Band Pres Llareggub, o fynyddoedd fytholwyrdd Eryri, yw’r band pres cyntaf i ddwyn safle ar siart C2 y BBC. Ni welwyd y fath beth o’r blaen yn hanes cerddoriaeth fodern Gymreig – dyma grwp sydd yn cyfuno’r hen a newydd mewn ffordd gwbl wahanol…
Cysyniad gwreiddiol Owain Roberts yw Band Pres LLareggub wrth iddo hiraethu am adref tra’n byw yn Llundain bell. Yn tarddu o draddodiadau bandiau pres dalgylch Eryri, cewch glywed Band Pres Llareggub yn chwythu, gwaeddi, neidio a dawnsio eu ffordd i’ch clustiau drwy gyfuno arddulliau i gyflwyno profiad egnïol a chofiadwy. Gan gadw gafael a thraddodiad eu cyndadau, cawn y band yn torri tir newydd wrth ymadael â chonfensiwn i gyflwyno band pres ar newydd wedd. Gan gyfuno elfennau o Hip Hop, Drum’n’Bass, a Jazz New Orleans gydag emynau Cymreig ac anthemau Dafydd Iwan, byddwch siŵr o brofi rhywbeth newydd yn eu perfformiadau byw!