Mae’r eiconau roc byd-eang Simple Minds yn dod i Ogledd Cymru ar gyfer sioe fawr ym Mhafiliwn Llangollen.
Yr Albanwyr anhygoel yw’r act fawr olaf i’w chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2024 a byddant yn perfformio yn y lleoliad nos Fercher 19 Mehefin. Yn ymuno â nhw ar y noson fydd eu gwesteion arbennig Del Amitri.
Bydd tocynnau ar gyfer y sioe fythgofiadwy hon yn mynd ar werth am 9yb ddydd Gwener (Ionawr 26) o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
Simple Minds yw un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus i ddod o’r DU erioed, gan werthu mwy na 60 miliwn o recordiau ledled y byd a’u senglau wedi cyrraedd rhif un ar y ddwy ochr i Fôr yr Iwerydd.
Mae’r galw i’w gweld yn perfformio caneuon mor eiconig â Promised You a Miracle, Glittering Prize, Someone Somewhere in Summertime, Waterfront, Alive and Kicking, Sanctify Yourself a Don’t You Forget About Me wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda’r band yn cael canmoliaeth gyson fel un o’r artistiaid byw gorau eu cenhedlaeth.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Simple Minds – Jim Kerr (llais), Charlie Burchill (gitâr, allweddellau), Gordy Goudie (gitâr acwstig), Ged Grimes (bas), Cherisse Osei (drymiau), a Sarah Brown (llais) – wedi ailgynnau’r hud a’u gwnaeth yn rym artistig hanfodol yn eu dyddiau cynnar.
Disgrifiwyd albwm 2015 y band Big Music gan gylchgrawn MOJO fel “eu halbwm gorau mewn 30 mlynedd”, ac yn Walk Between Worlds yn 2018 chwaraeodd Simple Minds eu taith fwyaf yn yr Unol Daleithiau hyd yma tra bod Direction Of The Heart 2022 wedi rhoi albwm arall yn y pump uchaf yn y DU i’r band.
Mae’r cyhoeddiad yn nodi’r brif sioe olaf i’w datgelu ar gyfer Llangollen fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe & Taylor.
Mae Simple Minds yn ymuno â’r brenhinoedd pop Prydeinig Madness, yr arwyr indi Kaiser Chiefs, y Manic Street Preachers a Suede, enillydd gwobr BRIT Paloma Faith, seren y siartiau Jess Glynne, dewiniaid y disgo Nile Rodgers a CHIC a’r rocar fyd-enwog Bryan Adams ymhlith yr artistiaid a gyhoeddwyd i berfformio’r naill ochr i’r ŵyl heddwch eiconig yn 2024. Yn ystod wythnos graidd yr ŵyl bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dathlu’r Eisteddfod ynghyd â sioeau mawr gan y cewri Cymreig Tom Jones a Katherine Jenkins a’r rhyfeddod jazz rhyngwladol Gregory Porter.
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Dave Danford: “Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi cyhoeddi cyfres ddigynsail o sioeau yn Llangollen ar gyfer 2024, a heddiw rydym yn cwblhau ein rhaglen gydag ychwanegiad Simple Minds, sy’n sicr o roi perfformiad i’w gofio.
“Mae gweithio gyda’n cyd-hyrwyddwyr Cuffe & Taylor wedi ein galluogi i archebu rhai o’r enwau mwyaf yn y busnes, a gyda phopeth wedi’i gyhoeddi nawr gallwn edrych ymlaen at haf arbennig iawn o gerddoriaeth fyw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.”
Ychwanegodd Peter Taylor, cyd-sylfaenydd Cuffe & Taylor: “Mae Simple Minds yn ychwanegiad gwych i’r arlwy yr ydym wedi’i gynllunio yn Llangollen yr haf hwn. Maent yn un o hoff fandiau’r DU ac mae eu sioeau bob amser yn llawn anthemau y mae dilynwyr yn eu hadnabod ac yn eu caru.
“Dyma fydd ein haf cyntaf yn gweithio gyda’r tîm gwych yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â llu o eiconau byd-eang a thalent cartref i’r lleoliad hardd hwn. Mae cael ein holl brif sioeau wedi’u trefnu yn ein rhoi mewn sefyllfa gyffrous iawn am yr haf a fedrwn ni ddim aros i agor y drysau i haf o gerddoriaeth fyw.”