MAE DAVE, GWEITHIWR PROFFESIYNOL YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH, YN YMHYFRYDU YN YR HER O FOD YN GYFARWYDDWR ARTISTIG NEWYDD EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Dave Danford

Mae gweithiwr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant cerddoriaeth sydd wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y busnes wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Yn 39 oed, mae Dave Danford eisoes wedi bod â chysylltiad degawd o hyd â’r ŵyl eiconig ac wedi camu i’r rôl allweddol ar ôl nifer o flynyddoedd fel ei Rheolwr Cynhyrchu.

Mae’n “hynod gyffrous” am ei benodiad, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan fwrdd ymddiriedolaeth yr Eisteddfod. Ariennir y penodiad drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ac mae’n dweud ei fod yn ymhyfrydu yn yr her o oruchwylio pob agwedd gerddorol o’r ŵyl, o gyngherddau mawr yn cynnwys sêr mor amrywiol â Syr Tom Jones a’r Manic Street Preachers cyn ac yn ystod wythnos graidd yr ŵyl o 2-7 Gorffennaf, i’w rhaglen unigryw o gystadlaethau o safon ryngwladol.

Daw Dave, 39, yn wreiddiol o Abertawe ac astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer ei radd mewn offerynnau taro cerddorfaol.

Dechreuodd ei yrfa gerddoriaeth fel offerynnwr taro llawrydd yn gweithio gydag amrywiaeth o gerddorfeydd.

Chwaraeodd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, a’r Royal Northern Sinfonia a recordiodd gyda Dru Masters, cyfansoddwr thema The Apprentice ar deledu’r BBC, a chyn DJ BBC Radio 1, Judge Jules.

Rhwng 2017 a 2023 bu ar daith o amgylch y byd fel offerynnwr taro yn y sioe gerdd Bat Out of Hell: The Musical, gan gynnwys cyfnod yn y West End yn 2018, ac ar daith arena o amgylch Awstralia a Seland Newydd ar ddechrau 2023.

Ochr yn ochr â hyn, yn 2010 ychwanegodd bluen proffesiynol newydd yn ei het drwy sefydlu ei gwmni ei hun, Absolute Music Services, sy’n arbenigo mewn cydosod cerddorfeydd i chwarae mewn cyngherddau a theithiau mawr ledled y DU.

Mae rhai prosiectau blaenorol yn cynnwys darparu cerddorfeydd ar gyfer cyngerdd pen-blwydd y cyfansoddwr Hollywood Michael Giacchino yn 50 yn Neuadd Frenhinol Albert, Casablanca Live yn y Tŷ Opera Brenhinol a Home Alone in Concert yn Neuadd Frenhinol Albert, ac yn Aalborg, Denmarc.

Yn 2011 ffurfiodd y band Cymraeg Adran D a ryddhaodd ddau albwm o ganeuon traddodiadol Cymreig wedi eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif, gyda nifer o draciau yn dal i gael eu cynnwys ar restr chwarae BBC Radio Cymru.

Dechreuodd Dave ei gysylltiad ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am y tro cyntaf yn 2012 pan, drwy weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl ar y pryd, Eilir Owen Griffiths, ddarparu’r gerddorfa ar gyfer perfformiad o The Peacemakers gan Syr Karl Jenkins yn yr ŵyl ac, yn y blynyddoedd dilynol, bu’n helpu i drefnu cyngherddau yn cynnwys artistiaid fel Alfie Boe, y Fonesig Evelyn Glennie, a Rolando Villazón. Mae’n edrych ymlaen at roi rhai o’i syniadau arloesol ar waith i symud yr ŵyl yn ei blaen.

Ar wahân i’w holl rolau eraill mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig ei gerddorfa ei hun, y British Sinfonietta, sydd wedi ennill enw da iddi’i hun ym myd perfformio proffesiynol ers ei sefydlu yn 2010.

Mae eisoes wedi trefnu i’r mentrau eraill hyn fod mewn dwylo diogel wrth iddo gamu i’w rôl ganolog yn Llangollen.

