JACK LUKEMAN

“Un o’r perfformwyr mwyaf rhagorol ac enigmatig.” Edinburgh Spotlight Magazine – Yr Alban

Mae Jack Lukeman o’r Iwerddon yn ganwr-gyfansoddwr, perfformiwr, chwedleuwr a llawer mwy. Mae’n artist uchel ei barch yn ei famwlad, ac mae’n werthwr platinwm, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Lukeman wedi neilltuo mwy o’i amser i ennill llu o ddilynwyr yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn y cyswllt hwn, mae wedi perfformio yn y Deyrnas Unedig fel Gwestai Arbennig ar deithiau gydag artistiaid mor amrywiol ag Imelda May, Jools Holland, The Proclaimers a Neil Sedaka, ac ar hyn o bryd mae’n hyrwyddo “Magic Days”, ei albwm ddiweddaraf o ganeuon gwreiddiol hynod. Mae Lukeman yn berfformiwr llwyfan disglair sy’n hoelio sylw. Mae’n ymgorffori naws theatrig a rhamantus pobl fel Jacques Brel, ond gydag apêl melodaidd gwirioneddol a dawn i greu ei fyd ‘realaeth hudol’ ei hun sy’n llawn pob math o gymeriadau anarferol, picaresg, mae Lukeman yn berfformiwr anghyffredin ac unigryw.

Mae’r artistiaid cerddorol gorau yn gwybod bod recordio caneuon yn y stiwdio a pherfformio ar lwyfan yn ddau gyfrwng cwbl wahanol – mae recordiadau Lukeman yn gasgliadau lliwgar, dwys, ond mewn amgylchedd byw, mae ei grefft llwyfan a’i awydd i ysbrydoli yn cyrraedd yr uchelfannau. Er gwaethaf ei lwyddiannau niferus yn ei yrfa hir, mae gan Lukeman yr awydd a’r uchelgais o hyd i fynd â’i gerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd. Ym mis Mawrth a mis Ebrill 2019, mae’n mynd ar daith yn y DU gyda’i sioeau ei hun, gan roi’r cyfle i gael profiad uniongyrchol o ddawn unigryw Jack Lukeman. Mewn clybiau a neuaddau cyngerdd, theatrau a gwyliau cerddorol, mae gan Lukeman y grym perfformio a’r presenoldeb trawiadol i hudo’r cynulleidfaoedd mwyaf heriol.