GYMANFA GANU RYNGWLADOL I DDATHLU DYDD GWYL DEWI I’W CHYNNAL GAN EISTEDDFOD RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen newydd gyhoeddi eu bod am gynnal Gymanfa Ganu Ryngwladol, i ddathlu Dydd Gwyl Dewi fel eu digwyddiad codi arian diweddaraf. Fydd y Gymanfa ar Nos Sul, 3ydd o Fawrth yn Eglwys Sant Collen, Llangollen. Arweinydd y Gymanfa fydd Trystan Lewis, arweinydd poblogaidd iawn, ac organydd y noson fydd Owen Maelor Roberts. Rydym yn falch iawn fydd Ysgol Delynnau Derwent yn ymuno hefo ni ac hefyd, fydd negeseuon Gwyl Dewi gan grwpiau fydd yn ymddangos eleni yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o bob ban y byd.

Elen Mair Roberts, aelod o bwyllgor Cerdd a Llwyfannu’r Eisteddfod Dywedodd, “R’ydym yn eithriadol o hapus fod Trystan Lewis wedi cytuno i arwain ein Gymanfa. Mae Trystan yn eithriadol o boblogaidd ac yn brofiadol iawn yn ei faes fel arweinydd corawl, ac ‘r ydym wrth ein bodda iddo gytuo arwain ein dathliadau Gwyl Dewi yn Llangollen. Fydd blâs Ryngwladol i’r Gymanfa ac rydym wedi derbyn negeseuon mor bell i ffwrdd a Japan ac India. Hwn yw ychwanegiad diweddaraf o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ar gyfer yr Eisteddfod, ac os nad ydych wedi mynychu Gymanfa Ganu o’r blaen, mae gwledd o’ch blaen.

Mae Gymanfaoedd Canu yn ran annatod o dreftadaeth Cymru. Mae o’n nodwedd unigryw o gerddoriaeth Cymraeg, gwyl emynau cysegredig lle mae’r gynulleidfa’n canu mewn harmoni 4 rhan o dan ofal arweinydd gorawl.

Mae cerddoriaeth corawl wedi chwarae rhan mawr ym mywyd Trystan am ran fwyaf o’i fywyd. Tra’n israddedig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, fe ennillodd dwy waith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefo Cor Pantycelyn, ac mae o wedi arwain dros 200 o gymanfaoedd, a rhai o’r rhain yn Canada ac yn Ngwyl Gogledd America, yn ogystal ac ar raglenni teledu a radio.

Mae’r tocynnau ar gael ar-lein ac o Ganolfan Croeso Llangollen am £10 yr un.