Mae darllen rhestr o lwyddiannau Anoushka Shankar fel darllen stori sawl bywyd mewn un: mae’n sitarydd meistrolgar; yn gyfansoddwr ffilm; yn actifydd tanbaid; y ferch ieuengaf i dderbyn Tarian Tŷ’r Cyffredin; y cerddor Indiaidd cyntaf i berfformio’n fyw neu i gyflwyno Gwobrau’r Grammy gyda saith enwebiad i’w henw, a’r ferch gyntaf o India i gael ei henwebu; un o’r pum cyfansoddwr benywaidd cyntaf i gael eu hychwanegu at faes llafur cerddoriaeth Safon Uwch y DU. Mae hi’n artist unigryw sy’n herio ystrydebau ar draws sawl maes cerddorol – clasurol a chyfoes, acwstig ac electronig.
Dechreuodd Anoushka astudio’r sitar – a cherddoriaeth glasurol Indiaidd – pan oedd yn 9 oed o dan ei thad, Pandit Ravi Shankar: meistr yr offeryn, a ffigwr allweddol yng ngherddoriaeth yr 20fed Ganrif. Ar ôl gwneud ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf yn dair ar ddeg oed, dechreuodd deithio ledled y byd gyda’i thad ac yna cychwynnodd ar yrfa unigol lwyddiannus ei hun pan oedd yn 18 oed, gan ddod yn adnabyddus am ei harddull chwarae gwreiddiol ond emosiynol, ei hofferyniaeth anghyffredin, a’i chyd-chwarae rhythmig manwl gywir. Ar ôl darganfod cerddoriaeth electronig yn ei harddegau cyn ymgolli yn ddiweddarach yn sîn ‘trance’ seicedelig Goa, gwelodd debygrwydd rhwng hynny â nodweddion myfyriol, mewnblyg cerddoriaeth glasurol Indiaidd yn y rhyddhad ecstatig y llawr dawnsio: sef defnyddio gwahanol liwiau i baentio’r un darlun.
Ar ôl rhyddhau tri albwm clasurol ar gyfer Angel Records EMI a pherfformio mewn lleoliadau fel Carnegie Hall a’r Barbican ar sawl achlysur erbyn iddi gyrraedd 25 oed, cafodd y newid i awyrgylch priddlyd a gweadau dwfn albwm Rise yn 2005 ei danio gan awydd “i greu cerddoriaeth oedd yn cynrychioli’n llawn pwy ydw i.” Roedd ei halbwm dilynol Breathing Underwater, a grëwyd ar y cyd gyda’r offerynnwr amryddawn Karsh Kale, yn creu byd sonig lle gallai ragas, seinweddau sain analog llachar, electroneg fyfyriol, a cherddorion gwadd fel Ravi Shankar, Sting, a Norah Jones – hanner chwaer Anoushka – yn asio â’i gilydd yn gwbl naturiol.
Roedd llofnodi i Deutsche Grammophon yn 2011 yn nodi dechrau degawd ffrwythlon tu hwnt. Cafodd ei phedwar albwm dilynol eu henwebu am wobrau Grammy, a thros y pedwar albwm gwahanol, cafodd llinynnau gwahanol eu plethu i greu tapestri, hyd yn oed wrth i’r themâu symud ac wrth i’r paletau sain ehangu. Wedi’i gyd-ysgrifennu gyda’i chydweithiwr cyson y chwaraewr handpan Manu Delago ac yn cynnwys M.I.A, Vanessa Redgrave ac Alev Lenz, crisialwyd sain Anoushka gan albwm Land Of Gold yn 2016: sitar clir sy’n atseinio ar draws offeryniaeth annisgwyl, sy’n codi uwchlaw unrhyw genre.
Esgorodd ymgais Anoushka i gyfansoddi ar gyfer ffilm ar yr hyn y mae hi’n ei ystyried fel y darn o waith mwyaf heriol iddi ei ysgrifennu: cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) o Shiraz, un o ffilmiau di-sain mawr cyntaf India, a’i pherfformiwyd y gwaith yn fyw mewn dangosiadau o’r ffilm. Mae ei chyd-gyfansoddiad diweddar i ffilm A Suitable Boy gan Mira Nair yn bortread sonig o India ar ôl partisiwn.
Mae Anoushka wedi bod yn llafar ac eiriol iawn wrth son am ei phrofiadau fel merch a rhywun sydd wedi goroesi cael ei cham-drin yn blentyn, gan daflu ei phwysau y tu ôl i ymgyrchoedd fel One Billion Rising. Mae hi’n gweithio’n aml gyda sefydliadau fel UNHCR a Help Refugees i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer argyfwng y ffoaduriaid. Yn 2020 fe’i cyhoeddwyd fel Llywydd cyntaf yr F-List: cronfa ddata yn y DU a grëwyd er mwyn helpu i bontio’r bwlch rhwng y rhywiau mewn cerddoriaeth, ac fel Llysgennad dros The Walk: prosiect artistig rhyngwladol i gefnogi ffoaduriaid.
Website: www.anoushkashankar.com
Facebook: Anoushka Shankar
Instagram: anoushkashankarofficial
Twitter: Anoushka Shankar (@ShankarAnoushka) / Twitter