Aled Jones

Mae Aled Jones MBE wedi bod yn enw cyfarwydd ers yr 1980au.

Bydd yn cael ei gofio am byth fel un o sopranos bechgyn mwyaf llwyddiannus y byd. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn broffesiynol fel plentyn 12 oed yn perfformio rôl yr Angel yn Oratorio Jeptha Handel ar BBC2 a BBC Radio 3. Roedd y 4 blynedd nesaf yn gyfnod prysur tu hwnt gyda dwsinau o berfformiadau teledu (mae’n dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau ar raglen deledu Wogan). Gwahoddwyd ef i recordio 3 rhaglen deledu flaenllaw ar gyfer y BBC o Israel. Roedd y rhaglenni hyn yn boblogaidd tu hwnt a gwerthodd y 2 albwm a ryddhawyd i gyd-fynd â’r rhaglenni dros filiwn o gopïau. Ar un adeg roedd y ddau albwm yn y 5 uchaf Siart Albwm Swyddogol y DU. Dim ond albwm Bruce Springsteen Born in the USA a’i cadwodd oddi ar y brig! Perfformiodd gyngherddau dirifedi fel soprano bachgen ledled y byd gan gynnwys yn yr Hollywood Bowl a rhannu’r llwyfan gyda’r maestro Leonard Bernstein. Roedd canu ‘Salmau Chichester’ gyda’r cyfansoddwr yn arwain yn uchafbwynt enfawr. Roedd Aled eisoes wedi rhyddhau 12 albwm erbyn i ‘Walking in the Air’, y gân o’r ffilm animeiddiedig The Snowman, gael ei rhyddhau. Cyrhaeddodd y record Rhif 5 yn siartiau’r DU yn 1985. Perfformiodd hefyd 10 sioe Snowman byw yn y flwyddyn honno, gyda phob tocyn yn cael ei werthu ar gyfer y sioeau.

Cafodd gyrfa recordio Jones ei hatal dros dro pan dorrodd ei lais yn 16 oed. Erbyn hynny, roedd wedi recordio 16 albwm, gwerthu dros chwe miliwn copi o’i albymau, a chanu o flaen y Pab Ioan Paul II, y Frenhines a Thywysog a Thywysoges Cymru mewn cyngerdd preifat, yn ogystal â chyflwyno nifer o raglenni teledu i blant.

Rhwng 16 a 18 oed aeth Aled ar daith o amgylch Siapan gyda Chôr Bechgyn Vienna Woods. Roedd llais bachgen Aled wedi mynd, felly yn lle canu cymerodd ran yr adroddwr yn opera Humperdinck Hansel and Gretel, gan adrodd mewn Siapaneg! Cafodd dderbyniad gwresog tu hwnt ym mhob rhan o’r wlad. Yn ystod y cyfnod hwn rhyddhaodd 12 albwm gan werthu dros 2 filiwn o gopïau. Aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Ysgol Theatr Old Vic Bryste cyn iddo gael cais i berfformio rôl Joseph yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat gan Andrew Lloyd Webber.

Cynigiwyd rolau cyflwyno i Aled ar BBC Radio Wales (sioe y mae’n dal i’w chyflwyno 15 mlynedd yn ddiweddarach) yn ogystal â rôl gyflwyno ar S4C. Cysylltwyd ag ef hefyd i fod yn gyflwynydd ar Songs of Praise y BBC. Yn 2002, gofynnodd Songs of Praise i Aled ganu ar y rhaglen. Arweiniodd hyn at ryddhau ‘Aled’ ei albwm cyntaf fel oedolyn a aeth i Rif 1 yn y Siartiau Clasurol. Y flwyddyn ganlynol cysylltodd gorsaf radio Classic FM ag Aled gan gynnig  rhaglen dwy awr iddo ar fore Sul a ddaeth yn sioe hynod boblogaidd.

Rhyddhaodd Aled albwm arall o’r enw ‘Higher’, a gyrhaeddodd brig y siartiau clasurol unwaith eto. Dilynodd hyn gydag albwm o garolau, a werthodd dros 40,0000 o gopïau. Aled hefyd oedd testun y rhaglen olaf erioed o gyfres This is Your Life ar y BBC pryd cafodd ei synnu ar lwyfan y Royal Albert Hall yn ystod ffilmio rhifyn ‘Big Sing’ o Songs of Praise.

Yn 2004 roedd Aled yn gystadleuydd ar ail gyfres Strictly Come Dancing, lle bu’n llwyddiant hynod boblogaidd. Cyrhaeddodd rownd gynderfynol y gystadleuaeth a dywed bod dawnsio Samba i gân enwog Tom Jones ‘It’s Not Unusual’ yn Ystafell Dawnsio Tŵr enwog Blackpool fel uchafbwynt a hanner!

Yn 2008 chwaraeodd Aled brif rôl Caractacus Potts yn Chitty Chitty Bang Bang yng Nghaerdydd gan ennill canmoliaeth fawr ac yn 2009 ymunodd â chast White Christmas gan Irving Berlin yn y brif rôl gan chwarae yn Plymouth a Manceinion. Dychwelodd Aled i White Christmas i serennu yn West End Llundain ar ddiwedd 2014. Gyda phob tocyn yn cael ei gwerthu ar gyfer y sioe.

Mae Aled wedi ysgrifennu tri llyfr o’r enw Aled’s Forty Favourite Hymns a gyhoeddwyd tua diwedd 2009 yn ogystal â llyfr ar ei hoff garolau Nadolig. Ail-gyhoeddwyd ei hunangofiant My Story yn 2013.

Yn dilyn llwyddiant One Voice, a ryddhawyd yn 2016, lansiodd Aled ei albwm dilynol One Voice At Christmas yn 2016 gyda lansiad ysblennydd i’r wasg 18,000 troedfedd yn yr awyr lle perfformiodd fersiwn newydd o ‘Walking In The Air’ yng nghyngerdd Nadolig uchaf y byd wrth hedfan dros y DU. Unwaith eto fe gyrhaeddodd yr albwm hwn Rif 1 yn y Siart Clasurol.