Charlotte Hoather

Cwblhaodd y Soprano Charlotte Hoather ei Meistr mewn Perfformiad (Llais) yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym mis Mehefin 2018, dan ofal Rosa Mannion a Simon Lepper, a chyn hynny enillodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth o Conservatoire Brenhinol yr Alban gan astudio o dan Judith Sutarth.

Yn dilyn adolygiadau pum seren yn 2017 am ei pherfformiad o ‘Uccelina’ yng nghynhyrchiad Opera’r Alban o BambinO Manceinion, Caeredin a Glasgow, parhaodd Charlotte yn y rôl ar gyfer taith o Baris ar gyfer y Théâtre du Châtelet cyn i’r cynhyrchiad symud i’r Tŷ Opera Metropolitan yn Efrog Newydd ar gyfer cyfres o sioeau hynod boblogaidd yn 2018. Ym mis Gorffennaf 2018 enillodd Charlotte wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae perfformiadau proffesiynol Charlotte yn cynnwys rôl ‘Zerlina’ yn Don Giovanni gydag Opera Britain, rhan ‘Maria Bertram’ ym mherfformiad Gŵyl Opera Waterperry o Mansfield Park, a rhan ‘Cunegonde’ yn nghynhyrchiad Surrey Opera o Candide. Yn 2019 bydd Charlotte yn perfformio fel ‘Pandora’ yng nghynhyrchiad Opera Radius o opera newydd Tim Benjamin The Fire of Olympus a fydd yn teithio yng Ngogledd Lloegr yn Hydref 2019.