Sinfonietta Prydeinig

Mae’r Sinfonietta Prydeinig yn un o gerddorfeydd proffesiynol annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU. Ers ei ffurfio yn 2010 mae’r gerddorfa wedi bod yn rhan o weithgareddau amrywiol, gan gynnwys cyngherddau clasurol, cyngherddau corawl, digwyddiadau teledu, sesiynau recordio mewn stiwdio a dangosiadau ffilm.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r gerddorfa wedi perfformio’n helaeth yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn ogystal ag ymweld â Gorllewin Ewrop. Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae Gŵyl Corau Meibion Llundain yn Neuadd y Royal Albert yn Llundain, perfformiad o Requiem Berlioz yng Ngŵyl Cheltenham, dangosiad o Casablanca yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain, dangosiad o Home Alone yn Nenmarc, a phremiere rhyngwladol ‘Adiemus Colores’ gan Syr Karl Jenkins yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2014.

Perfformiodd y Sinfonietta Prydeinig yn Llangollen am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2012, gan berfformio premiere teledu Cymreig ‘The Peacemakers’, a gyfansoddwyd gan Syr Karl Jenkins. Mewn blynyddoedd dilynol cafwyd sawl cyngerdd cofiadwy, gan gynnwys perfformiadau gydag Alfie Boe, Y Fonesig Evelyn Glennie ac Opera Cape Town.

www.britishsinfonietta.com