Lansio “Yn Fyw Yn Llangollen” i Gefnogi’r Eisteddfod!

Bydd trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal nifer o gigs yn Neuadd y Dref Llangollen i godi arian i gefnogi eu Heisteddfod. Mae’r gigs, a gynhelir yn fisol yn Neuadd y Dref Llangollen yn cynnwys artistiaid teyrnged i ABBA, Robbie Williams, Pink Floyd, Slade yn ogystal â’r Merseybeats gwreiddiol, a berfformiodd gyda’r Beatles yn y 1960au.

Gobaith y trefnwyr yw dod â Chymuned Llangollen ynghyd a chodi arian ar gyfer eu gŵyl gerddoriaeth flynyddol. Bydd noson “Yn Fyw yn Llangollen” bob mis yn Neuadd y Dref Llangollen o ddydd Gwener, Ionawr 19eg.

Is-lywydd Oes Eisteddfod Llangollen Keith Potts a’i dîm o wirfoddolwyr codi arian sydd y tu ôl i’r gigs misol.

Meddai Keith, “Bob blwyddyn, rydyn ni’n croesawu pobl o bob rhan o’r byd i hyrwyddo heddwch a chymodi trwy gân a dawns. Mae hyn yn rhan o’n nod i weithio drwy’r flwyddyn a dod â’n cymuned at ei gilydd. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau rhywfaint o’r perfformiadau teyrnged mwyaf poblogaidd o Gymru a Lloegr ar gyfer ein gigs misol. Gobeithiwn y bydd y cyngherddau byw yn boblogaidd a byddwn yn codi arian y mae mawr ei angen i barhau ein gŵyl heddwch eiconig. Eleni, yn ogystal â dod â rhai o ddiddanwyr mwyaf y Byd i’r dref, byddwn yn croesawu cystadleuwyr o bob rhan o’r Byd i’n Heisteddfod. Mae hyn yn costio arian a bydd y gigs ‘Yn Fyw yn Llangollen’ hyn yn ein helpu i wneud hynny.

Mae pob noson yn £10 ac yn para o 7.30 tan 11.00pm a bydd tocynnau ar gael o www.llangollen.net a Chanolfan Groeso Llangollen.