Manu Delago

Wrth iddo eistedd y tu ôl i’w git drymiau cyntaf yn blentyn dwyflwydd oed dechreuodd Manu Delago ar yr hyn a fyddai’n fywyd ag ogwydd cerddorol iawn, ac erbyn iddo gyrraedd ei arddegau cynnar roedd yn chwarae i wahanol fandiau. Pan ddechreuodd Manu Delago chwarae’r Hang (handpan) yn 2003 darganfu ei angerdd am ysgrifennu cerddoriaeth. Graddiodd o brifysgol Mozarteum yn Innsbruck mewn offerynnau taro clasurol, drymiau jazz yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall a chyfansoddi yng Ngholeg Cerdd y Drindod.

Darn unigol Manu Delago “Mono Desire” oedd y fideo Hang mwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd gan gael ei gwyulio dros bum miliwn o weithiau ac roedd hefyd ymysg 30 fideo cerddoriaeth mwyaf poblogaiodd Youtube. Yn 2007 sefydlodd ei fand ei hun Manu Delago Handmade a’r ddeuawd Living Room gan rhyddhau ei albymau cyntaf. Mae ei recordiau yn cynnwys artistiaid gwadd amrywiol fel Erik Truffaz, Andreya Triana neu Douglas Dare ac enillodd ganmoliaeth Tom Ravenscroft a Don Letts ar BBC 6Music ac Alex Lester ar Radio 2, Nitin Sawhney a Jamie Cullum, ac fe’i cefnogwyd gan iD, Clash a DJ Mag.

Mae Manu Delago hefyd wedi cydweithio ag artistiaid amrywiol sy’n arwain yn eu meysydd cerddorol. Ymddangosodd fel gwestai ar ddau albwm Shpongle y cynhyrchwyr Psy-Trance a bu‘n perfformio gyda hwynt ar sawl achlysur. Yn 2011 recordiodd ar gyfer albwm Biophilia gan Björk ac ers hynny bu’n ddrymiwr teithiol iddi, gan chwarae ar bedair taith rhyngwladol gyda’r gantores o Wlad yr Iâ. Yn 2013, dechreuodd Manu berfformio ac ysgrifennu cerddoriaeth gyda’r chwaraewr sitar Anoushka Shankar, gan ennill enwebiad Grammy am ei waith ar ei halbwm ‘Land of Gold’.

Fel offerynnwr taro a drymiwr mae Manu Delago wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog ar chwe chyfandir fel y Royal Albert Hall, y Roundhouse, y Royal Festival Hall a‘r Barbican yn Llundain, Carnegie Hall yn Efrog Newydd, Tŷ Opera Sydney a Gŵyl Roc Fuji yn Siapan. Ar ben hynny, mae Manu Delago wedi perfformio a recordio fel unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, Metropole Orkest, Cerddorfa Aurora, Cerddorfa Siambr Munich a Cherddorfa Siambr Zurich.

Yn 2021, rhyddhaodd Manu Delago ei albwm newydd unigryw, Environ Me. Wedi’i adeiladu gan ddefnyddio ei sgiliau taro trawiadol yn ogystal â thriniaeth electronig a synau a recordiwyd yn uniongyrchol o amrywiaeth o ffynonellau naturiol, mae’r record yn un deinamig ac yn archwiliad sy’n harneisio’r gorau o’i ysbryd anturus a’i weledigaeth unigryw fel bod dynol ac fel artist.

 

Website: www.manudelago.com

Facebook: www.facebook.com/manudelagomusic

Instagram: www.instagram.com/manudelagomusic

Twitter: www.twitter.com/manudelagomusic

YouTube: www.youtube.com/c/ManuDelago