Eisteddfod Llangollen yn fflam o obaith

Mae’r cyfansoddwr Brenhinol Paul Mealor wedi disgrifio Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel fflam o obaith a ffydd mewn byd llawn helynt.

Dywed yr Athro Mealor, sy’n enedigol o Lanelwy, bod yr ŵyl yn dod â phobl o bedwar ban byd at ei gilydd trwy gyfrwng iaith fydeang cerddoriaeth. Daeth yn enwog dros nos wedi iddo gyfansoddi Ubi Caritas et Amor ar gyfer priodas y Tywysog William a Catherine Middleton yn 2011 a chyfansoddi Wherever You Are, a gyrhaeddodd rhif un yn siartiau Nadolig i’r Military Wives dan arweiniad Gareth Malone.

Eleni, bydd yr Athro Mealor yn bresennol yn Eisteddfod Llangollen am yr eildro fel beirniad ac am y tro cyntaf fel is-lywydd yr ŵyl hanesyddol hon sydd yn cychwyn ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf.

Dywedodd: “Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad rhyfeddol ac ardderchog pan fydd y byd i gyd yn dod i’r dref fach hardd hon yng Ngogledd Cymru i ddathlu a rhannu cerddoriaeth a diwylliant. Mae hiliaeth, casineb a gwrthdaro yn colli’r dydd a cherddoriaeth yn ennill bob tro.
“Efallai bod gan bobl eu syniadau eu hunain, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol, ond yn yr achos yma, maent i gyd yn siarad yr un iaith sef cerddoriaeth. Ac nid cerddoriaeth glasurol yn unig – gall fod yn ganu gwerin, jazz neu roc – cerddoriaeth yw’r cyfan.
“Eleni, er enghraifft, bydd yr anhygoel Burt Bacharach yn perfformio. Sut ar y ddaear y mae gŵyl mewn tref fach yng Ngogledd Cymru yn gallu denu sêr mor enwog?
“Dyna beth yw hanfod yr Eisteddfod Ryngwladol ac mae yn fendigedig cael cerddorion a pherfformwyr o’r radd uchaf fel Alfie Boe, Catrin Finch, Gareth Malone a llu o sêr eraill yn cyflwyno cerddoriaeth ragorol i’r llwyfan.”
Ers 2003 ef yw’r Athro Cyfansoddi ym Mhrifysgol Aberdeen.
Meddai: “Rwyf bob amser yn brysur, naill ai’n gweithio gyda fy myfyrwyr neu’n cyfansoddi cerddoriaeth newydd, ond un o uchafbwyntiau y flwyddyn bob amser yw Llangollen. Mae’n ein dangos ar ein gorau – mae yma bob amser gymaint o dalent newydd yn disgleirio.
“Roedd y ffisiatrydd nodedig, Anthony Stoor yn gywir pan ddywedodd bod meddyginiaethau yn gwneud i chi fyw yn hirach ond bod y celfyddydau yn gwneud i chi fod eisiau byw yn hirach. Dychmygwch mor ddiflas fyddai bywyd mewn byd heb gerddoriaeth.
“Rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at feirniadu yn yr ŵyl eleni – mae’r safon bob amser yn eithriadol o uchel. Bum yn cystadlu ynddi fy hun pan oeddwn yn fachgen ifanc ond heb lawer o lwyddiant yn anffodus.”
Bu albwm gyntaf yr Athro Mealor ar gyfer Decca, A Tender Light (casgliad o anthemau corawl sanctaidd) ar ben y siartiau clasurol am chwech wythnos ac mae’r Athro yn nodi mor bwysig yw sicrhau bod gwyliau fel Eisteddfod Llangollen yn derbyn cyllid digonol.
Meddai: “Mae’n bwysig bod pawb yn sylweddoli mor bwysig yw’r Eisteddfod Ryngwladol ac yn gweld y manteision a ddaw yn ei sgil – nid yn unig i’r ardal hon ond hefyd i Gymru ac i Brydain gyfan.
“Y dyddiau hyn, mae arian yn brin ym mhobman, ond mae’r ŵyl mor bwysig ac mae’n hanfodol ei bod yn parhau i fynd o nerth i nerth.
“Buaswn i yn annog unrhyw un nad yw wedi mynychu’r ŵyl hyd yma i fynd draw, hyd yn oed am ychydig oriau, i flasu’r awyrgylch ryfeddol ac unigryw.
“Ble arall y byddech yn canfod pobl o bob rhan o’r byd yn dod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch a goddefgarwch oherwydd eu cariad at un iaith gyffredin – iaith cerddoriaeth.”
Dywedodd cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: “Rwyf wrth fy modd bod Paul yn dod atom fel beirniad eto eleni.
“Mae Paul yn gefnogol iawn i’r Eisteddfod a’r hyn y mae’r Eisteddfod yn ei gynrychioli sef cyfuniad o liw a diwylliant yn anelu at harmoni ym mhob ystyr i’r gair.
“Wrth i ni nesu at ben blwydd yr ŵyl unigryw hon yn 70 oed y flwyddyn nesaf, mae apêl hudolus yr Eisteddfod yn dal yn gryf a’i neges heddwch mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn 1946 yn y dyddiau tywyll yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.”