd Davina: “Rydym i gyd yn meddwl bod gan bobl ag anableddau bethau gweladwy ond mae yna lawer o bobl â phroblemau gwahanol iawn, sy’n gallu cael eu gor-ysgogi, yn enwedig rhywle lle mae llawer yn digwydd, a’r Eisteddfod Ryngwladol yw’r digwyddiad cyntaf yng Nghymru i gael ardal ddiogel bwrpasol ar eu cyfer.
“Bydd yna babell gyda gweithgareddau celf a chrefft ac rydym yn bwriadu darparu ioga a therapïau llesiant eraill ond yn y bôn mi fydd yn lle y gall plentyn neu oedolyn fynd i ymdawelu heb gael eu barnu gan eraill sydd ddim yn deall.
“Mae’n rhywbeth y mae PIWS yn ceisio’i annog ym mhobman ac mae’r Eisteddfod Ryngwladol gyda’i neges o heddwch yn lle delfrydol i ddechrau ac mae’n agor yr Eisteddfod i gynulleidfa newydd, teuluoedd efallai na fyddent wedi ymweld â’r ŵyl o’r blaen.
“Mi fydd yr Eisteddfod yn cynnig hyfforddiant i’w byddin o wirfoddolwyr mewn sesiwn cyflwyniad i hygyrchedd, sy’n eu cefnogi i ddeall beth y gallan nhw ei wneud i helpu os oes gan rywun â problem fel Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
(ADHD).
“Rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am fod mor arloesol oherwydd mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i bob sefydliad, digwyddiad a busnes ei gydnabod yn y dyfodol oherwydd dylen nhw i gyd anelu at gael ardal ddiogel debyg.”
Mae’r ffaith bod yr Eisteddfod Ryngwladol yn cofleidio prosiect PIWS yn un o’r ffyrdd y mae’n esblygu wrth iddi ddychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd ar ôl cael ei chanslo yn 2020 oherwydd Covid.
Y llynedd fe’i cynhaliwyd yn rhithiol ond ar ei phen-blwydd yn 75 oed mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn ôl gyda phwyslais newydd ar ehangu a gwella’r gweithgareddau a’r atyniadau ar y Maes a thu allan, ac yn ôl Camilla King, cynhyrchydd gweithredol newydd yr Eisteddfod, bydd y safle’n edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn.
Meddai: “Mae wedi cael ei hailddiffinio a’i hailddychmygu a bydd ein gweithgareddau awyr agored yn parhau drwy’r dydd a gyda’r nos tan 10pm.
“Rydym hefyd wedi cyflwyno tocyn mynediad hanner diwrnod i’r Maes am £5 ar ôl 4.30pm a gyda rhaglen lawn o gerddoriaeth, dawns a gweithgareddau yn digwydd gyda’r nos gyda bwyd a diod ar werth, mae’n lle perffaith i bobl ddod â’u blancedi picnic a mwynhau eu hunain.
“Bydd y llwyfan awyr agored yn cynnwys cerddoriaeth a dawns, a Geodome newydd ar siâp glôb fydd yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau llafar, cyfweliadau sy’n procio’r meddwl, comedi a dysgu o ddiwylliannau gwahanol.
“Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad hanfodol lle mae’r celfyddydau a sut y gallan nhw gyfrannu at heddwch ym mhob ystyr o’r gair yn cyfarfod â’i gilydd.”
Am y tro cyntaf yn ei hanes bu’n rhaid canslo’r ŵyl boblogaidd, a helpodd i lansio gyrfaoedd y sêr opera Luciano Pavarotti a Syr Bryn Terfel, yn 2020 oherwydd effaith y pandemig Coronafeirws.
Yn 2021 cynhaliwyd yr ŵyl ar ffurf rhithwir gyda pherfformiadau’n cael eu ffrydio ar-lein ond eleni bydd Cymru unwaith eto’n croesawu’r byd i’r dref fechan yn Nyffryn Dyfrdwy.
Mae gŵyl eleni yn cychwyn ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, ac yn gorffen gyda Llanfest ar ddydd Sul, Gorffennaf 10, pan fydd yr Eisteddfod yn ymuno â Gŵyl Ymylol Llangollen.
Dros y pedwar diwrnod bydd llu o atyniadau a gweithgareddau newydd ar y safle awyr agored ar ei newydd wedd, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, comedi, bwyd, diod, siopa, gweithdai ac adloniant pop-yp.
Gyda’r nos bydd cyngherddau yn cynnwys perfformiadau gan Aled Jones a Russell Watson, Anoushka Shankar, y chwaraewr sitar Prydeinig-Indiaidd-Americanaidd, a’r cynhyrchydd, cyfansoddwr ffilm ac actifydd sy’n hanner chwaer i’r gantores Norah Jones.
Bydd y cystadlu yn cyrraedd uchafbwynt ar y nos Sadwrn gyda chystadlaethau Côr y Byd a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, yn cynnwys y cantorion ifanc gorau o bedwar ban byd ar y llwyfan lle mae Placido Domingo, Kiri Te Kanawa, Elaine Paige, Michael Ball, Syr Bryn Terfel a Luciano Pavarotti wedi perfformio.
Mae’r Eisteddfod eleni yn fersiwn fyrrach o’r blynyddoedd cynt ond bydd yn dal i fod yn llawn dop gyda rhaglen lawn o gystadlu yn y Pafiliwn gan gychwyn ar y dydd Iau gyda’r Diwrnod Ysgolion a Gwobrau’r Heddychwyr Ifanc.
Dydd Sul bydd yr Eisteddfod yn gadael ei gwallt i lawr ar gyfer Llanfest cyn uchafbwynt y cyngerdd olaf.
I gael rhagor o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’i chystadlaethau a’i chyngherddau yn ogystal â sut i’w chyrraedd a lle i aros