Toploader

Mae Toploader, y band eiconig o’r 90au yn ôl gyda chaneuon newydd sbon, gan gynnwys albwm llawn a senglau newydd yn 2017. Mae’r pedwerydd albwm hirddisgwyliedig, ‘Seeing Stars’, yn cynnwys y senglau ‘Roll With The Punches’ a ‘Boom Song’ (a gynhyrchwyd gan Andy Green).

I gyd-fynd â’r albwm newydd mi fydd y band yn mynd ar daith llawn yn y DU ac yn ymddangos mewn gwyliau a digwyddiadau mawr ledled Ewrop yr haf nesaf. Aelodau Toploader yw Joseph Washbourn, Matt Knight, Rob Green a Dan Hipgrave, ac yn sicr dyma un o fandiau mwyaf ei genhedlaeth.

Ers ffrwydro ar y sîn yn fuan ar ôl i’r band ffurfio yn 1997, mae Toploader wedi cael ei enwebu sawl tro ar gyfer gwobrau Brit, wedi gwerthu dros ddwy filiwn o albymau ac mae llu o ganeuon wedi cyrraedd yr 20 uchaf ym Mhrydain a thramor. O’r sengl gyntaf ‘Onka’s Big Moka’ i draciau fel ‘Dancing In the Moonlight’, mae’r band wedi llwyddo i daro deg bob tro. Fel un o grwpiau mwyaf poblogaidd eu cyfnod, mae ganddynt nifer fawr o ddilynwyr o hyd dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac roedd eu dilynwyr brwd ar ben eu digon wrth glywed y newyddion eu bod am recordio deunydd newydd.

Er bod y band fod wedi cymryd seibiant rhwng 2003 a 2011 mae eu seren yn dal i dywynnu’n llachar. Fe wnaethon nhw ddychwelyd gydag ‘Only Human’ albwm a gafodd dderbyniad da iawn a daeth mwy o senglau yn y blynyddoedd wedyn, gan gynnwys ‘Turn It Around’, a gafodd lawer o gefnogaeth ar BBC Radio 2. Mae’r band yn gyfarwydd iawn â chwarae o flaen cynulleidfaoedd enfawr a chymysgu dylanwadu cerddorol yn rhwydd, ac maent yr un mor fedrus yn chwarae’n fyw ag y maent yn y stiwdio wrth greu caneuon poblogaidd.

Mae Toploader o hyd yn llwyddo i blesio’r dorf gan gefnogi pobl fel Robbie Williams a Tom Jones mewn cyngherddau cofiadwy o Stadiwm Wembley i Glastonbury.