Mae rheolwyr becws wedi rhoi hwb ariannol amserol i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Yn gynharach eleni, lansiodd yr ŵyl apêl am arian oherwydd bod digwyddiad 2015 yn wynebu colled ariannol.
Cododd yr apêl £50,000 a bellach mae becws y Village Bakery, un o noddwyr ffyddlonaf yr ŵyl, yn bwriadu talu arian nawdd y flwyddyn nesaf yn fuan.
Mae’r Village Bakery wedi cefnogi’r Eisteddfod ers blynyddoedd lawer ac am y ddwy flynedd ddiwethaf cynyddodd y cwmni ei gyfraniad drwy noddi cyngherddau nos Sul, oedd yn cynnwys Status Quo yn 2014 ac UB40 eleni.
Mae’r cwmni hefyd wedi cytuno i noddi finale y flwyddyn nesaf, sef cyngerdd gyda Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues, gan wneud y taliad ym mis Hydref yn hytrach nag aros tan y flwyddyn nesaf pan fydd yr arian yn ddyledus.
Roedd clywed y newyddion yn fiwsig i glust cadeirydd newydd yr ŵyl, Dr Rhys Davies, a fu’n ymweld â rheolwr gyfarwyddwr y Village Bakery yn Academi Pobi a Chanolfan Arloesi newydd y cwmni ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, canolfan sydd wedi costio £3 miliwn.
Dywedodd Dr Davies: “Mae pethau’n edrych yn hynod addawol ac mae’r apêl wedi codi dros £50,000 sy’n arwydd arbennig o boblogrwydd y digwyddiad a’r cynhesrwydd y mae cymaint o bobl ledled y byd yn ei deimlo tuag at yr ŵyl.
“Rydym bob amser yn chwilio am nawdd ac mae gennym rai noddwyr eithriadol o dda a rhai cyfeillion ardderchog fel y Village Bakery sydd wedi ein cefnogi ers blynyddoedd lawer.
“Rydym wedi rhoi cychwyn buan i bethau o ran trefnu Eisteddfod 2016 gan ein bod eisoes wedi cyhoeddi dau o’r prif gyngherddau.
“Seren ein cyngerdd cyntaf eleni yw’r gantores glasurol boblogaidd, Katherine Jenkins, fydd yn canu’r arias o opera Carmen, a Jools Holland fydd seren y cyngerdd olaf.
“Mae’r flwyddyn nesaf yn garreg filltir hynod o bwysig yn hanes yr Eisteddfod.
“Fel Gŵyl Ryngwladol Caeredin a Gŵyl Ymylol Caeredin, rydym ni hefyd yn dathlu ein 70ain Eisteddfod, ar ôl i’r cyfan ddechrau nôl yn 1947.
“Rydym yn ymwybodol na allwn orffwys ar ein rhwyfau gan ein bod yn cystadlu yn erbyn holl wyliau mawr eraill y byd ac yn enwedig gwyliau yn Ewrop.
“Mae’n rhaid i bob sefydliad esblygu ac mae hynny’n wir am yr Eisteddfod, felly rydym am ailwampio’r wythnos.
“Canolbwynt yr holl wythnos fydd yr orymdaith fawreddog, a’t bwriad yw gwneud y digwyddiad hyd yn oed yn fwy lliwgar a thrawiadol.
“Rydym yn bwriadu symud yr orymdaith o’r dydd Mawrth i’r dydd Gwener, pan fydd mwy o gystadleuwyr ar gael i gymryd rhan.
“Rydym yn awyddus i hynny fod wrth galon yr Eisteddfod gyfan gyda’r cystadlaethau ar y naill ochr i’r orymdaith, a chyda thema a chystadlaethau i bob dydd ac yna cyngerdd gyda’r nos i ddilyn, ac yna diweddu gyda chystadleuaeth Côr y Byd fel digwyddodd y llynedd, a oedd yn wych.
“Byddwn hefyd yn cynnal parti 70 ar y nos Sul gyda Jools Holland yn arwain y dathliadau mewn cyngerdd a noddwyd gan y Village Bakery.”
“Mae ein noddwyr yn bwysig iawn i’r Eisteddfod ac rydym yn hynod o ddiolchgar i gwmnïau fel y Village Bakery, nid yn unig am gefnogi’r Eisteddfod ond hefyd drwy dalu’r arian yn gynnar sydd yn help aruthrol o ran llif arian. Cyfaill triw yng ngwir ystyr y gair.”
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y Village Bakery, Robin Jones, roedd Eisteddfod Llangollen yn rhan unigryw a phwysig o’r calendr diwylliannol rhyngwladol ac mae yr un mor berthnasol yn awr ag yr oedd pan sefydlwyd yr ŵyl i hyrwyddo heddwch a chytgord ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan bwysig o’m bywyd ers i mi gofio.
“Pan oeddwn yn blentyn bach, fel teulu byddem yn arfer derbyn cystadleuwyr i’r tŷ a chynnig lle iddyn nhw aros, felly hyd yn oed ers y blynyddoedd cynnar hynny, roedd mam a dad wedi cynnig llety i bobl fel y gwnaeth gweddill y gymuned.
“Mae fy nhad wedi bod yn gefnogwr brwd iawn i’r ŵyl dros y blynyddoedd ac fel cwmni rydym wedi bod yn noddwr bychan am nifer o flynyddoedd, ond ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethon ni benderfynu camu i’r adwy a noddi cyngerdd nos Sul.
“Mae ein cwsmeriaid wrth eu boddau, ac rydym ni yn mwynhau’r achlysur fel teulu. Mae’n dda i’r staff ac mae’n dda i’r gymuned leol.
“Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn sefydliad arbennig ac roeddem yn ymwybodol o anawsterau ariannol digwyddiad eleni felly gofynnais a allem dalu ein tâl nawdd yn gynt nag arfer, ac fe dderbyniwyd y syniad yn ddiolchgar.
“Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu helpu a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned trwy gefnogi’r digwyddiad rhagorol yma.”