Arbenigwr gwin Tseinïaidd yn dychwelyd i feddwi ar hud yr ŵyl
Bydd arbenigwr gwin o Hong Kong a syrthiodd mewn cariad ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn hedfan 6,000 o filltiroedd i weithio fel gwirfoddolwr yn yr ŵyl. Cafodd Bill Kong, 54 oed, ei swyno gan hud yr eisteddfod ar ei ymweliad cyntaf fel aelod o’r gynulleidfa ddwy flynedd yn ôl pan gyflawnodd uchelgais oes i brofi’r ŵyl drosto ei hun.
Roedd wrth ei fodd gymaint ag awyrgylch hudolus yr ŵyl bryd hynny ac yn 2014, nes ei fod yn bwriadu teithio nôl i Langollen ym mis Gorffennaf i ymuno â’r criw bychan o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n gwneud y digwyddiad diwylliannol eiconig hwn yn gymaint o lwyddiant bob blwyddyn.
Mae cysylltiadau Bill â Phrydain yn mynd yn ôl dros 40 o flynyddoedd pan fynychodd ysgol baratoi wrth ymyl Bewdley yn Swydd Gaerwrangon, ysgol gyhoeddus ger Uttoxeter yn Swydd Stafford.
Yn ddiweddarach aeth i Goleg Manceinion, Rhydychen i astudio am radd mewn gweinyddu cymdeithasol cyn dychwelyd i Hong Kong yn 1984.
Ymunodd Bill â Chôr Meibion Cymraeg Hong Kong yno ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach wedi iddo gael ei gyflwyno i’r côr gan ei ffrind.
Dywedodd: “Roedd cyd-aelodau’r côr yn gofyn i mi beth oedd fy nghysylltiadau â Chymru a byddwn yn dweud wrthynt fy mod wedi bod mewn ysgol baratoi yn Swydd Gaerwrangon sydd yn eithaf agos i’r ffin â Chymru.
“Perfformiais gyda’r côr yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Frenhinol Albert yn 2004 yn dilyn derbyn gwahoddiad gan Gymry Llundain, a chanu gyda chorws Gŵyl Celfyddydau Hong Kong ar gyfer cynhyrchiad o Tosca yn 1999, a dyma le’r gwnes i gyfarfod fy ngwraig, Selena.”
Pan nad yw’n mwynhau cerddoriaeth, mae Bill yn gweithio, ymysg pethau eraill, fel ymgynghorwr yn y busnes gwin yn Hong Kong, ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn fewnforiwr gwin, addysgwr, ymgynghorydd i fewnforwyr a beirniad gwin.
Mae hefyd yn uwch ymgynghorwr hyfforddiant ar gyfer cwmni mawr sydd wedi’i leoli yn Hong Kong ac yn arbenigo mewn rheoli risg ac argyfwng.
Mae Selena Hoi Yi Fung Kong, gwraig Bill sy’n 39 oed, hefyd yn teimlo’n angerddol am gerddoriaeth ac wedi gweithio fel addysgwr cerddoriaeth mewn ysgol yn Hong Kong am y 17 mlynedd diwethaf.
Mae ganddynt fab Daniel, 9 oed, a fydd yn mynychu ysgol baratoi yn Lloegr o fis Ebrill.
Dywedodd Bill: “Mi wnes i ddod draw gyda fy ngwraig a’r mab i Eisteddfod Llangollen am y tro cyntaf yn 2013.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliad oherwydd fy nghyfnod o dros 20 mlynedd gyda’r côr Cymraeg a gwaith fy ngwraig ym maes cerddoriaeth.
“Rydym yn rhannu ein cariad am gerddoriaeth a diwylliant Cymru ac rydym wedi’n swyno ag enw mor hudolus ag Eisteddfod Ryngwladol. Felly roedd yn rhaid i ni ddod i’w ddarganfod drosom ein hunain.
“Wnaethon ni ddim sylweddoli bryd hynny pa mor gynnes fyddai’r croeso ac y byddwn yn gwneud gymaint o ffrindiau ac eisiau dod yn ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Mae popeth wedi bod yn berffaith, yn enwedig y gymuned o ffrindiau newydd yr ydym wedi eu cyfarfod yn Llangollen bob blwyddyn ers hynny.
“Er ein bod wedi bod yn yr Eisteddfod am y ddwy flynedd ddiwethaf nid wyf wedi gwneud unrhyw waith fel gwirfoddolwr, ond pan fyddwn yn dod draw eto’r haf hwn rwy’n gobeithio gallu cyfrannu.
“Efallai mai cynnig lletygarwch fydd hynny, yn cyfarfod perfformwyr o Hong Kong neu Tsieina. Mae gen i rywfaint o brofiad yn y maes hwn ar ôl datblygu cyrsiau Saesneg i’r gweithlu wedi’u teilwra i gwmnïau corfforaethol yn y diwydiant lletygarwch nôl yn Hong Kong.
“Efallai y gallwn hefyd helpu gyda llwyfannu’r Eisteddfod gan i mi weithio fel dyn llwyfan pan ddaeth y Phantom of the Opera i berfformio yn Hong Kong yn 1995.
“Am 160 o sioeau, gweithiais fel ‘stage left prop’ a’r peth anhygoel oedd mai Peter Carey oedd y Phantom bryd hynny; yn ddiddorol iawn, Cymro ymysg cast o Ogledd America.”
Ychwanegodd Bill: “Byddwn wrth fy modd bod ymysg y cyhoedd a’r perfformwyr yn Eisteddfod 2015 mewn unrhyw ffordd.
“Un diwrnod, hoffwn hefyd weld fy Nghôr annwyl, sef Côr Meibion Cymry Hong Kong yn cystadlu yn Llangollen. Y llynedd, fe wnaethom ffrindiau gwych gyda Chôr Heddlu Hong Kong a’u cefnogi yn yr Eisteddfod.
“Rwyf wedi cael fy swyno gan hud Llangollen a’r hyn rwyf yn ei fwynhau am ddod yn ôl yw’r profiad o’r wythnos i gyd.
“Yn hynny, rwy’n golygu’r gerddoriaeth, y perfformwyr yn ogystal â’r ymwelwyr ac yn fwy na’r cwbl yr holl waith called ac ymroddiad mae’r gwirfoddolwyr yn ei roi trwy gydol y flwyddyn i wneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mor anhygoel.
“Mae’r ifanc a’r rhai mwy profiadol wedi chwarae eu rhan yn hanes rhywbeth mor unigryw ac arbennig trwy fod yn rhan o etifeddiaeth yr ŵyl am dros hanner canrif.
“Dyma beth mae Eisteddfod Llangollen yn ei olygu i mi a pham rwy’n edrych ymlaen at ddod am fy nhrydedd flwyddyn a chymryd mwy o ran nag mewn blynyddoedd blaenorol.”
Dywedodd Sandra Roberts, cadeirydd Pwyllgor Lletygarwch yr Eisteddfod, “Mae Bill yn swnio fel gŵr diddorol iawn a chanddo’r sgiliau perffaith ar gyfer ein tîm lletygarwch. Gwaith y tîm yw croesawu cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ŵyl o ledled y byd.
Byddai ei sgiliau ieithyddol yn amlwg yn ei wneud yn ddefnyddiol iawn pan mae’n dod i gyfarfod a chroesawu pobl o China a Hong Kong a chredaf y byddai’n aelod gwerthfawr iawn o’r tîm o wirfoddolwyr”