Gemma yn chwythu nodau swynol

Mae myfyriwr o Heswall wedi cipio un o’r prif wobrau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Llwyddodd Gillian Blair, 24 oed, sy’n astudio cerddoriaeth yn y Royal Northern College of Music Cerdd ym Manceinion, i ddod i’r brig mewn cystadleuaeth safonol a chipio teitl y Cerddor Ifanc Rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, ynghyd â gwobr ariannol o £1,500 a’r fedal ryngwladol.

Fel rhan o’i rhaglen mi wnaeth y sacsoffonydd, sy’n ferch i Stephen Blair, llawfeddyg fasgwlaidd o Gilgwri sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Spire Murrayfield a’r therapydd Christine Blair, chwarae nifer o ddawnsfeydd gwerin o Rwmania ar y soprano sacsoffon cyn diweddu gyda sonata gan Robert Muczynaski.
Wrth siarad ar ôl casglu ei gwobr ariannol, dywedodd Gillian y bydd yn defnyddio’ arian i gomisiynu cerddoriaeth sacsoffon er mwyn gallu cynhyrchu albwm, gan ychwanegu: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill cystadleuaeth galed. Roedd y safon yn rhagorol ac eto i gyd roedd y cystadleuwyr eraill yn gyfeillgar ac roedd pawb yn hynod groesawgar.
“Mae’n golygu llawer i ennill cystadleuaeth mor nodedig ac mae fy rhieni yn falch iawn drosof. Ar hyn o bryd rwy’n astudio a byw ym Manceinion wrth i mi gwblhau fy ngradd Meistr mewn cerddoriaeth.”
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod: “Mae’n wych gweld sacsoffonydd yn ennill y gystadleuaeth yma, mae’n offeryn arbennig. Roedd gennym tua 20 o ymgeiswyr ac roeddwn i’n meddwl fod y safon yn rhagorol a Gemma yn iawn, iawn.
“Rydym yn awr yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant eleni a datblygu’r gystadleuaeth hon yn un bwysig ar gyfer cerddorion ifanc ar y gylchdaith gystadleuol.”
Dywed y cyn-ddisgybl o Ysgol Ramadeg West Kirby iddi ddechrau chwarae’r sacsoffon yn naw oed a syrthio mewn cariad â’r offeryn.
Dywedodd: “Fy uchelgais yn awr yw gorffen fy ngradd Meistr ac yna gweithio fel cerddor llawrydd gyda cherddorfeydd a hefyd addysgu’r sacsoffon i eraill.”