Gwennan Gibbard

Yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru, mae Gwenan wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a’n halawon traddodiadol.  Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae wedi rhyddhau 4 cryno ddisg ar label ‘Sain’.