Mae Dave yn dweud nad yw am funud yn bychanu’r her y mae’n ei hwynebu nawr gyda gŵyl eiconig Llangollen sydd bellach yn brwydro’n galed i adennill a chryfhau ei hapêl ryngwladol a chartref ar ôl dioddef rhwystr ariannol mawr yr haf diwethaf.

Mae’r Eisteddfod bellach wedi sefydlu partneriaeth aruthrol gyda’r asiantaeth ryngwladol Cuffe & Taylor i archebu llu o’r prif artistiaid ar gyfer ei chyngherddau gyda’r nos yn ystod ac yn y cyfnod cyn yr ŵyl, o Syr Tom Jones i Paloma Faith ac o Gregory Porter i’r Manic Street Preachers.

Mae hefyd wedi ailwampio ei raglen gystadlaethau i sicrhau cydbwysedd perffaith rhwng agweddau traddodiadol a mwy hygyrch.

“Mae’r cyngherddau rydyn ni wedi’u cyhoeddi dros yr wythnosau diwethaf yn cynrychioli’r pecyn adloniant mwyaf anhygoel rydyn ni erioed wedi’i drefnu, gyda gwir sêr ac apêl eang,” meddai Dave.

“Rwyf hefyd wrth fy modd â’r rhan o’m swydd sy’n ymwneud â rhoi ein cystadlaethau at ei gilydd a sicrhau bod ein cystadlaethau’n rhedeg yn esmwyth, ac rwyf eisoes wedi cael llawer o brofiad yn fy swydd ddiwethaf fel rheolwr cynhyrchu.

“Rydyn ni’n gwneud pethau mewn ffordd newydd ar gyfer 2024 trwy ymgorffori rowndiau terfynol rhai o’r cystadlaethau yn ystod y dydd yn y cyngherddau gyda’r nos, er enghraifft trwy gael rownd derfynol cystadleuaeth y côr ieuenctid ar nos Fercher yr ŵyl yn ystod y cyngerdd nos y noson honno.

“Rydyn ni wedi gwneud hyn oherwydd efallai bod gennym ni rai pobl sy’n dod draw ar gyfer y cyngherddau gyda’r nos a ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod gennym ni gystadlaethau yn digwydd trwy gydol y dydd. Felly gobeithio y bydd hyn yn helpu i roi’r darlun cyffredinol iddynt o’r hyn rydym yn ei wneud.”

Ychwanegodd Dave, sy’n briod â Siân ac sydd â dau o blant sy’n naw a phump oed: “Rwyf wrth fy modd am ddod yn Gyfarwyddwr Artistig gan mai dyna yw fy swydd ddelfrydol.

“Rwyf hefyd yn gyffrous iawn am y gobaith o helpu’r Eisteddfod i oresgyn yr heriau y mae wedi’u hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf ac ni allaf aros i fis Gorffennaf nesaf ddod.”

Dywedodd yr Athro Chris Adams, cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym yn falch iawn o benodi Dave Danford i’r swydd ganolog hon yn ein gŵyl. Fel ffigwr adnabyddus yn niwydiant cerddoriaeth y DU, gydag enw da am arloesi, mae Dave wedi gweithio gyda’n Heisteddfod ers sawl blwyddyn ac fel Rheolwr Cynhyrchu wedi bod yn gyfrifol am roi nifer o nosweithiau cofiadwy i ni. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Dave ar rai o’i syniadau llawn dychymyg i symud ein gŵyl ymlaen.

“Mae’n rhywun sy’n rhannu ethos ein gŵyl sef y gallwn, trwy rannu cerddoriaeth a dawns, hyrwyddo harmoni rhyngwladol, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef i gyflwyno Eisteddfod Llangollen 2024 a fydd yn cael ei thrafod am genedlaethau.”

Gwrandewch ar Dave yn siarad â Roy Noble ar ei sioe ar BBC Radio Wales: Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar BBC Radio Wales