Eisteddfod Llangollen yn Galw – Ewch Ati i Bwytho!

Mae’r artist rhyngwladol Luke Jerram yn bwriadu defnyddio ffabrig i weddnewid pont Llangollen – yn y llun rhoddir syniad o sut y bydd y gwaith celf yn edrych ar ôl ei gwblhau.

Mae Eisteddfod Llangollen yn galw am bobl i roi help llaw i drawsnewid Pont nodedig Llangollen yn waith celf enfawr er mwyn lansio gŵyl eleni.

Mae’r Eisteddfod wedi comisiynu’r artist rhyngwladol o fri Luke Jerram i greu’r gwaith celf newydd. Mae’n bwriadu lapio’r bont 60 metr o hyd mewn clytwaith anferth sy’n adlewyrchu crefftau a diwylliannau Cymru ynghyd â’r cenhedloedd sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl. Er y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein yn bennaf eleni, gobeithiwn y bydd y bont drawiadol hefyd yn denu pobl i ymweld â’r dref yr haf hwn.

Bydd gwaith celf newydd Luke Jerram ar y bont yn cysylltu ac yn ymestyn creadigrwydd yr Eisteddfod allan o’r maes, i’r dref, gan drawsnewid a bywiogi Llangollen i’r byd i gyd ei weld.

Rydym yn cynnig cyfle i chi gymryd rhan, trwy ofyn i chi wneud eich sgwariau ffabrig 1m x 1m eich hun a fydd yn cael eu pwytho gyda’i gilydd a’u hongian dros y bont. Yn ddelfrydol dylai’r clytweithiau fod yn drawiadol eu dyluniad, fel eu bod yn sefyll allan wrth eu gweld o bell.

Er mwyn i’ch darn clytwaith gael ei gynnwys ar y bont, mae angen iddo gael ei ddanfon i fynedfa Penddol ger safle Eisteddfod Llangollen erbyn 30 Mehefin 2021.

Y cyfeiriad ar gyfer y rhai sy’n dymuno postio eu darn clytwaith yw: Swyddfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Ffordd yr Abaty, Llangollen LL20 8SW
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ffoniwch 01978 862000 neu anfonwch e-bost at info@llangollen.net.

Esiamplau o ddarnau clytwaith:

 

 

Dywedodd yr artist Luke Jerram, sy’n adnabyddus am weithiau celf gyhoeddus ledled y byd:

“Pan welais i Bont Llangollen am y tro cyntaf, mi wnes i syrthio mewn cariad yn syth. Mae mor eiconig ac wrth galon y dref. Ar draws y byd, mae pontydd bob amser wedi cael eu defnyddio fel ffyrdd corfforol a symbolaidd i gysylltu pobl – sy’n cyd-fynd yn berffaith â nodau ac uchelgeisiau’r Eisteddfod. Fedra i ddim aros i weld y darnau clytwaith y mae pobl greadigol y gymuned leol yn mynd i’w hanfon i mewn, er mwyn troi’r bont yn waith celf.”

Dywedodd Betsan Moses, Prif Swyddog Gweithredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen:

“Mae gan yr Eisteddfod hanes hir a chyfoethog o weithio gyda gwahanol gymunedau a chenhedloedd ledled y byd i ddod â phobl at ei gilydd i rannu eu creadigrwydd a neges heddwch. Mae cymuned Llangollen mor bwysig i’r ŵyl, gyda channoedd o bobl leol yn gwirfoddoli bob blwyddyn. Felly rydym yn gobeithio y bydd creu a rhannu darnau clytwaith ar gyfer gwaith celf y bont yn ffordd o’u helpu i gysylltu â’r ŵyl ar-lein yr haf hwn, yn ogystal â denu ymwelwyr i’r dref.”

Telerau ac amodau

Mae angen i’ch clytwaith gael ei wneud o ffabrig ac o faint 1m x 1m. Caniateir unrhyw liwiau ac rydym yn chwilio am ddelweddau sy’n drawiadol ac yn gryf o ran eu geometreg. Ni ddylai eich dyluniad gynnwys ysgrifennu na negeseuon gwleidyddol.*

*Rydym yn cadw’r hawl, i beidio â chynnwys eich clytwaith os bernir ei fod yn amhriodol.

Gwybodaeth am Luke Jerram

Mae arfer amlddisgyblaethol Luke Jerram yn cynnwys creu cerfluniau, gosodiadau a phrosiectau celf byw. Mae Jerram yn byw ym Mryste, yn y Deyrnas Unedig ond mae’n gweithio’n rhyngwladol, ac wedi creu nifer o brosiectau celf anghyffredin dros y 24 mlynedd diwethaf sydd wedi cyffroi ac ysbrydoli pobl ledled y byd.

www.lukejerram.com