CROESAWU’R EISTEDDFOD GYDA BLODAU WRTH LANSIO GŴYL Y CENNIN PEDR

flower festival

Mae pwyllgor blodau enwog Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ehangu yn 2024 gyda’u ‘Gŵyl Y Cennin Pedr’ eu hunain.’ Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Eglwys Sant Collen yn Llangollen o 5-7 Ebrill, a bydd yn cynnwys Cyngerdd Corawl gyda’r nos gyda Chôr Merched Lleisiau’r Afon, dan arweiniad Leigh Mason, yr unawdydd lleol enwog Clare Harrison, ynghyd ag Owen Roberts a pherfformiad Theatr Gerdd gan Shea Ferron. Bydd cyngerdd arbennig ‘Songs of Praise’ hefyd, dan arweiniad Ficer poblogaidd Llangollen, y Tad Lee Taylor.

Bydd yr ŵyl yn codi arian at elusen Eisteddfod Llangollen. Mae’r elusen yn helpu i ddod â channoedd o bobl o bob rhan o’r byd i’n gŵyl heddwch flynyddol. Bydd hefyd yn cynnwys ton o gennin Pedr ac arddangosfeydd blodau, gyda chennin Pedr o bob siâp, maint a deunydd wedi’u crefftio gan y gymuned gan gynnwys ysgolion lleol. Bydd y rhain yn cael eu harddangos yn yr eglwys ac yn Neuadd Gymunedol Sant Collen, a fydd yn cynnal stondinau, gweithdai, lluniaeth, a raffl ddydd Sadwrn, Ebrill 6.

Dywedodd Michelle Davies, Cadeirydd Pwyllgor Blodau Eisteddfod Llangollen, “Mae ein cennin Pedr yn symbol adnabyddus o Gymru ac yn nodwedd annwyl o’n gerddi a’n cefn gwlad. Beth am gynnal gŵyl i anrhydeddu ein hoff flodyn? Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer hyn ers misoedd, ac mae ein tîm eisoes wedi plannu cannoedd o fylbiau ar dir ein heglwys hardd o’r 6ed ganrif. Mae gennym 2 gyngerdd bendigedig ar y gweill, i gyd i ddathlu blodyn cenedlaethol Cymru. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at elusen Eisteddfod Llangollen i’n helpu i barhau i groesawu’r Byd i Gymru.”

Dechreuodd y traddodiad o addurno prif lwyfan yr Eisteddfod Ryngwladol gyda blodau yn yr ŵyl gyntaf yn 1947, pan roddwyd ychydig o flodau mewn jariau jam i guddio’r polion pebyll oedd yn dal adlen y llwyfan. Dros y 76 mlynedd diwethaf, mae’r traddodiad – ynghyd â faint o flodau – wedi tyfu, gyda’r arddangosfeydd mor eiconig â’r ŵyl ei hun.

Meddai’r Tad Lee Taylor, ficer â gofal Eglwys Sant Collen, Llangollen, “Rydym yn falch iawn o gael cynnal dathliad pwyllgor blodau Eisteddfod Llangollen o’r genhinen Bedr. Mae’r Eisteddfod yn gyfystyr â blodau. Bob blwyddyn, mae ein tref yn croesawu cystadleuwyr o bob rhan o’r byd i berfformio ar lwyfan wedi’i addurno’n ysblennydd â blodau. Yn ogystal â bod yn symbol o Gymru, mae cennin Pedr yn symbol o ddechreuad newydd, felly rydym yn falch iawn o groesawu gŵyl gyntaf erioed Llangollen i ddathlu cennin Pedr.”