Yn 1992 sefydlwyd y Britten Sinfonia fel ailddychmygiad beiddgar o ddelwedd gonfensiynol cerddorfa siambr. Daeth ensemble hyblyg o rai o brif unawdwyr a cherddorion siambr y DU ynghyd gyda gweledigaeth unigryw: chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth hen a newydd, cydweithredu â chyfansoddwyr, perfformwyr ac artistiaid gwadd ar draws ffurfiau a genres celfydddol; a chreu digwyddiadau cerddorol deallus sy’n cynnwys cynulleidfaoedd a pherfformwyr fel ei gilydd gyda dwyster anarferol.
Mae Britten Sinfonia yn Ensemble Cysylltiol yn y Barbican yn Llundain, Cerddorfa Breswyl yn Saffron Hall, Essex ac mae ganddi dymor rheolaidd yn Norwich. Mae’n perfformio’n rheolaidd yn Neuadd Wigmore , Llundain ac mewn gwyliau mawr yn y DU gan gynnwys Gwyliau Aldeburgh, Brighton, Norfolk a Norwich a Proms y BBC. Ymhlith y cerddorion sydd wedi cydweithio’n ddiweddar â’r Sinfonia y mae’r cyfansoddwr/arweinydd Thomas Ades, Bryn Terfel y canwr bas-bariton a’r ffotograffydd enwog coedwigoedd glaw yr Amazon Sebastião Salgado.
Gwefan: www.brittensinfonia.com
Facebook: Britten Sinfonia
Instagram: brittensinfonia1
Twitter: @BrittenSinfonia