Mae Catrin Finch y delynores a’r gyfansoddwraig o fri rhyngwladol yn un o’r telynoresau mwyaf dawnus ei chenhedlaeth, ac mae wedi bod yn ymhyfrydu cynulleidfaoedd gyda’i pherfformiadau ar draws y DU ac yn fyd-eang, ers yn bum mlwydd oed.
Dechreuodd ei hastudiaethau yng Nghymru gydag Elinor Bennett, gan ennill y marc uchaf yn y DU yn ei harholiad ABRSM Gradd 8 pan oedd ond yn 9 mlwydd oed, ac yna aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Purcell a’r Academi Gerdd Frenhinol gyda Skaila Kanga, yn graddio gyda Chlod y Frenhines am Ragoriaeth yn 2002.
Yn 2000 cafodd yr anrhydedd o adfer traddodiad hynafol Telynor Brenhinol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, rôl y bu’n ei chyflawni tan 2004, a chafodd ei chyflawni diwethaf yn ystod teyrn y Frenhines Fictoria ym 1873.
Ers hynny, mae wedi perfformio’n eang ar draws yr Unol Daleithiau, De America, y Dwyrain Canol, Asia, Awstralia ac Ewrop, fel unawdydd, ac wedi ymddangos gyda nifer o gerddorfeydd gorau’r byd.
Mae wedi recordio ar gyfer nifer o gwmnïau recordio rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys Universal Records, Deutsche Grammophon, EMI a Sony Classical.
Gan ddangos natur amryddawn mewn nifer o arddulliau cerddorol, yn 2013 cydweithiodd Catrin gyda Seckou Keita, y chwaraewr kora o Senegal ar albwm o’r enw ‘Clychau Dibon’, a enillodd Albwm y Flwyddyn Pleidlais y Beirniaid fRoots yn 2014 a Chydweithrediad Traws-Ddiwylliannol Gorau Cylchgrawn Songlines, a dau Enwebiad am Wobr Werin BBC Radio 2. Mae’r cydweithrediad hwn yn dal i barhau heddiw, gyda’u hail albwm, SOAR, cafodd ei ryddhau ym mis Ebrill 2018, yn denu canmoliaeth uchel gan y beirniaid ac adolygiadau 5* ar gyfer eu sioeau byw yn y Guardian a The London Evening Standard. Maen nhw wedi perfformio’n eang ar draws y DU, Ewrop ac America, gan gynnwys yng ngwyliau megis WOMAD, Shambala, SFinks a Gŵyl L’Orient Interceltique.
Yn adnabyddus am ei gwaith o fewn y gymuned a gyda’r genhedlaeth iau, mae Catrin yn ymrwymedig i hyrwyddo’r delyn a cherddoriaeth glasurol trwy ei henwog a llwyddiannus Ysgol Haf y Delyn Academi Catrin Finch, Diwrnod Hwyl Flynyddol y Delyn a’i nosweithiau ‘Caffi Clasurol’.