Terry Waite yn rhybuddio cynulleidfa Eisteddfod Llangollen fod y ‘Trydydd Rhyfel Byd eisoes wedi dechrau’

Mae’r Trydydd Rhyfel Byd eisoes wedi dechrau, yn ôl yr ymgyrchydd heddwch Terry Waite CBE.
Cyflwynwyd y rhybudd gan Mr Waite wrth draddodi anerchiad pwerus i gynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Ef yw Llywydd yr Eisteddfod ac mi dreuliodd bron i bum mlynedd yn gaeth fel gwystl grŵp terfysgol yn Beirut.

Wrth drafod argyfwng cynyddol terfysgaeth ryngwladol 10 mlynedd ers ymosodiadau 7/7 yn Llundain lle lladdwyd 52 o bobl, dywedodd Mr Waite: “Rydym eisoes mewn trydydd rhyfel byd ond y tro hwn mae’r ddeinameg yn wahanol.
“Mae’r rhyfel yn digwydd ar raddfa fyd-eang ond yn hytrach na byddinoedd yn ymladd ei gilydd rydym mewn sefyllfa lle gall grwpiau terfysgol daro unrhyw le ar unrhyw adeg.
“Gall grwpiau o’r fath fygwth bywydau pobl ddiniwed mewn unrhyw fan, boed yn Awstralia, India neu’r Deyrnas Unedig.”
Ond ychwanegodd: “Mae’r Eisteddfod yn ymwneud â grym cerddoriaeth. Mae cerddoriaeth yn rym dros ddaioni ac yn dod â chytgord i’r enaid.”
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, roedd Mr Waite mewn hwyliau ysgafnach wrth iddo lofnodi copïau o’i lyfr newydd i ymwelwyr â’r Eisteddfod.
Teitl ei nofel gyntaf, mewn clawr caled, yw ‘The Voyage of the Golden Handshake’.
Mae’r llyfr yn adrodd hanes dyn o Grimsby sy’n deffro ar fore cyntaf ei ymddeoliad ac yn penderfynu mynd â’i wraig ar fordaith foethus eu breuddwydion ac yn disgrifio’r anturiaethau ddoniol a’r troeon trwstan ddaw i’w rhan ar eu teithiau.
Un o’r rhai cyntaf i gael copi wedi’i lofnodi gan yr awdur oedd Janet Hance o Garboldisham yn Norfolk.
Meddai: “Mae fy ngŵr a minnau wedi bod yn dod i’r Eisteddfod am y 15 mlynedd diwethaf.
“Rydym yn mwynhau’r cystadlaethau’n arbennig ac yn gwylio cymaint ag y gallwn ohonynt.
“Prynais un o lyfrau blaenorol Terry, o’r enw ‘Travels with a Primate’, a oedd yn fwy difrifol ac yn sôn am ei gyfnod fel y llysgennad arbennig Archesgob Caergaint.
“Rwy’n credu bod hon fymryn yn wahanol ac rwy’n edrych ymlaen at ei darllen.”
Cwsmer arall a brynodd y nofel oedd Debbie Edwards o Goedpoeth, ger Wrecsam
Meddai: “Rwy’n credu y bydd yn ddarllen gwyliau delfrydol.”
Roedd Mrs Edwards, sydd wedi bod yn ymwelydd cyson â’r Eisteddfod, ar y maes gyda’i mam, Elaine Wright, a symudodd i’r ardal yn ddiweddar o Landudno.
Dywedodd: “Roedd fy mam yn cadw gwesty yn y dref ac er ei bod yn arfer argymell ei gwesteion i ymweld â’r Eisteddfod, dyma’r tro cyntaf iddi hi ei hun fod yn yr ŵyl.”
Dywedodd Mr Waite fod ei lyfr newydd yn mynd yn dda a bod copïau wedi gwerthu allan mewn seisynau arwyddo tebyg mewn gwyliau llyfrau yn y Gelli Gandryll a Chaeredin.