‘Llangollen’s Got Talent’, meddai Cefin Roberts

Mae Cefin Roberts, arweinydd y côr o Gymru a ddaeth mor agos i ennill Britain’s Got Talent, wedi dweud bod ei ddyled e a’r côr i Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol yn Llangollen yn enfawr.

Roedd Cefin yn siarad wrth baratoi i fod yn aelod o dîm cyflwyno S4C ar gyfer y darllediad nos Sadwrn o gystadleuaeth Côr y Byd.

“Roedden ni fel côr yn y ffeinal ein hun y llynedd, ac yn cael y fraint o gystadlu. Llangollen oedd lle ddysgais i’r mwya ar fy siwrnai o arwain côr oherwydd y synau byd-eang a ffyrdd gwahanol o ganu,” meddai Cefin, fydd yn ymuno â’r cyflwynydd Nia Roberts o stiwdio S4C ar y maes ynghyd â phrif drefnydd cystadleuaeth Côr Cymru S4C, Gwawr Owen ar gyfer y gystadleuaeth.

“Mae Eisteddfod Llangollen yn cymharu’n ffafriol iawn â’r safon uchaf yn y byd. Rydym wedi dysgu drwy gystadlu yn erbyn y goreuon,” ychwanega.

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyrraedd uchafbwynt nos Sadwrn, 11 Gorffennaf pan fydd corau o bedwar ban byd yn cystadlu am deitl Côr y Byd 2015.

Côr y Byd yw un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Ryngwladol a nos Sadwrn, bydd enillwyr cystadlaethau arbennig y corau ieuenctid, cymysg, meibion, merched a’r categori agored yn mynd benben â’i gilydd ar gyfer teitl Côr y Byd 2015 ynghyd â thlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol o £3,000.

Meddai Cefin, “Dyma un o uchafbwyntiau cystadlaethau canu corawl yng Nghymru a Phrydain ac yn gystadleuaeth fyd-enwog. Y pleser mwyaf dwi’n ei gael yw gweld amrywiaeth synau ac amrywiaeth repertoire – o’r adloniannol a’r heriol i’r annisgwyl. Oherwydd eu bod nhw i gyd yn cynrychioli’r gorau yn eu categorïau, rydych chi’n gweld canu corawl ar ei orau.
“Mae wastad pethau newydd bob blwyddyn ac mae’n rhaid disgwyl yr annisgwyl. Ond rhaid cyfaddef mai’r corau ieuenctid a chymysg sy’n dal fy niddordeb.
“Y cyngor sydd gen i yw bod rhaid mwynhau’r broses o gyrraedd y ffeinal. Pob lwc i bob côr sy’n cymryd rhan.”
Ychwanegodd cyfarwyddwr cerddoriaeth Eisteddfod Llangollen, Eilir Owen Griffiths, “Mae gennym berfformwyr rhyngwladol o’r radd flaenaf o bob cwr o’r byd, ac mae hynny, ynghyd â’r holl liw a’r awyrgylch arbennig sy’n cael eu creu gan ein cystadleuwyr a’r croeso mawr y maen nhw’n ei fwynhau, yn gwneud hyn yn ddigwyddiad unigryw.”

Bydd darllediadau S4C o Langollen eleni yn dod i ben nos Sul, 12 Gorffennaf gyda chyngerdd gala Sain de America fydd yn cynnwys gwaith newydd gan Hector MacDonald i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia. Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y delynores Catrin Finch a’r tenor Wynne Evans i gyd yn perfformio ar y llwyfan.

Llangollen 2015: Côr y Byd
Nos Sadwrn 11 Gorffennaf 7.00, S4C

Llangollen 2015: Cyngerdd Gala
Nos Sul 12 Gorffennaf 7.30, S4C

Ar-lein: s4c.cymru
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

06.07.2015