Ganed Van yn 1945, ac yn gynnar yn ei fywyd fe glywodd gasgliad ei dad o ganu gwlad, y blues a gospel. Cafodd ei ysbrydoli gan gewri cerddorol fel Hank Williams, Jimmie Rodgers, Muddy Waters, Mahalia Jackson a Leadbelly, ac roedd yn gerddor teithio yn 13 oed gan ganu a chwarae gitâr a sacsoffon mewn sawl band, cyn ffurfio Them yn 1964.
Wrth i Them wneud eu henw yng Nghlwb Maritime Belffast, datblygodd Van yn un o brif berfformwyr y maes R&B ym Mhrydain. Arweiniodd ei ddoniau canu a chyfansoddi caneuon at glasuron fel ‘Gloria’ a ‘Here Comes The Night’.
Mi wnaeth y doniau hynny flodeuo’n llawn yng ngyrfa Van fel perfformiwr unigol. Ar ôl gweithio gyda chynhyrchydd Them yn Efrog Newydd, Bert Berns, ar ei sengl boblogaidd ‘Brown Eyed Girl’ (1967), symudodd Morrison i dir uwch.
“… nid chafwyd unrhyw awgrym erioed y byddai Morrison, un o’r artistiaid recordio mwyaf cynhyrchiol a pherfformwyr byw mwyaf gweithgar ei gyfnod, yn gorffwys ar ei rwyfau.”
Mae Astral Weeks (1968), a recordiwyd dros 3 diwrnod gyda cherddorion jazz chwedlonol, yn dal i fod yn albwm unigryw gyda’i gyfuniad o farddoniaeth stryd, jazz byrfyfyr, dwyster Celtaidd a dolefain Blues Afro Celtaidd. Byddai Morrison yn gweu’r arddulliau hyn a llu o ddylanwadau eraill i’w ddisgiau dilynol.
Adlewyrchwyd ei fywyd newydd yn America a chanu ysgafn Sinatra yn Moondance (1970) a naws canu gwlad Tupelo Honey (1971) a chafodd awen o hen fywyd ysbrydol a hynafol yn Listen To The Lion y trac sy’n cloi St Dominic’s Preview (1972).
Amlygodd yr albwm byw dwbl, Too Late To Stop Now (1973), sgiliau perfformio cyffrous Morrison a’i ddawn fel arweinydd band. Wrth ddilyn cwrs cerddorol amrywiol iawn trwy gydol y 70au, disgleiriodd ymhlith llu o sêr eraill, gan gynnwys Bob Dylan a Muddy Waters ar The Band’s Last Waltz.
Yn wir, mae hud perfformiad byw wedi bod yn nodwedd gyson o yrfa Morrison, ac yn rhywbeth sy’n mynd ôl i’w reddfau Showband Gwyddelig.
Wrth ymgartrefu yn ôl yn y Deyrnas Unedig yn 1980, rhyddhaodd albwm Common One, sydd wedi ei ganoli ar Summertime In England, cân sy’n bortread eithriadol o bleser llenyddol, synhwyraidd ac ysbrydol, a fyddai’n datblygu’n ganolbwynt byrfyfyr gwych i’w sioeau byw.
Wrth ddilyn ei lwybr ei hun trwy’r 80au ar ddisgiau fel No Guru, No Method, No Teacher, tynnodd ysbrydoliaeth o’i wreiddiau Celtaidd gyda The Chieftains ar Irish Heartbeat. Ymunodd Georgie Fame gyda’i sioe fyw gan roi hwb o’r newydd i’w berfformiadau ar lwyfan, tra gwelodd Avalon Sunset Morrison yn ôl yn y siartiau albwm a sengl erbyn diwedd y ddegawd.
Parhaodd Van Morrison i gadarnhau ei statws fel artist arloesol trwy’r 90au ac i mewn i’r 21ain ganrif.
Roedd y gwobrau a’r anrhydeddau a ddaeth i’w ran – urddwyd ef yn farchog, derbyniodd OBE, enillodd wobr Brit, gwobr Ivor Novello, 6 Grammy, derbyniodd ddoethuriaethau er anrhydedd o Brifysgol y Frenhines Belfast a Phrifysgol Ulster, cafodd ei gynnwys yn rhestr enwogion y Rock n Roll Hall of Fame a derbyniodd yr Orders Des Artes Et Des Lettres yn Ffrainc – yn tystio i ddylanwad rhyngwladol celfyddyd gerddorol Van.
Eto i gyd, ni chafwyd unrhyw awgrym erioed y byddai Morrison, un o’r artistiaid recordio mwyaf cynhyrchiol a pherfformwyr byw mwyaf gweithgar ei gyfnod, yn gorffwys ar ei rwyfau.
Parhaodd ehangder a chyrhaeddiad ei waith wrth iddo gydweithio gyda cherddorion eraill yn 2015 gan ryddhau albwm ‘Duets: Re-working The Catalogue’, oedd yn cynnwys cantorion mor ddylanwadol ac amrywiol â Bobby Womack, Gregory Porter, Mavis Staples a Michael Bublé. Roedd yr albwm yn ailweithio rhai caneuon o gatalog cerddorol Morrison o dros 360 o draciau. Ailweithiwyd caneuon fel Real Real Gone, Higher Than The World ac Irish Heart Beat, a recordiwyd yr albwm yn Llundain a Belfast, ei dref enedigol, dros gyfnod o flwyddyn, gan ddefnyddio amrywiaeth o gerddorion a threfniannau newydd.
Gydag un o’r catalogau mwyaf uchel ei barch yn hanes cerddoriaeth a’i dalentau digymar fel cyfansoddwr, canwr a pherfformiwr, mae cyflawniadau Morrison yn rhai sylweddol iawn. Ond, fel sydd wedi digwydd ar hyd ei yrfa nodedig, mae’r pethau a wnaeth yn y gorffennol yn dal i fwydo ei gyflawniadau yn y dyfodol ac yn dal i gyffroi a chreu ymdeimlad o ddisgwylgarwch eiddgar.
Ac felly yn 2017 rhyddhaodd Van ei 37ain albwm stiwdio, Roll With The Punches. Blas canu blues sydd i’r albwm 15 trac, gan ailgysylltu Morrison gydag artistiaid fel Leadbelly, Lightnin ‘Hopkins, Little Walter a Bo Diddley … y cerddorion a glywodd gyntaf ar y radiogram ar aelwyd y teulu. Ond yn fwy felly, mae’n Van yn ôl unwaith eto yn chwarae gyda cherddorion y daeth ar eu traws yn ystod ei amser gyda Them ym mwrlwm blues y ’60au, ac mae Chris Farlowe, Paul Jones o fand Manfred Mann a Jeff Beck o The Yardbird’s i gyd yn cyfrannu i’r albwm. Mae’r jambelaya cyfoethog ar Roll With The Punches yn gweld Van Morrison, yn edrych yn ôl ac yn symud ymlaen. Ac er ei fod yn cyfeirio at y gorffennol, mae Morrison bob amser yn gosod ei farc unigryw a gwreiddiol ei hun ar yr hyn a fu.