Kizzy Crawford

Kizzy Crawford

Siaradwr Cymraeg gyda threftadaeth Bajan, dechreuodd gyrfa unigol Kizzy Crawford, 23 oed, ychydig o flynyddoedd yn ôl ac yn yr amser hwnnw, mae Kizzy wedi datblygu soffistigedigrwydd cynyddol i’w chyfansoddi a’i pherfformiad, sy’n cael ei ategu gan ei llais eneidiol sy’n ymfalchïo mewn amrywiaeth a charisma.

Ei huchelgais fel artist ifanc, hil gymysg o Gymru yw gadael ei marc trwy asio cerddoriaeth eneidiol-gwerin a jazz, a hynny’n ddwyieithog. Mae hi eisoes yn cael cydnabyddiaeth am ei gwaith gyda chefnogaeth o BBC Radio 1, BBC Radio 2, BBC 6Music, BBC Radio 4, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a Jazz FM.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Kizzy wedi perfformio mewn llawer o wyliau gan gynnwys Cambridge Folk Festival, Cheltenham Jazz, Gŵyl Rhif 6, Womex, Gŵyl Sŵn, Cornbury Hay Festival, How The Light Gets In ac mae hi hefyd wedi perfformio fel gwestai gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC.

Mae Kizzy wedi perfformio’n fyw ar y teledu ar gyfer S4C, Children in Need ar gyfer BBC 1 ac ymgyrch hysbysebu’r 6 Genedl. Mae cerddoriaeth Kizzy’s yn aml yn cael ei ddefnyddio mewn hysbysebion teledu ac ar-lein, cafodd ei chân ‘Caer O Feddyliau’ ei ddefnyddio ar hysbyseb ar gyfer S4C, a’i thrac ‘Shout Out’ a’r fersiwn Gymraeg ‘Yr Alwad’ ei ddefnyddio mewn ymgyrch teledu ac ar-lein CROESO CYMRU 2015

Llofnododd Kizzy i’r cwmni cyhoeddi BDi Music yn 2014 ac yn ddiweddarach cafodd ei ddewis fel un o’r 12 artist yn BBC Gorwelion a oedd yn cynnwys y cyfle i berfformio sesiwn fyw yn BBC Maida Vale. Roedd Kizzy hefyd yn artist ar hyd ochr Gwilym Simcock ar gyfer rhaglen gerddoriaeth ar BBC Radio 4 a wnaeth hi hefyd cael ei wahoddi i berfformio ar raglen ‘Young Talent’ The Verbs ar gyfer BBC Radio 3. Mae Kizzy wedi chwarae llawer o gigs gan gynnwys sioeau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod WOMEX , Glastonbury, Gŵyl Jazz Llundain, Cheltenham Jazz, Gŵyl y Gelli, Gŵyl Dinefwr, Cynhadledd Plaid Cymru, Blissfields, Wakestock, Gŵyl Cwlwm Celtaidd, L’Orient, Gŵyl Fwyd y Fenni (lle perfformiodd ei sengl Golden Brown yn fyw ar BBC Radio 4) a Prince Edward Island Festival yng Nghanada. Mae Kizzy wedi chwarae fel artist cefnogol i Gruff Rhys, Newton Faulkner, Benjamin Francis Leftwich ac mae wedi perfformio ar hyd ochr Cerys Matthews yn y House of Commons, San Steffan.

Yn 2016, cafodd pump o ganeuon Kizzy ei ddewis fel gweithiau gosod fel rhan o faes llafur Cerddoriaeth Lefel A 2016 CBAC, eisteddodd yn yr adran gerddoriaeth gyfoes wrth ochr Gruff Rhys, The Manic Street Preachers a’r Super Furry Animals. O ganlyniad, cafodd Kizzy ei wahoddi i sgwrsio am y cyflawniad hwn a pherfformio un o’r gweithiau gosod ar gyfer Woman’s Hour ar BBC Radio 4. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cyd-hysgrifennodd Kizzy gerddoriaeth gyda’r pianydd a chyfansoddwr jazz Gwilym Simcock ar gyfer y prosiect cydweithredol Birdsong-Cân Yr Adar, ac aeth ar daith ledled Cymru ac yng Ngŵyl Jazz Llundain. Mae Cân yr Adar wedi’i seilio ar Goedwig Law Geltaidd Carngafallt ac roedd yn brosiect yn bartneriaeth rhwng Sinfonia Cymru, RSPB Cymru, PRS a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rhyddhawyd albwm Birdsong ym mis Mai 2018 trwy Basho Records ac yna roedd lansiad yn Llundain a thaith o amgylch Cymru.

Llynedd, arwyddodd Kizzy i Freestyle Records (cartref Omar & Courtney Pine) a rhyddhau ei sengl Progression / Dilyniant a dderbyniodd gefnogaeth gan BBC Radio 2, 6Music & BBC Wales yn ogystal â chael ei chwarae’n ddyddiol ar sioe amser gyrru Jo Whiley & Simon Mayo. Ymhlith y sioeau diweddar mae Gŵyl Jazz Cheltenham, Brecon Jazz, UNESCO Berlin & The Great Escape ac mae Kizzy wrth ei bodd i ryddhau ei halbwm cyntaf ym mis Hydref 2019.