Russell Watson

Ni ddychmygodd Russell Watson erioed y byddai’n cael ei ystyried yn un o gantorion clasurol gorau’r byd. Ers cael ei ddisgrifio gan y New York Times fel perfformiwr “sy’n canu fel Pavarotti ac yn diddanu’r gynulleidfa fel Sinatra” rhyddhaodd ddeg albwm stiwdio, gyda phob un yn derbyn canmoliaeth hael gan y beirniaid. Saethodd ei albwm cyntaf ‘The Voice’ i frig siartiau’r DU lle’r arhosodd yn rhif un am 52 wythnos gan dorri record byd. Ar yr un pryd, cyrhaeddodd Russell rhif un yn yr UDA, gan ei wneud y dyn cyntaf o Brydain i gyrraedd rhif un ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd ar yr un pryd. Dilynodd ei ail albwm stiwdio ‘Encore’ yn fuan, a fu’n llwyddiant ysgubol arall gan werthu bron i ddwy filiwn o gopïau ledled y byd. Yn ystod y cyfnod hwn gwobrwywyd Russell gydag amryw wobrau gan gynnwys pedair gwobr yng ngwobrau’r Brits Clasurol.

Nid llwybr arferol i lwyddiant oedd un Russell. Gadawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau yn un ar bymtheg oed a threuliodd wyth mlynedd gyntaf ei fywyd gwaith mewn ffatri. Arweiniodd ei awydd i ddianc rhag undonedd llawr y ffatri iddo gystadlu mewn cystadleuaeth darganfod talentau ar orsaf radio leol lle curodd bedwar cant o gystadleuwyr eraill. Dyma oedd man cychwyn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bymtheng mlynedd a’i weld yn perfformio o flaen rhai o ffigurau mwyaf blaenllaw y byd. Ymhlith y rhain y mae’r Frenhines, Dug Caeredin (mae’n llysgennad i Elusen Cymrodoriaeth y Dug), y Tywysog Charles (mae’n llysgennad i Ymddiriedolaeth y Tywysog), y diweddar Bab Ioan Paul II a ofynnodd am gyfarfod preifat gyda Russell yn y Fatican, cyn Arlywyddion yr Unol Daleithiau Bill Clinton a George W Bush, Ymerawdwr Japan, amryw o Brif Weinidogion Ewrop, Brenin Malaysia a Swltaniaid y Dwyrain Canol.

Mae ei ymddangosiadau eraill yn cynnwys perfformio yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn 2002 lle canodd i gynulleidfa fyd-eang o un biliwn, Palas Buckingham ar gyfer Gŵyl Gala Coroni’r Frenhines yn 2013, seremoni agoriadol Gemau’r Byd, Cwpan Rygbi’r Byd ac yn Stadiwm y Nou Camp cyn Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr 1999 gyda Montserrat Caballé.

Mae hefyd wedi cydweithio gyda sêr eraill fel Meatloaf, Lionel Richie, Paul McCartney, Lulu, Alexandra Burke, Sean Ryder a’r diweddar gawr Luciano Pavarotti.

Mae ei berfformiadau mewn sioeau llwyfan hefyd wedi ennill clod beirniadol mawr iddo, chwaraeodd ran yr offeiriad Nathaniel yn nhaith War of the Worlds Jeff Wayne a chwaraeodd brif ran Karl Oscar yn Kristina gan Benny a Björn (ABBA) lle dywedodd y New York Times bod “llais Puccini-parod Watson yn glir fel grisial”. Cydweithiodd yn ddiweddar gydag Alain Boublil a Claude-Michel Schonberg gan gyflawni uchelgais oes i weithio ochr yn ochr ag awduron sioe gerdd fwyaf llwyddiannus y byd erioed, sef Les Miserables, lle creodd Boublil a Schonberg gorff o waith ingol o ansawdd arbennig ar gyfer albwm newydd Russell.