Jools Holland

Ganwyd Jools Holland OBE DL yn Julian Miles Holland ar 24ain Ionawr 1958 yn Blackheath, De-ddwyrain Llundain.

Yn wyth oed gallai feistroli’r piano yn ôl y glust yn unig, ac erbyn iddo gyrraedd ei arddegau cynnar roedd yn ddigon hyfedr a hyderus i berfformio’n rheolaidd mewn nifer o dafarndai yn Ne-ddwyrain Llundain a Dociau’r East End.

Pan oedd yn 15 oed, cyflwynwyd Jools i Glenn Tilbrook a Chris Difford; a chyda’i gilydd fe wnaethant ffurfio Squeeze, ac yn fuan wedyn fe ymunodd Gilson Lavis â’r band (a oedd eisoes wedi chwarae gyda pherfformwyr megis B.B. King, Chuck Berry, a Max Wall) – sy’n dal i chwarae’r drymiau gyda Jools hyd heddiw.

Fe sicrhaodd Up The Junction a Cool For Cats lwyddiant aruthrol i Squeeze ac fe ddatblygodd eu poblogrwydd yn gyflym iawn gan ymestyn i America, lle buont yn perfformio yn Madison Square Garden yn Efrog Newydd fel rhan o’u taith.

Ym 1987 fe ffurfiodd Jools The Jools Holland Big Band – a oedd yn ei gynnwys ef a Gilson Lavis.  Mae hyn wedi datblygu’n raddol i’r 19 aelod presennol o Jools Holland and His Rhythm & Blues Orchestra, sy’n cynnwys pianydd, organydd, drymiwr, tair cantores, gitâr, gitâr fas, dau sacsoffon tenor, dau sacsoffon alto, sacsoffon bariton, tri thrymped a thri thrombôn.

Yn ogystal â’i berfformiadau byw anhygoel, mae gyrfa Jools fel perfformiwr recordio diwyd wedi parhau ers iddo ymuno â Warner Music ym 1996, sy’n cynnwys y gyfres Jools Holland and Friends a werthodd filiynau o gopïau.  Ymhlith ei ‘ffrindiau’ enwog mae Sting, Chrissie Hynde, George Harrison, Norah Jones, Eric Clapton, David Gilmour, Bono, Joe Strummer, KT Tunstall, Robert Plant, Smokey Robinson, Sugababes, Ringo Starr, Peter Gabriel, Solomon Burke a llawer mwy.

Mae gyrfa Jools fel cyflwynydd teledu wedi datblygu ochr yn ochr â’i yrfa gerddorol.  Ym 1992 gofynnwyd i Jools gyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd ar gyfer BBC2, a oedd yn cyfuno ei dalent a’i brofiad fel cerddor gyda’i sgiliau fel cyflwynydd teledu.  Y rhaglen hon oedd Later… with Jools Holland.  Mae’r sioe wedi ailgynnau ysbryd arloesol The Tube ac fe ddathlodd 25 mlynedd o’r sioe yn 2017, 50 o gyfresi a mwy na 360 o raglenni a ddarlledwyd ar BBC Two, gyda sioe arbennig yn y Royal Albert Hall ar yr 21ain o Fedi.

Derbyniodd Jools gydnabyddiaeth ffurfiol o’r hyn y mae wedi ei gyflawni ym mis Mehefin 2003, pan dderbyniodd yr OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

www.joolsholland.com