Mae’n bleser gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi penodiad Camilla King fel ein Cynhyrchydd Gweithredol.
Mae Camilla King yn ymuno ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel Cynhyrchydd Gweithredol o’i rôl fel Pennaeth Rhaglennu yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham. Yn brofiadol fel rhaglennydd cerddoriaeth glasurol, a rheolwr prosiect a digwyddiadau gyda gyrfa 20 mlynedd yn y sectorau celfyddydau ac elusennol, astudiodd Camilla Gerddoriaeth yng Ngholeg King’s Llundain cyn gweithio fel rheolwr artistiaid i Ingpen & Williams. Dilynwyd hyn gyda chyfnod yn yr adran gastio yn English National Opera, yn rhedeg cynllun addysg gorawl ar gyfer Consort a Chwaraewyr Gabrieli, a chyfnod byr yn codi arian gyda Freedom from Torture, elusen a ddatblygodd o Amnest.
Mae Camilla hefyd yn awdur a darlledwr, a ffrydiwyd ei chyfweliad ‘House of Music’ gyda Kadiatu Kanneh-Mason a phlant, yn fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Cheltenham 2020 a’i darlledu’n ddiweddarach ar Sky Arts a llwyfan ffrydio Marquee TV. Mae hi’n Ymddiriedolwr The Carice Singers, sy’n dod i’r amlwg fel un o ensemblau lleisiol mwyaf nodedig y DU.
Dywedodd Dr Rhys Davies, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen:
“Rydw i mor falch mai Camilla King fydd ein Cynhyrchydd Gweithredol newydd. Mae gan Camilla enw da am ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel ac fe wnaeth hi argraff arnom gyda’i gweledigaeth. Mae ei phrofiad a’r hyn y mae wedi’i gyflawni yn gweddu’n berffaith ar gyfer arwain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.”
Ychwanegodd Camilla King:
“Mae’n anrhydedd cael ymuno â’r tîm yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar adeg o heriau a newid, ond hefyd potensial mawr. Wrth i ni baratoi ar gyfer dathlu 75 mlwyddiant Eisteddfod Llangollen yn 2022, mae’n teimlo fel bod ein hegwyddorion gwreiddiol o hyrwyddo heddwch trwy ieithoedd cyffredin cerddoriaeth a dawns yn bwysicach a mwy perthnasol nag erioed.”