Gipsy Kings

Grŵp salsa, pop a fflamenco o dde Ffrainc yw’r Gipsy Kings.  Daethant i sylw’r byd am y tro cyntaf ym 1987 pan ryddhawyd eu halbwm ‘Gipsy Kings’.  Er mai hwn oedd eu trydedd record, dyma’r un gyntaf i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol – a sicrhaodd statws aur a phlatinwm mewn gwledydd o amgylch y byd ac y gwerthwyd miliynau o gopïau, fe daniodd hyn dân a ddenodd ddilynwyr sydd wedi bod yn deyrngar iddynt ers degawdau.  Ers y cyflwyniad hwn i’r llwyfan rhyngwladol mae’r Gipsy Kings wedi cynnal eu momentwm, gan werthu bron i ugain miliwn o albymau ac maent wedi teithio’n helaeth o amgylch y byd.  Gan berfformio mewn gwyliau, digwyddiadau a lleoliadau ym mhob cwr o’r byd, mae’r band wedi datblygu i fod yn ffenomen fyw, ac maent yn adnabyddus am eu perfformiadau egnïol sy’n cynnwys rhythmau Lladinaidd byrlymus a pherfformiadau gitâr rhyfeddol.

Er eu bod wedi’u geni a’u magu yn Ffrainc, gellir olrhain tras y grŵp yn ôl i’r gitanos, pobl Romani Sbaeneg a ffodd o Gatalwnia yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.  Gellir clywed dyfnder yr etifeddiaeth hon yn sain eclectig y band, sydd wedi’u dylanwadu gan amrediad o synau a thraddodiadau sy’n adlewyrchu eu llinach.  Mae eu cerddoriaeth yn gymysgedd llesmeiriol o rwmba, fflamenco a salsa, a ddisgrifir fel “croesffordd lle mae rhapsodi a fflamenco sipsiaidd yn cwrdd â ffync salsa”.  O ganlyniad, mae eu sioeau byw yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n hoff o gerddoriaeth Ladin, cerddoriaeth y byd a phop cyfoes – ac unrhyw un sy’n hoffi dawnsio!  Prif leisydd Gipsy Kings yw’r anhygoel Andre Reyes.  Yn fab i’r artist fflamenco enwog Jose Reyes, mae Andre yn cyfareddu cynulleidfaoedd gyda’i chwarae gitâr gwefreiddiol a’i lais anhygoel.  Mae’r Gipsy Kings wedi perfformio yn rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys Neuadd Royal Albert a Kenwood House.

www.gipsykings.com