Arddangos car clasurol yn yr Eisteddfod a ddefnyddir i helpu pobl â dementia

Mae car clasurol sydd wedi cael gweddnewidiad papur arbennig, yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i helpu pobl sy’n byw gyda dementia.
Gellir gweld y cerbyd salŵn Daf 44 1975 prin, sy’n eiddo i’r artist llawrydd Carol Hanson, yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon fel rhan o brosiect dwy flynedd o’r enw Dementia a Dychymyg sy’n ceisio helpu pobl i ymdopi â’r cyflwr mewn ffordd weledol, hwyliog.

Mae’r prosiect yn cynnwys academyddion o brifysgolion ym Mangor, Manceinion a Newcastle ac yng ngogledd Cymru mae’n cael cymorth gan Gyngor Sir Ddinbych, sydd wedi trefnu i Dementia a Dychymyg gael stondin yn yr eisteddfod. Mae’r car wedi ei barcio y tu allan i’r stondin ac mae cannoedd o ymwelwyr wedi bod yn ei edmygu yn ystod yr ŵyl.
Dywedodd Carol, sy’n dod o Gaer: “Rydw i wedi bod yn gweithio gyda’r prosiect ers mis Mehefin a’r nod yw gweld sut y gall y celfyddydau gweledol helpu pobl â dementia i gael ychydig mwy o fwynhad o’u bywydau.
“Rydym wedi bod yn cynnal gweithdai i bobl sydd â’r cyflwr yn Llyfrgell y Rhyl a Chanolfan Grefft Rhuthun lle maen nhw wedi bod yn creu eu darnau o gelf eu hunain mewn clai, ffelt a phaent. Maen nhw hefyd wedi gwneud gwaith gemwaith.
“Mae rhai enghreifftiau hyfryd o’r gwaith wedi cael eu harddangos ar y stondin yn yr eisteddfod.
“Yna mi wnes i feddwl am y syniad yma o greu byd papur cyfan o gwmpas pâr dychmygol o’r enw Doris ac Ivor, gyda’r car yn rhan ganolog ohono.
“Car Daf 40 oed yw’r cerbyd a fi yw ei berchennog. Coch yw ei liw go iawn, ond rwyf wedi wedi rhoi sticeri papur gwyn ar hyd a lled corff y car a’r tu mewn er mwyn gwneud iddo edrych fel pe bai wedi ei wneud yn gyfan gwbl o bapur, mi wnes i ddewis hynny am fy mod wedi gweithio cryn dipyn gyda phapur yn y gweithdai.
“Rwyf hefyd wedi defnyddio papur i greu eitemau ategol fel basged picnic, sy’n dod gyda chacennau, platiau a chyllyll a ffyrc papur a ddefnyddir gan Doris ac Ivor ar eu dyddiau allan yn y car.
“Bydd rhai o’r dyluniadau ffabrig a gynhyrchwyd yn y gweithdai yn sail ar gyfer gwisg nofio i Doris a chrys Hawaii i Ivor.”
Ychwanegodd Carol: “Mae’r car y tu allan i’n stondin yn yr eisteddfod wedi denu cryn dipyn o ddiddordeb a dyna’n union oeddem ei eisiau.
“Ein prif nod yw dangos nad yw dementia yn ddedfryd oes ac na ddylid anobeothio am bobl sy’n byw gyda’r cyflwr.
“Rwy’n meddwl bod y car a’r eitemau papur eraill yn ffordd hwyliog o fynd i’r afael â rhywbeth sydd wedi mynd yn bwnc anodd i’w drafod i rhai pobl.”
Yn dilyn ei ymddangosiad yn yr eisteddfod yn Llangollen, bydd y Daf yn mynd ymlaen i serennu yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog ym mis Awst.
Bydd ei anturiaethau gyda Doris ac Ivor yn ymddangos yn y pen draw ar y wefan Dementia a Dychymyg yn http://dementiaandimagination.org.uk/ a gobaith Carol yw y bydd hefyd yn atyniad rheolaidd mewn digwyddiadau ceir clasurol ledled Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect Dementia a Dychymyg, cysylltwch â Sian Fitzgerald yng Nghyngor Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at:
sian.fitzgerald:@denbighshire.gov.uk