Pauline Black and Arthur ‘Gaps’ Hendrickson

Dechreuodd hanes The Selecter yn 1977, gyda ffurfio band a ddaeth i gael ei adnabod fel “The Selecter,” gyda’r trac cyntaf hwn yn cael ei gynnwys ar ochr b sengl The Specials  “Gangsters”. Recriwtiwyd Desmond Brown (organ hammond), Charley Anderson (bas), Compton Amanor (gitâr), Arthur ‘Gaps’ Hendrickson (lleisiau), Charley ‘H’ Bembridge (drymiau) ac yn olaf y gantores Pauline Black, i gwblhau’r band yn 1979.

Aeth y band yn syth i’r stiwdio, gan recordio a rhyddhau cyfres o senglau. Chwalodd y band yn 1982, gyda Black yn mynd ymlane i ddilyn gyrfa mewn theatr, teledu a ffilm yn ogystal â cherddoriaeth. Daeth Davies a Black yn ôl at ei gilydd yn 1991, gan barhau i deithio a pherfformio yn fyw trwy gydol y 90au a’r 2000au, ac yn y cyfnod hwn rhyddhawyd sawl albwm gan fersiynau gwahanol o The Selecter, yn cael eu harwain gan y brif gantores Pauline Black. Yn 2010, chwaraeodd Black a Hendrickson eto o dan yr enw The Selecter, gan ddathlu 30 mlynedd ers eu halbwm cyntaf. Yn 2014, bu The Selecter ar daith helaeth o amgylch y DU, Ewrop, Seland Newydd ac Awstralia.