Mae apêl byd-eang brys eisoes wedi denu £40,000 mewn addewidion er mwyn helpu i sicrhau dyfodol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Dim ond penwythnos diwethaf y cafodd yr apêl ei lansio yn dilyn y newyddion bod digwyddiad eleni yn wynebu colled ariannol o ganlyniad i werthiant tocynnau siomedig.
Mae swyddogion yr Eisteddfod wrth eu bodd gyda’r ymateb ac maent yn annog cefnogwyr i barhau i gyfrannu er mwyn ceisio cyrraedd y targed £70,000 i glirio’r llyfrau eleni.
Mi wnaeth cynulleidfa cyngerdd Burt Bacharach, oedd yn codi’r llen ar ddigwyddiad eleni, roi bron i £500 yn y bwcedi casglu yn ystod y digwyddiad a dilynwyd hynny gan lif cyson o roddion, mawr a bach drwy’r wythnos.
Mae trefnwyr yr Eisteddfod, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed ymhen dwy flynedd, wedi pwysleisio’r angen i bobl barhau i gyfrannu er mwyn sicrhau bod sefyllfa ariannol yr ŵyl yn ddiogel yn yr hir dymor
Daeth llu o addewidion ariannol o fewn cwta awr i agor y gronfa apêl.
Dywedodd Rhys Davies, Is-Gadeirydd yr Eisteddfod: “Cafwyd ymateb hollol wych, sy’n dangos cymaint o feddwl sydd gan bobl o’r Eisteddfod, ac rwyf i a gweddill y pwyllgor wedi cael ein cyffwrdd gan hynny.
“O fewn oriau roeddem wedi derbyn addewidion o arian a chefnogaeth ac mae hynny’n arwydd clir o deimladau go iawn pobl tuag at yr Eisteddfod sydd wedi chwarae rhan mor bwysig wrth ddod â heddwch a chytgord i’r byd am gymaint o flynyddoedd.
“Hoffwn bwysleisio, fodd bynnag, nad ydym yn hollol ddiogel eto a byddwn yn erfyn ar bobl i ddal ati i gyfrannu fel y gallwn sicrhau dyfodol yr ŵyl wych yma am flynyddoedd lawer i ddod.”
Gyda phen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed ar y gorwel, mae’r trefnwyr yn hyderus fod gan y digwyddiad lliwgar ddyfodol hir dymor, ond bod angen cefnogaeth ariannol er mwyn goresgyn yr anawsterau tymor byr.
Bydd cefnogwyr sy’n dymuno cyfrannu rhodd yn gallu gwneud hynny ar-lein drwy wefan yr Eisteddfod neu drwy ddefnyddio amlenni Cymorth Rhodd a fydd ar gael ym mhob un o’r cyngherddau yn ystod yr wythnos.
Eleni fydd y 69fed blwyddyn yn olynol i’r ŵyl gael ei chynnal ers iddi gael ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda’r bwriad o hyrwyddo heddwch a chytgord.
Mae’r digwyddiad eiconig bellach wedi tyfu i fod yn un o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth a dawns Ewrop, “Lle mae Cymry’n croesawu’r byd” a lle caiff tref Llangollen ei throi yn bair dadeni diwylliannol.
Eleni mae cystadleuwyr y mynychu’r Eisteddfod o wledydd mor bell i ffwrdd â’r Unol Daleithiau, Ghana, Tsieina, Hwngari, India, Jamaica, Moroco, Nepal, Slofacia a’r Iseldiroedd yn ogystal â’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Bu Tywysog Cymru a Duges Cernyw yno ar y dydd Mawrth lle buont yn gwylio digwyddiad lliwgar Gorymdaith y Cenhedloedd a chyfarfod â swyddogion yr Eisteddfod.
Lansiwyd yr apêl gan gadeirydd yr Eisteddfod Gethin Davies, sydd wedi gwasanaethu’r ŵyl yn ffyddlon ers blynyddoedd, ac a fynychodd y digwyddiad am y tro cyntaf pan oedd yn fachgen ifanc yn 1951.
Meddai: “Mae’r Eisteddfod yn ŵyl ddrud i’w llwyfannu, ac fel llawer o wyliau eraill, mae’r esgid ariannol wedi bod yn gwasgu’n ddiweddar.
“Mae bwrdd yr Eisteddfod wedi cyflwyno cynllun busnes tair blynedd i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n hyderus, os gallwn ddod drwy’r anawsterau presennol, y gallwn symud ymlaen i wneud elw.
“Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd wedi llunio rhaglen gyngherddau hynod atyniadol ar gyfer 2016 – gan gynnwys enw cyfarwydd iawn – ac rydym yn hyderus y bydd hynny’n llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd mwy, ac mae’r gyllideb ragarweiniol ar gyfer 2016 yn dangos gwarged rhesymol.