Yr wythnos hon bydd yr unig gadeirydd sydd wedi gwasanaethu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am ddau dymor yn camu i lawr, gan ddod â chysylltiad 64 mlynedd gyda’r digwyddiad mawr i ben.
Dechreuodd Gethin Davies fel gwerthwr rhaglen 12 oed yn 1951 ac mae hefyd wedi bod yn dywysydd ac ysgrifennydd yr ŵyl, yn ogystal â chadeirydd o 1992 i 2003 ac o 2013 i eleni.
Mae ei wraig, Eulanwy, hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, gŵyl a ddechreuodd yn ôl yn 1947 ac a fydd yn dathlu ei 70 mlwyddiant yn 2017.
Dywedodd Gethin, 76 oed, sy’n gyfreithiwr wedi ymddeol ac a lwyddodd i oresgyn canser y llynedd: “Mae fy nhymor tair blynedd yn dod i ben eleni ac nid wyf yn ceisio cael fy ail-ethol ac rwyf yn camu o’r neilltu ar ôl 45 mlynedd ar y bwrdd.”
Cafodd ei eni ym Mhorthcawl, de Cymru, a symudodd i Langollen pan ddaeth ei dad yn bennaeth yr ysgol gyfun yn y dref ac meddai: “Clywais blant yn siarad am werthu rhaglenni am bres comisiwn.
“Cefais ddwy geiniog am bob rhaglen a werthwyd gennyf am ddau swllt yr un a diweddais yr wythnos gyda 25 swllt – £1.25 yn arian heddiw – ond roedd yn rhifyn swmpus arbennig o’r rhaglen oherwydd ei fod yn Ŵyl Prydain y flwyddyn honno ac yn 1952 aeth yn ôl i faint llai am swllt y rhifyn a phres comisiwn o un geiniog yn unig. Felly wnes i ddim cymaint o elw y flwydydn honno. “
Symudodd ymlaen i fod yn dywysydd, ac er nad oedd y gwaith hynny mor broffidiol roedd yna atyniad ychwanegol o gael mynychu’r holl gyngherddau am ddim, ac mae ganddo atgof byw o ferched Obernkirchen yn canu The Happy Wanderer yn 1953.
Yn ddiweddarach gwelodd artistiaid fel y feiolinydd mawr Yehudi Menuhin, y bas Bwlgareg taranllyd Boris Christov a chanwr a hysbysebwyd ar y pryd fel ‘Tenor o Fecsico’ sef neb llai na’r Placido Domingo ifanc.
Yn nes ymlaen mi ddaeth Gethin, a astudiodd y gyfraith yn Aberystwyth, lle cyfarfu ag Eulanwy, yn un o’r partneriaid a sefydlodd gwmni cyfreithwyr llwyddiannus GHP Legal yn Wrecsam, a fu’n noddwyr pwysig i’r Eisteddfod.
Tan 1992, pryd agorodd y Frenhines y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol newydd, roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn pabell enfawr ond roedd yr Eisteddfod, a sefydlwyd yn wreiddiol fel modd o hyrwyddo heddwch a chytgord rhyngwladol, hefyd yn meddu ar synnwyr busnes craff.
Meddai Gethin: “Yn 1958 prynwyd y caeau lle cynhelir y digwyddiad heddiw am £12,000 a oedd yn swm mawr bryd hynny, ond fel mae’n digwydd roedd hynny’n fusnes craff iawn.
“Mi wnaethon nhw brydlesu rhan ohono i hen Gyngor Sir Ddinbych ar yr amod fod y tir ar gael i’r Eisteddfod gan daro bargen wedyn gyda Chyngor Sir Clwyd, diolch i Brif Weithredwr y Cyngor, Mervyn Phillips, rhywbeth a fu hefyd yn hanfodol.
“Mi wnaethon ni godi £500,000 ac mi wnaeth y Cyngor wneud cais llwyddiannus am £3 miliwn o arian Ewropeaidd, a dalodd am y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.
“Roedd y gwaith adeiladu yn symud braidd yn araf ond pan wnaeth yr adeiladwyr ddarganfod bod y Frenhines yn dod i agor y Pafiliwn mi wnaethon nhw roi tân arni.
“Yr wythnos flaenorol roedd Côr y Fron wedi profi’r acwsteg ac roedd yn ofnadwy.
“Roedd gan y cyflwynydd, Robin Jones, wn go iawn gydag ef ar y llwyfan, ac ar ôl gwneud jôc am y peth gyda’r gynulleidfa, taniodd ergyd er mwyn profi’r amser atsain ac ar ôl hynny mi osodwyd amrywiol bafflau i mewn ac mae’r ansawdd sain wedi dod yn rhagorol dros y blynyddoedd.
“Mae’n awditoriwm gwych ar gyfer cystadlaethau a chyngherddau, ac mae’n dal i gadw’r teimlad eich bod bron mewn pabell gynfas sy’n rywbeth unigryw i’r Eisteddfod.”
Dechreuodd tymor cyntaf Gethin fel Cadeirydd yn 1992 ac ef oedd yn y swydd adeg dychweliad Luciano Pavarotti yn 1995 a bu’n gwasanaethu fel Cadeirydd hyd at 2003, cyn dod i’r adwy eto am ei ail dymor yn 2013, ond nid yw ei gyfraniad wedi ei gyfyngu wirfoddolu yn y cefndir yn unig.
Mae wedi cystadlu hefyd, i gychwyn bu’n aelod am 13 mlynedd o Côr y Fron, gan ddod yn ail ddwywaith ond gan ennill llawer o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn fwy diweddar, mae wedi canu gyda chôr cymysg Côr Rhuthun, sydd hefyd wedi ennill yn y Genedlaethol ond nid yw erioed wedi cael cyntaf yn Llangollen ac meddai: “Byddai’n wych ennill yma, byddwn wrth fy modd pe bawn yn llwyddo i wneud hynny. Byddwn yn cyfnewid yr holl droeon eraill yr wyf wedi ennill am un llwyddiant yn Llangollen.
“Cystadleuaeth Côr y Byd yw uchafbwynt yr wythnos i mi ac rwy’n ei mwynhau yn fawr iawn, fyddwn i ddim yn ei cholli am y byd.
“Ond mae’r Eisteddfod yn parhau i fod yn unigryw, yr ŵyl yma sydd wedi braenaru;r tir i’r holl wyliau eraill, a digwyddiadau fel Glastonbury – ac mae’r clod am hynny i’r llu o wirfoddolwyr ymrodgar, oherwydd mae ein staff parhaol yn fach.
“Mae yna fyddin o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser ac sy’n gweld braidd dim o’r digwyddiad ei hun, y nhw sy’n ei wneud yr hyn ydyw ac sy’n ei wneud yn rhywbeth mor arbennig.”
Ar ôl ymddeol mae Gethin yn bwriadu cael seibiant o’r gwaith tu ôl i’r llenni, ond bydd yn dal yn un o selogion yr ŵyl – ac mae’n gallu gweld y cae o ffenestr ei gartref ar y bryn uwchlaw.